- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) 2022.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym am 4.00 a.m. ar 11 Chwefror 2022.
(3) Mae Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) 2020(1) wedi eu dirymu.
(4) Mae Rhan 3 o Reoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol a Hysbysu) (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) 2021(2) wedi ei dirymu.
2.—(1) Yn y Rheoliadau hyn—
mae i “cerbyd nwyddau” yr ystyr a roddir i “goods vehicle” yn adran 192 o Ddeddf Traffig Ffyrdd 1988(3);
mae i “contractwr llywodraeth” yr ystyr a roddir i “government contractor” yn adran 12(2) o Ddeddf Cyfrinachau Swyddogol 1989;
ystyr “coronafeirws” (“coronavirus”) yw coronafeirws syndrom anadlol acíwt difrifol 2 (SARS-CoV-2);
ystyr “darparwr prawf” (“test provider”) yw darparwr prawf cyhoeddus neu ddarparwr prawf preifat;
ystyr “darparwr prawf cyhoeddus” (“public test provider”) yw person sy’n darparu neu’n gweinyddu prawf gan arfer pwerau o dan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006(4), Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 2006, Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Yr Alban) 1978(5), neu Orchymyn Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Personol (Gogledd Iwerddon) 1972(6);
ystyr “darparwr prawf preifat” (“private test provider”) yw darparwr prawf ac eithrio darparwr prawf cyhoeddus;
ystyr “dyfais” (“device”) yw dyfais feddygol ddiagnostig in vitro o fewn yr ystyr a roddir i “in vitro diagnostic medical device” yn rheoliad 2(1) o Reoliadau Dyfeisiadau Meddygol 2002(7);
ystyr “GIG” (“NHS”) yw’r gwasanaeth iechyd a barheir o dan adran 1(1) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 2006(8);
mae i “gwas i’r goron” yr ystyr a roddir i “crown servant” yn adran 12(1)(a) i (e) o Ddeddf Cyfrinachau Swyddogol 1989(9);
ystyr “gweithiwr cludiant ffyrdd” (“road haulage worker”) yw—
gyrrwr cerbyd nwyddau sy’n cael ei ddefnyddio mewn cysylltiad â chludo nwyddau, ac eithrio nwyddau at ddefnydd personol anfasnachol y gyrrwr, neu
person a gyflogir gan ddeiliad trwydded Gymunedol a ddyroddwyd o dan Erthygl 4 o Reoliad (EC) Rhif 1072/2009 Senedd Ewrop a’r Cyngor(10), ac sy’n gweithredu yng nghwrs ei gyflogaeth;
ystyr “gwybodaeth am deithiwr” (“passenger information”) yw—
pan fo P yn deithiwr cymwys, yr wybodaeth a bennir yn Rhan 1 o Atodlen 1;
pan na fo P yn deithiwr cymwys, yr wybodaeth a bennir yn Rhannau 1 a 2 o Atodlen 1;
mae “gyrrwr” (“driver”) yn cynnwys person sy’n teithio mewn cerbyd fel gyrrwr wrth gefn;
ystyr “penodolrwydd” (“specificity”), mewn perthynas â dyfais, yw pa mor aml y mae’r ddyfais yn cynhyrchu canlyniad negatif yn gywir;
ystyr “plentyn” (“child”) yw person o dan 18 oed ac mae unrhyw gyfeiriad at “oedolyn” (“adult”) i’w ddehongli yn unol â hynny;
ystyr “prawf cymhwysol” (“qualifying test”) yw prawf sy’n brawf cymhwysol at ddibenion rheoliad 7;
ystyr “prawf diwrnod 2” (“day 2 test”) yw prawf sy’n cydymffurfio â rheoliad 8(5) a pharagraff 1 o Atodlen 4;
ystyr “prawf gweithlu” (“workforce test”) yw prawf a gymerir ar gyfer canfod y coronafeirws, a ddarperir neu a weinyddir o dan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006;
ystyr “prawf gweithlu arall” (“replacement workforce test”) yw prawf a gymerir ar gyfer canfod y coronafeirws, a ddarperir neu a weinyddir o dan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 ac a gymerir yn unol â rheoliad 9(4) neu reoliad 11(3);
ystyr “Rheoliadau 2020” (“the 2020 Regulations”) yw Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) 2020;
ystyr “y Rheoliadau Cyfyngiadau Coronafeirws” (“the Coronavirus Restrictions Regulations”) yw Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020(11);
ystyr “sensitifrwydd” (“sensitivity”), mewn perthynas â dyfais, yw pa mor aml y mae’r ddyfais yn cynhyrchu canlyniad positif yn gywir;
ystyr “swyddog mewnfudo” (“immigration officer”) yw person a benodwyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol yn swyddog mewnfudo o dan baragraff 1 o Atodlen 2 i Ddeddf Mewnfudo 1971(12);
mae i “teithiwr cymwys” (“eligible traveller”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 3;
ystyr “Tystysgrif COVID Ddigidol yr UE” (“EU Digital COVID Certificate”) yw tystysgrif o gofnodion COVID-19 a ddyroddir gan wladwriaeth AEE, Aelod-wladwriaeth o’r Gymdeithas Fasnach Rydd Ewropeaidd, Andorra, Gwladwriaeth Dinas y Fatican, Monaco neu San Marino.
