Cyflwyno hysbysiadau4.

(1)

Heb ragfarnu adran 233 o Ddeddf Llywodraeth Leol 197212 (cyflwyno hysbysiad gan awdurdodau lleol) ac yn ddarostyngedig i baragraff (4), caiff awdurdod bilio gyflwyno hysbysiad i unrhyw berson y mae paragraff 5(1D) o Atodlen 9 i’r Ddeddf yn gymwys iddo—

(a)

drwy ei ddanfon â llaw i’r person;

(b)

drwy ei adael ym mhriod gyfeiriad y person;

(c)

drwy ei anfon i briod gyfeiriad y person drwy’r post;

(d)

drwy ei anfon at y person drwy gyfathrebiad electronig.

(2)

At ddibenion paragraff (1), priod gyfeiriad person yw—

(a)

yn achos corff corfforedig, cyfeiriad swyddfa gofrestredig neu brif swyddfa’r corff;

(b)

yn achos partneriaeth, cyfeiriad prif swyddfa’r bartneriaeth;

(c)

yn unrhyw achos arall, cyfeiriad hysbys olaf y person.

(3)

Mae’r hysbysiad i’w drin fel pe bai wedi ei ddanfon â llaw o dan baragraff (1)(a)—

(a)

yn achos corff corfforedig, os yw’n cael ei ddanfon â llaw i ysgrifennydd neu glerc y corff;

(b)

yn achos partneriaeth, os yw’n cael ei ddanfon â llaw i bartner neu berson sydd â rheolaeth dros fusnes y bartneriaeth neu sy’n rheoli busnes y bartneriaeth.

(4)

Pan fo unrhyw hysbysiad i’w gyflwyno i berson a bennir ym mharagraff 5(1D)(a) neu (b) o Atodlen 9 i’r Ddeddf, caniateir cyfeirio’r hysbysiad hwnnw at “perchennog” neu “meddiannydd” yr hereditament, heb enw na disgrifiad pellach.