xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Diwygio Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) 2021

2.—(1Mae Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) 2021(1) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 2 (mesurau trosiannol ar gyfer daliadau nad oeddent gynt mewn parth perygl nitradau)—

(a)ar ôl “y map perthnasol o’r enw “Parthau Perygl Nitradau Map Mynegai 2013”” mewnosoder “(y “map mynegai PPN”)”;

(b)yn lle paragraffau (a) a (b) rhodder—

(a)nid yw rheoliadau 5 i 11, 15, 23, 27, 33 i 35, na 37 i 43 yn gymwys hyd nes 1 Ionawr 2023,

(b)nid yw rheoliadau 4 nac 36 yn gymwys hyd nes 30 Ebrill 2023, ac

(c)nid yw rheoliadau 17 i 21, 25, 26, nac 28 i 31 yn gymwys hyd nes 1 Awst 2024.

(3Yn rheoliad 3 (dehongli), ym mharagraff (1), ar ôl y diffiniad o “hysbysiad”, mewnosoder—

mae i “map mynegai PPN” (“NVZ index map”) yr ystyr a roddir gan reoliad 2;.

(4Yn rheoliad 4 (dodi tail da byw – y terfyn o ran cyfanswm y nitrogen ar gyfer yr holl ddaliad)—

(a)ym mharagraff (1), yn lle “unrhyw flwyddyn sy’n dechrau ar 1 Ionawr”, rhodder “y cyfnod perthnasol”;

(b)ar ôl paragraff (3), mewnosoder—

(4) Ym mharagraff (1), ystyr “y cyfnod perthnasol” yw—

(a)ar gyfer meddiannydd daliad o fewn parth perygl nitradau fel y’i dangosir ar y map mynegai PPN, unrhyw gyfnod o 12 mis sy’n dechrau ar 1 Ionawr;

(b)ar gyfer meddiannydd daliad neu ran o ddaliad nad oedd gynt wedi ei leoli neu wedi ei lleoli o fewn parth perygl nitradau fel y’i dangosir ar y map mynegai PPN, unrhyw gyfnod o 12 mis sy’n dechrau ar 30 Ebrill.

(5Yn rheoliad 36 (cofnod o’r nitrogen a gynhyrchwyd gan anifeiliaid ar y daliad)—

(a)ym mharagraff (1), yn lle “30 Ebrill”, rhodder “y dyddiad perthnasol”;

(b)ym mharagraff (1)(a), yn lle “flwyddyn galendr flaenorol” rhodder “cyfnod o 12 mis blaenorol”;

(c)ar ôl paragraff (5), mewnosoder—

(6) Yn y rheoliad hwn—

ystyr “cyfnod o 12 mis blaenorol” (“previous 12 month period”) yw—

(a)

ar gyfer meddiannydd daliad o fewn parth perygl nitradau fel y’i dangosir ar y map mynegai PPN, y cyfnod o 12 mis sy’n dechrau ar 1 Ionawr ac sy’n gorffen ar 31 Rhagfyr cyn y dyddiad perthnasol;

(b)

ar gyfer meddiannydd daliad neu ran o ddaliad nad oedd gynt wedi ei leoli neu wedi ei lleoli o fewn parth perygl nitradau fel y’i dangosir ar y map mynegai PPN—

(i)

y cyfnod o 12 mis cyntaf at y dibenion hyn yw 30 Ebrill 2023 i 29 Ebrill 2024, a

(ii)

wedi hynny, y cyfnod o 12 mis sy’n dechrau ar 30 Ebrill ac sy’n gorffen ar 29 Ebrill cyn y dyddiad perthnasol;

ystyr “dyddiad perthnasol” (“relevant date”) yw—

(a)

ar gyfer meddiannydd daliad o fewn parth perygl nitradau fel y’i dangosir ar y map mynegai PPN, 30 Ebrill;

(b)

ar gyfer meddiannydd daliad neu ran o ddaliad nad oedd gynt wedi ei leoli neu wedi ei lleoli o fewn parth perygl nitradau fel y’i dangosir ar y map mynegai PPN, 31 Awst 2024 ac ar gyfer pob blwyddyn ddilynol 31 Awst.

(6Yn Atodlen 1 (meintiau o dail, nitrogen a ffosffad a gynhyrchir gan dda byw sy’n pori a da byw nad ydynt yn pori), yn Nhabl 1 (da byw sy’n pori)—

(a)yn y categori “Gwartheg”, yn y cofnod ar gyfer “Buchod godro”, yn y rhes ar gyfer “O 13 mis ymlaen tan y llo cyntaf”, yng ngholofn 4 (ffosffad a gynhyrchir gan bob anifail yn ddyddiol (gramau)), yn lle “34” rhodder “69”;

(b)yn y categori “Defaid”, yn y cofnod ar gyfer “Ar ôl wyna neu hwrdda”, yn y rhes ar gyfer “yn pwyso o 60 kg i fyny”, yng ngholofn 3 (nitrogen a gynhyrchir gan bob anifail yn ddyddiol (gramau)), yn lle “3” rhodder “33”.

(7Yn Atodlen 3 (cyfrifo’r nitrogen sydd mewn tail organig), yn Rhan 1, yn y Tabl Safonol, yn y cofnod ar gyfer “Tail ac eithrio slyri”, yn y rhes ar gyfer “Tail o dyrcwn neu ieir brwylio”, yng ngholofn 2 (cyfanswm y nitrogen ym mhob tunnell (kg)), yn lle “10” rhodder “30”.