(2) At ddiben y Rheoliadau hyn, mae gan berson gyfrifoldeb dros blentyn os oes gan y person—
(a)gwarchodaeth neu ofal am y plentyn, neu
(b)cyfrifoldeb rhiant dros y plentyn (o fewn ystyr Deddf Plant 1989(13)).
(3) Yn y Rheoliadau hyn, mae i—
“yr ardal deithio gyffredin”(14);
“cerbyd awyr”(15);
“llong”(16);
“porthladd”(17),
yr un ystyr ag a roddir i “the common travel area”, “aircraft”, “ship” a “port” yn Neddf Mewnfudo 1971.
(4) At ddibenion y Rheoliadau hyn, nid yw person sy’n teithio ar gerbyd awyr neu long i’w drin fel pe bai wedi bod mewn man oni bai—
(a)bod y person yn dod oddi ar y cerbyd awyr neu’r llong pan fo yn y man, neu
(b)pan na fo’r person yn dod oddi ar y cerbyd awyr neu’r llong pan fo yn y man, bod unrhyw deithwyr eraill yn mynd ar y cerbyd awyr neu’r llong yn y man.
(5) At ddibenion y Rheoliadau hyn, mae person wedi dechrau ei daith i Gymru y tu allan i’r ardal deithio gyffredin os oedd y man ymadael gwreiddiol y tu allan i’r ardal deithio gyffredin, pa un a oedd y man ymadael diwethaf ar y daith honno o fewn yr ardal deithio gyffredin ai peidio.
3.—(1) Yn y Rheoliadau hyn, mae person (“P”) yn deithiwr cymwys os yw P yn bodloni gofynion paragraff (2) ac unrhyw un neu ragor o’r gofynion ym mharagraffau (3) i (7) o’r rheoliad hwn.
(2) Mae P yn cyrraedd Cymru ar ôl dechrau ei daith y tu allan i’r ardal deithio gyffredin.
(3) O ran P—
(a)mae wedi cwblhau cwrs o ddosau o frechlyn awdurdodedig a chafwyd y dos olaf o leiaf 14 o ddiwrnodau cyn iddo gyrraedd Cymru,
(b)os yw’n ofynnol gan swyddog mewnfudo neu weithredwr gwasanaeth masnachol y mae P yn teithio arno i Gymru o’r tu allan i’r ardal deithio gyffredin, mae’n gallu darparu prawf ei fod yn bodloni’r gofyniad yn is-baragraff (a) ar ffurf—
(i)pàs COVID y GIG, neu bàs cyfatebol oddi wrth GIG yr Alban, GIG Cymru neu’r Adran Iechyd yng Ngogledd Iwerddon,
(ii)tystysgrif COVID Ddigidol yr UE,
(iii)tystysgrif o gofnodion COVID-19 a ddyroddir gan drydedd wlad neu diriogaeth a gymeradwywyd,
(iv)Tystysgrif Gogledd America,
(v)cerdyn brechu’r Canolfannau Rheoli ac Atal Clefydau, neu
(vi)tystysgrif brechlyn, ac
(c)mae wedi datgan bod P wedi cwblhau cwrs o frechlyn awdurdodedig gan ddefnyddio cyfleuster y cyfeirir ato yn rheoliad 6(1).
