Fersiwn wedi'i ddisodliFersiwn wedi ei ddisodli: 18/03/2022
Golwg cyfnod mewn amser fel yr oedd ar 11/02/2022.
Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) 2022, RHAN 3.
Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Ar hyn o bryd mae unrhyw newidiadau neu effeithiau hysbys a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol wedi'u gwneud i destun y ddeddfwriaeth yr ydych yn edrych arni gan y tîm golygyddol. Gweler 'Cwestiynau Cyffredin' am fanylion ynglŷn â'r amserlenni ar gyfer nodi a chofnodi effeithiau newydd ar y safle hwn.
7.—(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys i berson (“P”) sy’n cyrraedd Cymru ar ôl dechrau ei daith y tu allan i’r ardal deithio gyffredin.
(2) Ond nid yw cyfeiriadau at P yn cynnwys—
(a)teithiwr cymwys;
(b)person a ddisgrifir ym mharagraff 3(1) o Atodlen 2;
(c)person a ddisgrifir yn unrhyw un neu ragor o baragraffau 2, 3, 4, 6, 8, 9, 10, 11, 12 neu 18 o Atodlen 5.
(3) Rhaid i P, wrth gyrraedd, feddu ar hysbysiad dilys o ganlyniad negatif o brawf cymhwysol a gymerwyd gan P.
(4) Rhaid i P ddangos yr hysbysiad y cyfeirir ato ym mharagraff (3), naill ai’n ffisegol neu’n ddigidol, os gofynnir iddo wneud hynny gan swyddog mewnfudo.
(5) At ddibenion y rheoliad hwn—
(a)mae prawf yn brawf cymhwysol os yw’n cydymffurfio â pharagraff 1 o Atodlen 2;
(b)mae hysbysiad o ganlyniad prawf negatif yn ddilys—
(i)os yw wedi ei ddarparu drwy Dystysgrif COVID Ddigidol yr UE, neu
(ii)os yw’n cynnwys yr wybodaeth a bennir ym mharagraff 2 o Atodlen 2.
8.—(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys i berson (“P”) sy’n cyrraedd Cymru ar ôl dechrau ei daith y tu allan i’r ardal deithio gyffredin.
(2) Ond nid yw cyfeiriadau at P yn cynnwys—
(a)teithiwr cymwys;
(b)person a ddisgrifir ym mharagraff 1(1)(a) i (i) o Atodlen 5 sy’n bodloni’r amodau ym mharagraff 1(2) o’r Atodlen honno;
(c)person a ddisgrifir yn unrhyw un neu ragor o baragraffau 2 i 18 o Atodlen 5.
(3) Rhaid i P, wrth gyrraedd Cymru, feddu ar archeb am brawf diwrnod 2 wedi ei drefnu gyda darparwr prawf.
(4) Rhaid i P gymryd y prawf diwrnod 2.
(5) Nid yw prawf diwrnod 2 i’w drin fel pe bai’n cydymffurfio â’r rheoliad hwn oni bai—
(a)bod P yn cymryd y prawf heb fod yn hwyrach na diwedd yr ail ddiwrnod ar ôl y diwrnod y cyrhaeddodd P Gymru,
(b)bod y person sy’n trefnu’r prawf wedi hysbysu darparwr y prawf fod y profion yn cael eu trefnu at ddibenion y rheoliad hwn, ac
(c)bod yr wybodaeth yn Atodlen 3 wedi ei darparu i ddarparwr y prawf mewn perthynas â P.
(6) Pan fo prawf diwrnod 2 wedi ei drefnu, rhaid i ddarparwr y prawf ddarparu cyfeirnod prawf i’r canlynol—
(a)P, a
(b)unrhyw berson sy’n trefnu profion ar ran P.
(7) Pan fo P yn oedolyn sy’n cyrraedd Cymru heb feddu ar y prawf diwrnod 2 sy’n ofynnol o dan baragraff (3), rhaid i P gael y prawf hwnnw neu’r profion hynny cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol.
(8) Pan na fo P yn cymryd prawf fel sy’n ofynnol gan y rheoliad hwn am fod ganddo esgus rhesymol (gweler rheoliad 13(2) a (4)), rhaid i P, cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol pan na fydd y materion sy’n arwain at yr esgus rhesymol yn gymwys mwyach, gymryd prawf (“prawf arall”) sy’n cydymffurfio â’r gofynion (ac eithrio’r gofyniad ym mharagraff (5)(a)) sy’n gymwys i’r prawf nas cynhaliwyd.
(9) Pan gymerir prawf arall, mae P i’w drin fel pe bai wedi cymryd prawf diwrnod 2 yn unol â’r rheoliad hwn.
(10) Rhaid i berson sydd wedi trefnu prawf diwrnod 2 ddarparu tystiolaeth ohono os yw swyddog mewnfudo neu gwnstabl yn gofyn amdani.
9.—(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys i berson (“P”)—
(a)sy’n weithiwr cludiant ffyrdd, a
(b)a ddechreuodd ei daith y tu allan i’r ardal deithio gyffredin.
(2) Ond nid yw cyfeiriadau at P yn cynnwys teithiwr cymwys.
