2022 Rhif 1305 (Cy. 262)
Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) (Diwygio) 2022
Gwnaed
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru
Yn dod i rym
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 92 a 219(2)(d) i (f) o Ddeddf Adnoddau Dŵr 19911.
Enwi a dod i rym1
1
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) (Diwygio) 2022.
2
Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 31 Rhagfyr 2022.
Diwygio Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) 20212
1
Mae Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) 20212 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
2
Yn rheoliad 2 (mesurau trosiannol ar gyfer daliadau nad oeddent gynt mewn parth perygl nitradau)—
a
ar ôl “y map perthnasol o’r enw “Parthau Perygl Nitradau Map Mynegai 2013”” mewnosoder “(y “map mynegai PPN”)”;
b
yn lle paragraffau (a) a (b) rhodder—
a
nid yw rheoliadau 5 i 11, 15, 23, 27, 33 i 35, na 37 i 43 yn gymwys hyd nes 1 Ionawr 2023,
b
nid yw rheoliadau 4 nac 36 yn gymwys hyd nes 30 Ebrill 2023, ac
c
nid yw rheoliadau 17 i 21, 25, 26, nac 28 i 31 yn gymwys hyd nes 1 Awst 2024.
3
Yn rheoliad 3 (dehongli), ym mharagraff (1), ar ôl y diffiniad o “hysbysiad”, mewnosoder—
mae i “map mynegai PPN” (“NVZ index map”) yr ystyr a roddir gan reoliad 2;
4
Yn rheoliad 4 (dodi tail da byw – y terfyn o ran cyfanswm y nitrogen ar gyfer yr holl ddaliad)—
a
ym mharagraff (1), yn lle “unrhyw flwyddyn sy’n dechrau ar 1 Ionawr”, rhodder “y cyfnod perthnasol”;
b
ar ôl paragraff (3), mewnosoder—
4
Ym mharagraff (1), ystyr “y cyfnod perthnasol” yw—
a
ar gyfer meddiannydd daliad o fewn parth perygl nitradau fel y’i dangosir ar y map mynegai PPN, unrhyw gyfnod o 12 mis sy’n dechrau ar 1 Ionawr;
b
ar gyfer meddiannydd daliad neu ran o ddaliad nad oedd gynt wedi ei leoli neu wedi ei lleoli o fewn parth perygl nitradau fel y’i dangosir ar y map mynegai PPN, unrhyw gyfnod o 12 mis sy’n dechrau ar 30 Ebrill.
5
Yn rheoliad 36 (cofnod o’r nitrogen a gynhyrchwyd gan anifeiliaid ar y daliad)—
a
ym mharagraff (1), yn lle “30 Ebrill”, rhodder “y dyddiad perthnasol”;
b
ym mharagraff (1)(a), yn lle “flwyddyn galendr flaenorol” rhodder “cyfnod o 12 mis blaenorol”;
c
ar ôl paragraff (5), mewnosoder—
6
Yn y rheoliad hwn—
ystyr “cyfnod o 12 mis blaenorol” (“previous 12 month period”) yw—
- a
ar gyfer meddiannydd daliad o fewn parth perygl nitradau fel y’i dangosir ar y map mynegai PPN, y cyfnod o 12 mis sy’n dechrau ar 1 Ionawr ac sy’n gorffen ar 31 Rhagfyr cyn y dyddiad perthnasol;
- b
ar gyfer meddiannydd daliad neu ran o ddaliad nad oedd gynt wedi ei leoli neu wedi ei lleoli o fewn parth perygl nitradau fel y’i dangosir ar y map mynegai PPN—
- i
y cyfnod o 12 mis cyntaf at y dibenion hyn yw 30 Ebrill 2023 i 29 Ebrill 2024, a
- ii
wedi hynny, y cyfnod o 12 mis sy’n dechrau ar 30 Ebrill ac sy’n gorffen ar 29 Ebrill cyn y dyddiad perthnasol;
ystyr “dyddiad perthnasol” (“relevant date”) yw—
- a
ar gyfer meddiannydd daliad o fewn parth perygl nitradau fel y’i dangosir ar y map mynegai PPN, 30 Ebrill;
- b
ar gyfer meddiannydd daliad neu ran o ddaliad nad oedd gynt wedi ei leoli neu wedi ei lleoli o fewn parth perygl nitradau fel y’i dangosir ar y map mynegai PPN, 31 Awst 2024 ac ar gyfer pob blwyddyn ddilynol 31 Awst.
6
Yn Atodlen 1 (meintiau o dail, nitrogen a ffosffad a gynhyrchir gan dda byw sy’n pori a da byw nad ydynt yn pori), yn Nhabl 1 (da byw sy’n pori)—
a
yn y categori “Gwartheg”, yn y cofnod ar gyfer “Buchod godro”, yn y rhes ar gyfer “O 13 mis ymlaen tan y llo cyntaf”, yng ngholofn 4 (ffosffad a gynhyrchir gan bob anifail yn ddyddiol (gramau)), yn lle “34” rhodder “69”;
b
yn y categori “Defaid”, yn y cofnod ar gyfer “Ar ôl wyna neu hwrdda”, yn y rhes ar gyfer “yn pwyso o 60 kg i fyny”, yng ngholofn 3 (nitrogen a gynhyrchir gan bob anifail yn ddyddiol (gramau)), yn lle “3” rhodder “33”.
7
Yn Atodlen 3 (cyfrifo’r nitrogen sydd mewn tail organig), yn Rhan 1, yn y Tabl Safonol, yn y cofnod ar gyfer “Tail ac eithrio slyri”, yn y rhes ar gyfer “Tail o dyrcwn neu ieir brwylio”, yng ngholofn 2 (cyfanswm y nitrogen ym mhob tunnell (kg)), yn lle “10” rhodder “30”.
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)