(4) O ran P—
(a)mae wedi cymryd rhan, neu yn cymryd rhan, mewn treial clinigol o frechlyn awdurdodedig ar gyfer brechu yn erbyn y coronafeirws a gynhaliwyd neu a gynhelir yn unol â gofynion Rheoliadau Meddyginiaethau i’w Defnyddio gan Bobl (Treialon Clinigol) 2004(18),
(b)mae’n gallu darparu prawf o’r cymryd rhan hwnnw os yw hynny’n ofynnol gan swyddog mewnfudo neu weithredwr gwasanaeth masnachol y mae P yn teithio arno i Gymru o’r tu allan i’r ardal deithio gyffredin, ac
(c)mae wedi datgan bod P wedi cymryd rhan neu yn cymryd rhan mewn treial clinigol o’r fath gan ddefnyddio cyfleuster y cyfeirir ato yn rheoliad 6(1).
(5) O ran P—
(a)mae wedi cymryd rhan, neu yn cymryd rhan, mewn treial clinigol yn Unol Daleithiau America gan y Weinyddiaeth Bwyd a Diod o frechlyn ar gyfer brechu yn erbyn y coronafeirws, a
(b)mae’n gallu darparu prawf o’r cymryd rhan hwnnw drwy gerdyn brechu’r Canolfannau Rheoli ac Atal Clefydau os yw hynny’n ofynnol gan swyddog mewnfudo neu weithredwr gwasanaeth masnachol y mae P yn teithio arno i Gymru o’r tu allan i’r ardal deithio gyffredin.
(6) Mae P o dan 18 oed pan fo’n cyrraedd Cymru.
(7) O ran P—
(a)mae wedi cwblhau cwrs o ddosau o frechlyn o dan raglen frechu’r Deyrnas Unedig dramor, a chafwyd y dos olaf o leiaf 14 o ddiwrnodau cyn iddo gyrraedd Cymru,
(b)mae’n gallu darparu prawf, os yw hynny’n ofynnol gan swyddog mewnfudo, ei fod yn bodloni’r gofynion yn is-baragraff (a), ac
(c)mae wedi datgan bod P wedi cwblhau cwrs o ddosau o frechlyn fel y’i disgrifir yn is-baragraff (a) gan ddefnyddio cyfleuster y cyfeirir ato yn rheoliad 6(1).
(8) At ddibenion paragraff (3), mae P wedi cwblhau cwrs o ddosau os yw P wedi cael y cwrs cyflawn o ddosau a bennir—
(a)yn y crynodeb o nodweddion y cynnyrch a gymeradwywyd fel rhan o’r awdurdodiad marchnata ar gyfer y brechlyn awdurdodedig, neu
(b)yn y cyfarwyddiadau defnyddio a gymeradwywyd fel rhan o’r awdurdodiad gan yr awdurdod trwyddedu ar sail dros dro o dan reoliad 174 o Reoliadau Meddyginiaethau Dynol 2012(19) ar gyfer y brechlyn awdurdodedig.
(9) At ddibenion paragraff (3)—
(a)pan fo P wedi cael dos o un brechlyn awdurdodedig a dos o frechlyn awdurdodedig gwahanol, bernir bod P wedi cwblhau cwrs o ddosau o frechlyn awdurdodedig;
(b)pan fo P wedi cael o leiaf dau ddos o unrhyw un o’r brechlynnau y cyfeirir atynt ym mharagraff (d) o’r diffiniad o “brechlyn awdurdodedig”, bernir bod P wedi cwblhau cwrs o ddosau o frechlyn awdurdodedig.
(10) At ddibenion paragraff (7), mae P wedi cwblhau cwrs o ddosau o frechlyn os yw P wedi cael y cwrs cyflawn o ddosau o’r brechlyn fel y’i pennir yng nghanllawiau’r gweithgynhyrchydd ar gyfer y brechlyn hwnnw.