(3) Rhaid i P gymryd—
(a)prawf gweithlu cyn diwedd diwrnod 2,
(b)prawf gweithlu ar ôl diwrnod 2 ond cyn diwedd diwrnod 5, ac
(c)prawf gweithlu ar ôl diwrnod 5 ond cyn diwedd diwrnod 8.
(4) Pan na fo P yn cymryd unrhyw un neu ragor o’r profion gweithlu fel sy’n ofynnol gan baragraff (3) am fod ganddo esgus rhesymol (gweler rheoliad 13(2) a (5)), rhaid i P, cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol pan na fydd y materion sy’n arwain at yr esgus rhesymol yn gymwys mwyach, gymryd prawf gweithlu arall neu brofion gweithlu eraill.
(5) Pan fo P yn cymryd prawf gweithlu arall yn unol â pharagraff (4), mae P i’w drin fel pe bai wedi cydymffurfio â pharagraff (3).
(6) At ddibenion y rheoliad hwn—
ystyr “diwrnod 2” (“day 2”) yw’r ail ddiwrnod ar ôl y diwrnod y cyrhaeddodd P Gymru;
ystyr “diwrnod 5” (“day 5”) yw’r pumed diwrnod ar ôl y diwrnod y cyrhaeddodd P Gymru;
ystyr “diwrnod 8” (“day 8”) yw’r wythfed diwrnod ar ôl y diwrnod y cyrhaeddodd P Gymru.
10.—(1) Mae paragraff (2) yn gymwys—
(a)pan fo cyflogwr (“E”) yn cyflogi mwy na 50 o bersonau, a
(b)pan fo rhaid i unrhyw berson y mae E yn ei gyflogi gymryd profion gweithlu yn unol â rheoliad 9.
(2) Rhaid i E gymryd camau rhesymol i hwyluso cymryd y profion gweithlu hynny.
(3) Wrth gyflawni’r ddyletswydd ym mharagraff (2), rhaid i E roi sylw i unrhyw ganllawiau a ddyroddir gan Weinidogion Cymru at ddibenion y rheoliad hwn.
(4) At ddibenion y rheoliad hwn—
(a)mae “cyflogi” yn cynnwys bod â chyfrifoldeb dros weithwyr asiantaeth;
(b)mae gan berson gyfrifoldeb dros weithwyr asiantaeth—
(i)os yw’r gweithiwr asiantaeth yn cael ei gyflenwi neu i’w gyflenwi gan berson (“asiant”) i’r cyflogwr o dan gontract neu drefniadau eraill a wneir rhwng yr asiant a’r cyflogwr, a
(ii)os nad yw’r gweithiwr asiantaeth—
(aa)yn weithiwr oherwydd absenoldeb contract gweithiwr rhwng y gweithiwr asiantaeth a’r asiant neu’r cyflogwr, neu
(bb)yn barti i gontract y mae’r gweithiwr asiantaeth yn ymrwymo oddi tano i wneud y gwaith ar gyfer parti arall i gontract y mae ei statws, yn rhinwedd y contract, yn statws cleient neu gwsmer i unrhyw broffesiwn neu ymgymeriad busnes a gynhelir gan y gweithiwr asiantaeth.
11.—(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo person (“P”) wedi cymryd prawf yn unol â rheoliad 8 neu reoliad 9 a bod canlyniad y prawf hwnnw yn amhendant.
(2) Pan fo’r prawf wedi ei gymryd yn unol â rheoliad 8, rhaid i P, cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol, drefnu a chymryd prawf pellach sy’n cydymffurfio â gofynion prawf diwrnod 2, ac eithrio’r gofyniad yn rheoliad 8(5)(a).
(3) Pan fo’r prawf wedi ei gymryd yn unol â rheoliad 9, rhaid i P, cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol, drefnu a chymryd prawf gweithlu arall.
12.—(1) Mae paragraff (2) yn gymwys pan fo canlyniad prawf a gymerwyd gan berson (“P”) yn unol â rheoliad 8, rheoliad 9 neu reoliad 11 yn bositif.
(2) Mae’r Rheoliadau Cyfyngiadau Coronafeirws yn gymwys i P fel pe bai P wedi cael ei hysbysu gan swyddog olrhain cysylltiadau fod P wedi cael canlyniad positif am y coronafeirws.
(3) O ran canlyniad positif P o dan baragraff (1)—
(a)pan ddaeth o brawf gweithlu neu brawf gweithlu arall, a
(b)pan nad oedd y prawf gweithlu neu’r prawf gweithlu arall hwnnw yn brawf adwaith cadwynol polymerasau,
rhaid i P gymryd prawf sy’n cydymffurfio â gofynion prawf diwrnod 2, ac eithrio’r gofyniad yn rheoliad 8(5)(a).
(4) Pan fo canlyniad prawf a gymerwyd yn unol â pharagraff (3) yn negatif, mae paragraff (2) yn peidio â bod yn gymwys i P.
(5) Mae i “swyddog olrhain cysylltiadau” yr ystyr a roddir yn y Rheoliadau Cyfyngiadau Coronafeirws.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Point in Time: This becomes available after navigating to view revised legislation as it stood at a certain point in time via Advanced Features > Show Timeline of Changes or via a point in time advanced search. A point in time version is only available in English.
Geographical Extent: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.
Show Timeline of Changes: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: