Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Estyn Cyfnodau Trosiannol) (Diwygio) (Cymru) 2022

Offerynnau Statudol Cymru

2022 Rhif 1317 (Cy. 266)

Bwyd, Cymru

Anifeiliaid, Cymru

Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Estyn Cyfnodau Trosiannol) (Diwygio) (Cymru) 2022

Gwnaed

13 Rhagfyr 2022

Gosodwyd gerbron Senedd Cymru

15 Rhagfyr 2022

Yn dod i rym

30 Rhagfyr 2022

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir gan—

(a)paragraff 2 o Atodiad 6 i Reoliad (EU) 2017/625 Senedd Ewrop a’r Cyngor ar reolaethau swyddogol a gweithgareddau swyddogol eraill a gyflawnir i sicrhau y cymhwysir y gyfraith o ran bwyd a bwyd anifeiliaid, rheolau ynghylch iechyd a lles anifeiliaid, iechyd planhigion a chynhyrchion diogelu planhigion(1); a

(b)paragraff 11A(1) o Atodlen 2 i Reoliadau’r Fasnach mewn Anifeiliaid a Chynhyrchion Perthynol (Cymru) 2011(2).

Yn unol ag Erthygl 144(7) o Reoliad (EU) 2017/625 Senedd Ewrop a’r Cyngor ar reolaethau swyddogol a gweithgareddau swyddogol eraill a gyflawnir i sicrhau y cymhwysir y gyfraith o ran bwyd a bwyd anifeiliaid, rheolau ynghylch iechyd a lles anifeiliaid, iechyd planhigion a chynhyrchion diogelu planhigion, mae Gweinidogion Cymru, cyn gwneud y Rheoliadau hyn, wedi ymgynghori â’r cyrff a’r personau hynny y mae’n ymddangos i Weinidogion Cymru eu bod yn cynrychioli’r buddiannau y mae’n debygol y bydd y Rheoliadau hyn yn effeithio arnynt yn sylweddol a’r cyrff a’r personau eraill hynny y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried eu bod yn briodol.

Enwi, rhychwant, cymhwyso a chychwyn

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Estyn Cyfnodau Trosiannol) (Diwygio) (Cymru) 2022.

(2Mae’r Rheoliadau hyn—

(a)yn rhychwantu Cymru a Lloegr;

(b)yn gymwys o ran Cymru;

(c)yn dod i rym ar 30 Rhagfyr 2022.

Diwygio Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Estyn Cyfnodau Trosiannol) 2021

2.—(1Mae Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Estyn Cyfnodau Trosiannol) 2021(3) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn lle rheoliad 2 (diwedd y cyfnod graddoli trosiannol) rhodder—

End of the transitional staging period

2.  In relation to Wales, for the purposes of sub-paragraph (b) of the definition of “the transitional staging period” in paragraph 2 (interpretation) of Annex 6 to Regulation (EU) 2017/625 of the European Parliament and of the Council on official controls and other official activities performed to ensure the application of food and feed law, rules on animal health and welfare, plant health and plant protection products, the appointed date is 31 January 2024..

Diwygio Rheoliadau Paratoadau Cig (Diwygio ac Addasiadau Darfodol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2021

3.  Yn rheoliad 3(1) (addasiadau darfodol i Benderfyniad y Comisiwn 2000/572/EC) o Reoliadau Paratoadau Cig (Diwygio ac Addasiadau Darfodol) (Cymru) (Ymadael â’r EU) 2021(4), yn lle “31 Rhagfyr 2022” rhodder “31 Ionawr 2024”.

Vaughan Gething

Gweinidog yr Economi, un o Weinidogion Cymru

13 Rhagfyr 2022

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Estyn Cyfnodau Trosiannol) 2021 a Rheoliadau Paratoadau Cig (Diwygio ac Addasiadau Darfodol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2021.

Mae rheoliad 2 yn diwygio Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Estyn Cyfnodau Trosiannol) 2021 er mwyn estyn, o ran Cymru, ddyddiad dod i ben y cyfnod graddoli trosiannol (“transitional staging period”) o 31 Rhagfyr 2022 i 31 Ionawr 2024.

Mae rheoliad 3 yn diwygio Rheoliadau Paratoadau Cig (Diwygio ac Addasiadau Darfodol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2021 er mwyn estyn yr ataliad dros dro ar y gofyniad i baratoadau cig fod wedi eu rhewi’n ddwfn pan fônt yn cael eu mewnforio i Gymru o Aelod-wladwriaethau’r AEE, Ynysoedd Ffaro, yr Ynys Las neu’r Swistir, gan gysoni â’r dyddiad a benodwyd fel dyddiad dod i ben estynedig y cyfnod graddoli trosiannol (rheoliad 2).

Ystyriwyd cod ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal asesiadau effaith rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.

(1)

EUR 2017/625. Mewnosodwyd Atodiad 6 gan O.S. 2020/1481. Mae Atodiad 6 wedi ei ddiwygio gan O.S. 2021/429, 2021/809, 2021/1096, 2021/1443 a 2022/621. Diffinnir y term “appropriate authority” yn Erthygl 3(2A) o EUR 2017/625.

(2)

O.S. 2011/2379 (Cy. 252). Mewnosodwyd paragraff 11A yn Atodlen 2 gan reoliad 2(2) o Reoliadau Rheolaethau Swyddogol (Anifeiliaid, Bwyd Anifeiliaid a Bwyd, Ffioedd Iechyd Planhigion etc.) (Cymru) (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2020 (O.S. 2020/1639 (Cy. 344)).