(11) At ddibenion paragraff (7), pan fo P wedi cael—
(a)dos o frechlyn awdurdodedig, a
(b)dos o frechlyn o dan raglen frechu’r Deyrnas Unedig dramor,
bernir bod P wedi cwblhau cwrs o ddosau o frechlyn o dan raglen frechu’r Deyrnas Unedig dramor.
(12) At ddibenion paragraff (7), pan fo P wedi cael—
(a)dos o un brechlyn o dan raglen frechu’r Deyrnas Unedig dramor, a
(b)dos o frechlyn gwahanol o dan raglen frechu’r Deyrnas Unedig dramor,
bernir bod P wedi cwblhau cwrs o ddosau o frechlyn o dan raglen frechu’r Deyrnas Unedig dramor.
(13) At ddibenion y rheoliad hwn, mae plentyn i’w drin fel pe bai’n gwneud datganiad gan ddefnyddio cyfleuster y cyfeirir ato yn rheoliad 6(1), ac yn darparu unrhyw brawf sy’n ofynnol, os gwneir y datganiad hwnnw, ac os darperir y prawf, gan berson sy’n teithio gyda’r plentyn hwnnw ac sydd â chyfrifoldeb drosto.
(14) Yn y rheoliad hwn—
mae i “yr awdurdod trwyddedu” yr ystyr a roddir i “the licensing authority” yn rheoliad 6(2) o Reoliadau Meddyginiaethau Dynol 2012;
ystyr “awdurdodiad marchnata” (“marketing authorisation”)—
mewn perthynas â brechlyn a awdurdodwyd i’w gyflenwi yn y Deyrnas Unedig neu mewn Aelod-wladwriaeth, yw’r ystyr a roddir i “marketing authorisation” yn rheoliad 8(1) o Reoliadau Meddyginiaethau Dynol 2012;
mewn perthynas â brechlyn a awdurdodwyd i’w gyflenwi mewn gwlad berthnasol a restrir yng ngholofn gyntaf y tabl ym mharagraff (15) ac eithrio Aelod-wladwriaeth, yw awdurdodiad marchnata a roddwyd gan y rheoleiddiwr perthnasol ar gyfer y wlad;
ystyr “brechlyn awdurdodedig” (“authorised vaccine”) yw cynnyrch meddyginiaethol ar gyfer brechu yn erbyn y coronafeirws—
mewn perthynas â dosau a geir yn y Deyrnas Unedig—
a awdurdodwyd i’w gyflenwi yn y Deyrnas Unedig yn unol ag awdurdodiad marchnata, neu
a awdurdodwyd gan yr awdurdod trwyddedu ar sail dros dro o dan reoliad 174 o Reoliadau Meddyginiaethau Dynol 2012;
mewn perthynas â dosau a geir mewn gwlad berthnasol a restrir yng ngholofn gyntaf y tabl ym mharagraff (15), a awdurdodwyd i’w gyflenwi yn y wlad honno yn dilyn gwerthusiad gan y rheoleiddiwr perthnasol ar gyfer y wlad;
mewn perthynas â dosau a geir mewn unrhyw wlad neu diriogaeth arall (gan gynnwys gwlad berthnasol a restrir ym mharagraff (16)), a fyddai’n awdurdodedig fel y darperir ar ei gyfer ym mharagraff (a)(i) neu (ii) pe bai’r dosau wedi eu cael yn y Deyrnas Unedig;
mewn perthynas â dosau a geir mewn unrhyw wlad yn y byd, y brechlynnau hynny sydd—
wedi eu rhestru yn llinellau 10, 11, 12, 13 neu 14 o’r Ddogfen Ganllaw “Status of COVID-19 Vaccines within WHO EUL/PQ evaluation process” a gyhoeddwyd gan Sefydliad Iechyd y Byd ar 23 Rhagfyr 2021, a
