Offerynnau Statudol Cymru

2022 Rhif 1316 (Cy. 265)

Y Dreth Dirlenwi, Cymru

Rheoliadau Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cyfraddau Treth) (Cymru) (Diwygio) 2022

Cymeradwywyd gan Senedd Cymru

Gwnaed

13 Rhagfyr 2022

Gosodwyd gerbron Senedd Cymru

15 Rhagfyr 2022

Yn dod i rym

1 Ebrill 2023

Enwi a chychwynLL+C

1.  Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cyfraddau Treth) (Cymru) (Diwygio) 2022 a deuant i rym ar 1 Ebrill 2023.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Rhl. 1 mewn grym ar 1.4.2023, gweler rhl. 1

CymhwysoLL+C

2.  Mae’r Rheoliadau hyn yn cael effaith mewn perthynas â gwarediad trethadwy (o fewn ystyr Rhan 2 o Ddeddf Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) 2017) a wneir ar 1 Ebrill 2023 neu ar ôl hynny [F1ond cyn 1 Ebrill 2024].

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I2Rhl. 2 mewn grym ar 1.4.2023, gweler rhl. 1

Cyfraddau’r dreth gwarediadau tirlenwiLL+C

3.  Rhagnodir y cyfraddau a ganlyn yn unol ag adrannau 14(3) a (6), a 46(4), o Ddeddf Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) 2017 yn y drefn honno—

(a)y gyfradd safonol yw £102.10 y dunnell,

(b)y gyfradd is yw £3.25 y dunnell, ac

(c)y gyfradd gwarediadau sydd heb eu hawdurdodi yw £153.15 y dunnell.

Gwybodaeth Cychwyn

I3Rhl. 3 mewn grym ar 1.4.2023, gweler rhl. 1

Diwygio Rheoliadau Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cyfraddau Treth) (Cymru) (Diwygio) 2021LL+C

4.  Yn rheoliad 2 o Reoliadau Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cyfraddau Treth) (Cymru) (Diwygio) 2021(2), ar ôl “1 Ebrill 2022” mewnosoder “ond cyn 1 Ebrill 2023”.

Gwybodaeth Cychwyn

I4Rhl. 4 mewn grym ar 1.4.2023, gweler rhl. 1

Rebecca Evans

Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru

13 Rhagfyr 2022

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn rhagnodi’r gyfradd safonol, y gyfradd is a’r gyfradd gwarediadau sydd heb eu hawdurdodi ar gyfer y dreth gwarediadau tirlenwi sydd i’w chodi ar warediadau trethadwy (o fewn ystyr Rhan 2 o Ddeddf Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) 2017) a wneir ar 1 Ebrill 2023 neu ar ôl hynny.

Y gyfradd safonol yw £102.10 y dunnell, y gyfradd is yw £3.25 y dunnell a’r gyfradd gwarediadau sydd heb eu hawdurdodi yw £153.15 y dunnell.

Bydd gwarediadau trethadwy a wneir ar 1 Ebrill 2022 neu ar ôl hynny ond cyn 1 Ebrill 2023 yn parhau’n ddarostyngedig i’r cyfraddau a osodir gan Reoliadau Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cyfraddau Treth) (Cymru) (Diwygio) 2021 (O.S. 2021/1470 (Cy. 377)) o ganlyniad i’r diwygiad a wneir gan reoliad 4 o’r Rheoliadau hyn.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ ac ar wefan Llywodraeth Cymru ar www.llyw.cymru.