ATODLEN 5LL+CPersonau esempt

1.—(1Person (“P”)—LL+C

(a)sy’n aelod o genhadaeth ddiplomyddol yn y Deyrnas Unedig;

(b)sy’n aelod o swyddfa gonsylaidd yn y Deyrnas Unedig;

(c)sy’n swyddog neu’n was i sefydliad rhyngwladol;

(d)a gyflogir gan sefydliad rhyngwladol fel arbenigwr neu ar genhadaeth;

(e)sy’n gynrychiolydd i sefydliad rhyngwladol;

(f)a ddisgrifir ym mharagraff (a) neu (b) sy’n pasio drwy’r Deyrnas Unedig i gychwyn ei swyddogaethau neu barhau â hwy ar genhadaeth ddiplomyddol neu mewn swyddfa gonsylaidd mewn gwlad neu diriogaeth arall, neu i ddychwelyd i wlad ei genedligrwydd;

(g)sy’n gynrychiolydd i wlad dramor neu diriogaeth dramor sy’n teithio i’r Deyrnas Unedig i gynnal busnes swyddogol gyda’r Deyrnas Unedig;

(h)sy’n gynrychiolydd i lywodraeth tiriogaeth dramor Brydeinig;

(i)sy’n gludydd diplomyddol neu’n gludydd consylaidd;

(j)sy’n aelod o’r teulu sy’n ffurfio rhan o aelwyd person sy’n dod o fewn unrhyw un neu ragor o baragraffau (a) i (i).

(2Yr amodau y cyfeirir atynt yn rheoliad 8(2)(b) (personau nad yw rheoliad 8 yn gymwys iddynt) yw—

(a)bod pennaeth perthnasol y genhadaeth, y swyddfa gonsylaidd, y sefydliad rhyngwladol, neu’r swyddfa sy’n cynrychioli tiriogaeth dramor yn y Deyrnas Unedig neu Lywodraethwr i diriogaeth dramor Brydeinig (yn ôl y digwydd), neu berson sy’n gweithredu ar ei awdurdod, yn cadarnhau yn ysgrifenedig i’r Swyddfa Dramor, y Gymanwlad a Datblygu—

(i)ei bod yn ofynnol i P ymgymryd â gwaith sy’n hanfodol i weithrediad y genhadaeth, y swyddfa gonsylaidd, y sefydliad rhyngwladol, neu’r swyddfa, neu ymgymryd â gwaith sy’n hanfodol i’r wlad dramor a gynrychiolir gan y genhadaeth neu’r swyddfa gonsylaidd, y diriogaeth dramor a gynrychiolir gan y swyddfa neu’r diriogaeth dramor Brydeinig, a

(ii)na ellir ymgymryd â’r gwaith hwnnw tra bo P yn cydymffurfio â rheoliad 8, a

(b)cyn i P gyrraedd y Deyrnas Unedig, fod y Swyddfa Dramor, y Gymanwlad a Datblygu—

(i)wedi cadarnhau yn ysgrifenedig i’r person sy’n rhoi’r cadarnhad y cyfeirir ato ym mharagraff (a) ei fod wedi cael y cadarnhad hwnnw, a

(ii)pan fo P yn gynrychiolydd i wlad dramor neu diriogaeth dramor, wedi cadarnhau yn ysgrifenedig wedyn i’r person sy’n rhoi’r cadarnhad y cyfeirir ato ym mharagraff (a) fod P yn teithio i’r Deyrnas Unedig i gynnal busnes swyddogol gyda’r Deyrnas Unedig ac nad yw’n ofynnol iddo gydymffurfio â rheoliad 8.

(3At ddiben y paragraff hwn—

(a)ystyr “cludydd consylaidd” yw person sydd wedi cael dogfen swyddogol gan y Wladwriaeth y mae’n gweithredu ar ei rhan sy’n cadarnhau ei statws fel cludydd consylaidd yn unol ag Erthygl 35(5) o Gonfensiwn Fienna ar Gysylltiadau Consylaidd 1963;

(b)ystyr “swyddfa gonsylaidd” yw unrhyw gonsyliaeth gyffredinol, consyliaeth, is-gonsyliaeth neu asiantaeth gonsylaidd;

(c)ystyr “cludydd diplomyddol” yw person sydd wedi cael dogfen swyddogol gan y Wladwriaeth y mae’n gweithredu ar ei rhan sy’n cadarnhau ei statws fel cludydd diplomyddol yn unol ag Erthygl 27(5) o Gonfensiwn Fienna ar Gysylltiadau Diplomyddol 1961;

(d)ystyr “sefydliad rhyngwladol” yw sefydliad rhyngwladol y rhoddwyd breintiau a breinryddidau iddo yn y Deyrnas Unedig;

(e)ystyr “aelod o swyddfa gonsylaidd” yw swyddog consylaidd, cyflogai consylaidd ac aelod o staff y gwasanaeth fel y diffinnir “consular officer”, “consular employee” a “member of the service staff” yn Atodlen 1 i Ddeddf Cysylltiadau Consylaidd 1968(1), ac mae i “pennaeth swyddfa gonsylaidd” yr ystyr a roddir i “head of consular post” yn yr Atodlen honno;

(f)ystyr “aelod o genhadaeth ddiplomyddol” yw pennaeth y genhadaeth, aelodau o’r staff diplomyddol, aelodau o’r staff gweinyddol a thechnegol ac aelodau o staff y gwasanaeth fel y diffinnir “head of the mission”, “members of the diplomatic staff”, “members of the administrative and technical staff” a “members of the service staff” yn Atodlen 1 i Ddeddf Breintiau Diplomyddol 1964(2).

(4Nid yw’r paragraff hwn yn rhagfarnu unrhyw freinryddid rhag awdurdodaeth neu anhydoredd a roddir i unrhyw berson a ddisgrifir yn is-baragraff (1) o dan gyfraith Cymru a Lloegr ar wahân i’r Rheoliadau hyn.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 5 para. 1 mewn grym ar 11.2.2022 am 4.00 a.m., gweler rhl. 1(2)

(1)

1968 p. 18. Mae diwygiadau ond nid yw’r un ohonynt yn berthnasol.

(2)

1964 p. 81. Mae diwygiadau ond nid yw’r un ohonynt yn berthnasol.