wedi eu hawdurdodi neu eu hardystio mewn gwlad reoleiddiedig a restrir ym mharagraff (16);
ystyr “GIG yr Alban” (“NHS Scotland”) yw’r gwasanaeth iechyd a barheir o dan adran 1(1) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Yr Alban) 1978;
ystyr “GIG Cymru” (“NHS Wales”) yw’r gwasanaeth iechyd a barheir o dan adran 1(1) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006;
ystyr “gwlad berthnasol” (“relevant country”) yw gwlad neu diriogaeth a restrir yng ngholofn gyntaf y tabl ym mharagraff (15) neu wlad neu diriogaeth a restrir ym mharagraff (16);
ystyr “pàs COVID y GIG” (“NHS COVID pass”) yw’r cofnodion COVID-19 ar ap ffôn clyfar y GIG a ddatblygir ac a weithredir gan yr Ysgrifennydd Gwladol drwy’r wefan ar NHS.uk neu drwy lythyr ar ôl brechiad COVID-19 a geir oddi wrth y GIG;
ystyr “rhaglen frechu’r Deyrnas Unedig dramor” (“United Kingdom vaccine roll-out overseas”) yw gweinyddu’r brechlyn yn erbyn y coronafeirws i—
gweision i’r goron, contractwyr y llywodraeth neu bersonél arall sydd wedi eu lleoli neu eu seilio dramor a’u dibynyddion o dan y cynllun o’r enw rhaglen frechu COVID-19 staff y Swyddfa Dramor, y Gymanwlad a Datblygu, neu
personél milwrol neu sifilaidd, contractwyr y llywodraeth a’u dibynyddion mewn lleoliadau milwrol tramor, gan gynnwys y tiriogaethau tramor Prydeinig, Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw, o dan y cynllun brechu a ddarperir neu a gymeradwyir gan Wasanaethau Meddygol Amddiffyn y DU;
ystyr “rheoleiddiwr perthnasol” (“relevant regulator”), mewn perthynas â gwlad berthnasol, yw’r rheoleiddiwr a nodir yn y rhes gyfatebol o ail golofn y tabl ym mharagraff (15), ac mae cyfeiriad at reoleiddiwr yn y tabl hwnnw yn gyfeiriad at yr awdurdod rheoleiddiol sy’n dwyn yr enw hwnnw a ddynodwyd yn Awdurdod Rheoleiddiol Llym gan Sefydliad Iechyd y Byd yn unol â gweithrediad Cyfleuster COVAX;
mae i “treial clinigol” yr ystyr a roddir i “clinical trial” yn rheoliad 2(1) o Reoliadau Meddyginiaethau i’w Defnyddio gan Bobl (Treialon Clinigol) 2004;
ystyr “tystysgrif brechlyn” (“vaccine certificate”) yw tystysgrif mewn Saesneg, Ffrangeg neu Sbaeneg a ddyroddir gan awdurdod iechyd cymwys gwlad berthnasol, ac eithrio gwlad neu diriogaeth Ewropeaidd a restrir yn y tabl ym mharagraff (15) neu Unol Daleithiau America, sy’n cynnwys—
enw llawn P;
dyddiad geni P;
enw a gweithgynhyrchydd y brechlyn y mae P wedi ei gael;
y dyddiad y cafodd P bob dos o’r brechlyn;
manylion ynghylch naill ai pwy yw dyroddwr y dystysgrif neu’r wlad y rhoddwyd y brechlyn ynddi, neu’r ddau;
ystyr “Tystysgrif Gogledd America” (“North American Certificate”) yw—
Excelsior Pass Plus (Efrog Newydd);
Cofnod Brechlyn COVID-19 Digidol (California);
WA Verify (talaith Washington).
(15) Mae’r tabl y cyfeirir ato yn y diffiniadau o “gwlad berthnasol” a “rheoleiddiwr perthnasol” yn dilyn—
Gwlad berthnasol | Rheoleiddiwr perthnasol |
---|---|
Aelod-wladwriaeth | Yr Asiantaeth Feddyginiaethau Ewropeaidd |
Andorra | Yr Asiantaeth Feddyginiaethau Ewropeaidd |
Awstralia | Y Weinyddiaeth Nwyddau Therapiwtig |
Canada | Iechyd Canada |
Gwlad yr Iâ | Yr Asiantaeth Feddyginiaethau Ewropeaidd |
Gwladwriaeth Dinas y Fatican | Yr Asiantaeth Feddyginiaethau Ewropeaidd |
Liechtenstein | Yr Asiantaeth Feddyginiaethau Ewropeaidd |
Monaco | Yr Asiantaeth Feddyginiaethau Ewropeaidd |
Norwy | Yr Asiantaeth Feddyginiaethau Ewropeaidd |
San Marino | Yr Asiantaeth Feddyginiaethau Ewropeaidd |
Y Swistir | Swissmedic |
Unol Daleithiau America | Gweinyddiaeth Bwyd a Chyffuriau yr Unol Daleithiau |
(16) Y gwledydd a’r tiriogaethau y cyfeirir atynt yn y diffiniad o “gwlad berthnasol” yw—
Yr Aifft
Albania
Algeria
Angola
Anguilla
Antigua a Barbuda
Ardaloedd Safleoedd Sofran Akrotiri a Dhekelia ar Ynys Cyprus
Yr Ariannin
Armenia
Azerbaijan
Y Bahamas
Bahrain
Bangladesh
Barbados
Belarws
Belize
Bermuda
Bhutan
Bolivia
Bosnia a Herzegovina
Botswana
Brasil
Brunei
Cambodia
Cameroon
Chile
Colombia
Costa Rica
Cote d’Ivoire
De Affrica
De Georgia ac Ynysoedd Sandwich y De
De Korea
De Sudan
Djibouti
Dominica
Dwyrain Timor
Ecuador
Yr Emiradau Arabaidd Unedig
Eswatini
Fietnam
Ffiji
Y Gambia
Georgia
Ghana
Gibraltar
Gogledd Cyprus
Gogledd Macedonia
Grenada
Guatemala
Guernsey
Guyana
Gweriniaeth Dominica
Gweriniaeth Ddemocrataidd Congo
Gwlad yr Iorddonen
Gwlad Thai
Honduras
Hong Kong
India
Indonesia
Irac
Iran
Israel
Jamaica
Japan
Jersey
Kazakhstan
Kenya
Kosovo
Kuwait
Kyrgyzstan
Laos
Lesotho
Libanus
Liberia
Libya
Madagascar
Malawi
Malaysia
Maldives
Mali
Mauritania
Mauritius
Mecsico
Moldofa
Mongolia
Montenegro
Montserrat
Morocco
Mozambique
Namibia
Nepal
Niger
Nigeria
Oman
Pacistan
Palau
Panama
Papua Guinea Newydd
Paraguay
Periw
Qatar
Rwanda
Rhanbarth Gweinyddol Arbennig Macao
Saint Helena, Ascension a Tristan da Cunha
Samoa
Sao Tome a Principe
Saudi Arabia
Seland Newydd
Senegal
Serbia
Seychelles
Sierra Leone
Singapore
Sri Lanka
St Kitts a Nevis
St Lucia
St Vincent a’r Grenadines
Suriname
Taiwan
Tanzania
Tiriogaeth Brydeinig yr Antarctig
Tiriogaeth Brydeinig Cefnfor India
Tiriogaethau Meddianedig Palesteina
Tonga
Trinidad a Tobago
Tsieina
Tunisia
Turkmenistan
Twrci
Uganda
Uruguay
Uzbekistan
Vanuatu
Wcrain
Ynys Manaw
Ynysoedd Cayman
Ynysoedd Falkland
Ynysoedd Philippines
Ynysoedd Pitcairn, Henderson, Ducie ac Oeno
Ynysoedd Prydeinig y Wyryf
Ynysoedd Solomon
Ynysoedd Turks a Caicos
Zambia
Zimbabwe.
(17) Mae’r gwledydd a’r tiriogaethau a ganlyn yn drydydd gwledydd neu diriogaethau a gymeradwywyd at ddibenion y Rhan hon—
Albania
Armenia
Cape Verde
El Salvador
Gogledd Macedonia
Israel
Morocco
Panama
Togo
Twrci
Wcrain
Ynysoedd Ffaro.
(18) Pan fo cwrs o ddosau o frechlyn awdurdodedig wedi ei weinyddu i berson (“P”) gan berson sy’n gweithredu ar ran y Cenhedloedd Unedig ac sydd wedi ei awdurdodi i weinyddu’r brechlyn yn y rhinwedd honno, mae P i’w drin fel pe bai wedi cael y dosau hynny mewn gwlad berthnasol a restrir ym mharagraff (16), ac mae unrhyw gyfeiriad at berson o wlad berthnasol yn y Rheoliadau hyn i’w ddehongli yn unol â hynny.
4.—(1) Mae paragraff (2) yn gymwys—
(a)pan fo’n ofynnol i berson (“P”), yn union cyn i’r Rheoliadau hyn ddod i rym, beidio ag ymadael â mangre benodedig yng Nghymru, neu beidio â bod y tu allan i’r fangre benodedig honno, yn unol â rheoliad 7(1) neu reoliad 8(1) o Reoliadau 2020 (“y gofyniad i ynysu”), a
(b)pan na fyddai’r gofyniad i ynysu wedi bod yn gymwys i P pe bai’r gwledydd a’r tiriogaethau a restrir ym mharagraff (3) wedi eu cynnwys yn rheoliad 2A(12) o Reoliadau 2020 yn union cyn i P gyrraedd Cymru.
(2) Mae’r gofyniad i ynysu yn peidio â bod yn gymwys i P pan ddaw’r Rheoliadau hyn i rym.
(3) Y gwledydd a’r tiriogaethau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1)(b) yw—
Algeria
Cape Verde
De Sudan
Dwyrain Timor
El Salvador
Guatemala
Iran
Kazakhstan
Kyrgyzstan
Mecsico
Rhanbarth Gweinyddol Arbennig Macao
Sao Tome a Principe
Togo
Tonga
Tsieina
Turkmenistan.
O.S. 2020/574 (Cy. 132), a ddiwygiwyd gan O.S. 2020/595 (Cy. 136), O.S. 2020/714 (Cy. 160), O.S. 2020/726 (Cy. 163), O.S. 2020/804 (Cy. 177), O.S. 2020/817 (Cy. 179), O.S. 2020/840 (Cy. 185), O.S. 2020/868 (Cy. 190), O.S. 2020/886 (Cy. 196), O.S. 2020/917 (Cy. 205), O.S. 2020/942, O.S. 2020/944 (Cy. 210), O.S. 2020/962 (Cy. 216), O.S. 2020/981 (Cy. 220), O.S. 2020/1015 (Cy. 226), O.S. 2020/1042 (Cy. 231), O.S. 2020/1080 (Cy. 243), O.S. 2020/1098 (Cy. 249), O.S. 2020/1133 (Cy. 258), O.S. 2020/1165 (Cy. 263), O.S. 2020/1191 (Cy. 269), O.S. 2020/1223 (Cy. 277), O.S. 2020/1232 (Cy. 278), O.S. 2020/1237 (Cy. 279), O.S. 2020/1288 (Cy. 286), O.S. 2020/1329 (Cy. 295), O.S. 2020/1362 (Cy. 301), O.S. 2020/1477 (Cy. 316), O.S. 2020/1521 (Cy. 325), O.S. 2020/1602 (Cy. 332), O.S. 2020/1645 (Cy. 345), O.S. 2021/20 (Cy. 7), O.S. 2021/24 (Cy. 8), O.S. 2021/46 (Cy. 10), O.S. 2021/48 (Cy. 11), O.S. 2021/50 (Cy. 12), O.S. 2021/66 (Cy. 15), O.S. 2021/72 (Cy. 18), O.S. 2021/95 (Cy. 26), O.S. 2021/154 (Cy. 38), O.S. 2021/305 (Cy. 78), O.S. 2021/361 (Cy. 110), O.S. 2021/454 (Cy. 144), O.S. 2021/500 (Cy. 149), O.S. 2021/568 (Cy. 156), O.S. 2021/584 (Cy. 161), O.S. 2021/646 (Cy. 166), O.S. 2021/669 (Cy. 170), O.S. 2021/765 (Cy. 187), O.S. 2021/826 (Cy. 193), O.S. 2021/863 (Cy. 202), O.S. 2021/867 (Cy. 203), O.S. 2021/915 (Cy. 208), O.S. 2021/926 (Cy. 211), O.S. 2021/967 (Cy. 227), O.S. 2021/1063 (Cy. 250), O.S. 2021/1109 (Cy. 265), O.S. 2021/1126 (Cy. 273), O.S. 2021/1212 (Cy. 303), O.S. 2021/1321 (Cy. 336), O.S. 2021/1330 (Cy. 343), O.S. 2021/1342 (Cy. 346), O.S. 2021/1354 (Cy. 352), O.S. 2021/1366 (Cy. 361), O.S. 2021/1369 (Cy. 362), O.S. 2021/1433 (Cy. 371), ac O.S. 2022/16 (Cy. 8).
1988 p. 52. Mae diwygiadau i adran 192 ond nid yw’r un ohonynt yn berthnasol.
O.S. 1972/1265 (G.I. 14).
O.S. 2002/618, a ddiwygiwyd gan O.S. 2008/2936.
1989 p. 6. Diwygiwyd adran 12 gan baragraff 22 o Atodlen 10 i Ddeddf Lluoedd wrth Gefn 1996 (p. 14), gan baragraff 30 o Atodlen 12 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 (p. 38), gan baragraff 26 o Atodlen 8 i Ddeddf yr Alban 1998 (p. 46), gan baragraff 9(3) o Atodlen 13 i Ddeddf Gogledd Iwerddon 1998 (p. 47), gan baragraff 9 o Atodlen 6 i Ddeddf yr Heddlu (Gogledd Iwerddon) 2000 (p. 32), gan baragraff 6 o Atodlen 14 i Ddeddf Ynni 2004 (p. 20), gan baragraff 58 o Atodlen 4 i Ddeddf Troseddu Cyfundrefnol Difrifol a’r Heddlu 2005, gan baragraff 34 o Atodlen 10 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32) a pharagraff 1 o Atodlen 12 iddi, a chan baragraff 36 o Atodlen 8 i Ddeddf Troseddu a’r Llysoedd 2013 (p. 22).
OJ Rhif L 300, 14.11.2009, t. 72.
O.S. 2020/1609 (Cy. 335), a ddiwygiwyd gan O.S. 2020/1610 (Cy. 336), O.S. 2020/1623 (Cy. 340), O.S. 2020/1645 (Cy. 345), O.S. 2021/20 (Cy. 7), O.S. 2021/46 (Cy. 10), O.S. 2021/57 (Cy. 13), O.S. 2021/66 (Cy. 15), O.S. 2021/95 (Cy. 26), O.S. 2021/103 (Cy. 28), O.S. 2021/172 (Cy. 40), O.S. 2021/210 (Cy. 52), O.S. 2021/307 (Cy. 79), O.S. 2021/413 (Cy. 133), O.S. 2021/502 (Cy. 150), O.S. 2021/542 (Cy. 154), O.S. 2021/583 (Cy. 160), O.S. 2021/668 (Cy. 169), O.S. 2021/686 (Cy. 172), O.S. 2021/722 (Cy. 183), O.S. 2021/862 (Cy. 201), O.S. 2021/925 (Cy. 210), O.S. 2021/970 (Cy. 228), O.S. 2021/1119 (Cy. 271), O.S. 2021/1131 (Cy. 274), O.S. 2021/1212 (Cy. 303), O.S. 2021/1304 (Cy. 334), O.S. 2021/1363 (Cy. 358), O.S. 2021/1407 (Cy. 366), O.S. 2021/1468 (Cy. 376), O.S. 2021/1477 (Cy. 379), O.S. 2021/1485 (Cy. 386), O.S. 2021/1490 (Cy. 390), O.S. 2022/39 (Cy. 16) ac O.S. 2022/55 (Cy. 21).
1971 p. 77. Diwygiwyd paragraff 1 gan baragraff 3 o Atodlen 3 i Ddeddf yr Asiantaeth Diogelu Iechyd 2004 (p. 17), a chan O.S. 1993/1813.
Gweler adran 1(3). Mae’n yn darparu y cyfeirir at y Deyrnas Unedig, Ynysoedd y Sianel, Ynys Manaw a Gweriniaeth Iwerddon gyda’i gilydd yn y Ddeddf honno fel “the common travel area”.
Gweler adran 33(1).
Gweler adran 33(1).
Gweler adran 33(1).
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: