Search Legislation

Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Mewnforio Bwyd a Bwyd Anifeiliaid Risg Uchel Nad Ydynt yn Dod o Anifeiliaid) (Diwygio Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2019/1793) (Cymru) 2022

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Mae newidiadau yn dal heb eu gwneud i Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Mewnforio Bwyd a Bwyd Anifeiliaid Risg Uchel Nad Ydynt yn Dod o Anifeiliaid) (Diwygio Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2019/1793) (Cymru) 2022. Mae unrhyw newidiadau sydd wedi cael eu gwneud yn barod gan y tîm yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt gydag anodiadau. Help about Changes to Legislation

Close

Changes to Legislation

Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Cofnodir newidiadau ac effeithiau gan ein tîm golygyddol mewn rhestrau sydd i'w gweld yn yr adran 'Newidiadau i Ddeddfwriaeth'. Os nad yw'r effeithiau hynny wedi'u cymhwyso eto i destun y ddeddfwriaeth gan y tîm golygyddol maent hefyd wedi'u rhestru ochr yn ochr â'r ddeddfwriaeth yn y darpariaethau yr effeithir arnynt. Defnyddiwch y ddolen 'mwy' i agor y newidiadau a'r effeithiau sy'n berthnasol i'r ddarpariaeth rydych yn edrych arni.

View outstanding changes

Changes and effects yet to be applied to :

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio, o ran Cymru, Reoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2019/1793 ar gynyddu dros dro reolaethau swyddogol a mesurau brys sy’n rheoli mynediad i’r Undeb i nwyddau penodol o drydydd gwledydd penodol (“Rheoliad 2019/1793”).

Mae rheoliad 2 yn amnewid, gyda diwygiadau, Atodiadau 1, 2 a 2a i Reoliad 2019/1793. Amnewidir Atodiad 1 drwy ddefnyddio pwerau yn Erthyglau 47(2)(b) a 54(4)(a) o Reoliad (EU) 2017/625 ar reolaethau swyddogol a gweithgareddau swyddogol eraill a gyflawnir i sicrhau y cymhwysir y gyfraith o ran bwyd a bwyd anifeiliaid, rheolau ynghylch iechyd a lles anifeiliaid, iechyd planhigion a chynhyrchion diogelu planhigion. Amnewidir Atodiadau 2 a 2a drwy ddefnyddio pwerau yn Erthygl 53 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 sy’n gosod egwyddorion a gofynion cyffredinol cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd ac Erthygl 54(4)(b) o Reoliad (EU) 2017/625.

Mae Atodiad 1 yn cynnwys y rhestr o fwyd a bwyd anifeiliaid nad ydynt yn dod o anifeiliaid sy’n ddarostyngedig i gynnydd dros dro mewn rheolaethau swyddogol mewn safleoedd rheoli ar y ffin neu mewn safleoedd rheoli ym Mhrydain Fawr. Mae’r newidiadau a wneir i Atodiad 1 fel a ganlyn.

  • Mae amlder y gwiriadau ar bupur du o Frasil (ar gyfer Salmonela) wedi ei gynyddu o 20% i 50%.

  • Mae’r cofnod ar gyfer cnau daear (pysgnau) a chynhyrchion cysylltiedig o Frasil (ar gyfer afflatocsinau) wedi ei drosglwyddo i Atodiad 1 (o Atodiad 2, Tabl 1). Nid oes unrhyw newid i amlder rhagnodedig y gwiriadau, sy’n parhau ar 10%.

  • Cofnod newydd ar gyfer cnau daear (pysgnau) a chynhyrchion cysylltiedig o Frasil (ar gyfer gweddillion plaleiddiaid). Mae amlder y gwiriadau wedi ei ragnodi ar 20%.

  • Mae’r cofnod ar gyfer aeron goji o Tsieina (ar gyfer gweddillion plaleiddiaid) wedi ei ddileu.

  • Mae’r cofnod ar gyfer cnau daear (pysgnau) a chynhyrchion cysylltiedig o Tsieina (ar gyfer afflatocsinau) wedi ei drosglwyddo i Atodiad 1 (o Atodiad 2, Tabl 1). Mae amlder y gwiriadau wedi ei leihau o 20% i 10%.

  • Mae’r cofnod ar gyfer hadau sesamwm o Ethiopia (ar gyfer Salmonela) wedi ei ddileu (mae’r cofnod wedi ei drosglwyddo i Atodiad 2, Tabl 1).

  • Mae amlder y gwiriadau ar gnau cyll a chynhyrchion cysylltiedig o Georgia (ar gyfer afflatocsinau) wedi ei leihau o 50% i 20%.

  • Mae amlder y gwiriadau ar ocra o India (ar gyfer gweddillion plaleiddiaid) wedi ei gynyddu o 10% i 20%.

  • Mae’r cofnod ar gyfer pupurau o rywogaethau’r Capsicum (pupurau melys neu bupurau heblaw pupurau melys) o Sri Lanka (ar gyfer afflatocsinau) wedi ei ddileu (mae’r cofnod wedi ei drosglwyddo i Atodiad 2, Tabl 1).

  • Mae amlder y gwiriadau ar jacffrwyth o Falaysia (ar gyfer gweddillion plaleiddiaid) wedi ei gynyddu o 20% i 50%.

  • Cofnod newydd ar gyfer bwyd sy’n cynnwys, neu fwyd sydd ar ffurf, dail betel ( Piper betle) o Wlad Thai (ar gyfer Salmonela). Mae amlder y gwiriadau wedi ei ragnodi ar 10%.

  • Mae amlder y gwiriadau ar bupurau o rywogaethau’r Capsicum (ac eithrio pupurau melys) o Wlad Thai (ar gyfer gweddillion plaleiddiaid) wedi ei gynyddu o 10% i 20%.

  • Mae’r cofnod ar gyfer grawnwin sych (gan gynnwys grawnwin sych sydd wedi eu torri neu eu crawennu i ffurfio past heb driniaeth bellach) o Dwrci (ar gyfer Ocratocsin A) wedi ei ddileu.

  • Mae’r cofnod ar gyfer cnau cyll a chynhyrchion cysylltiedig o Dwrci (ar gyfer afflatocsinau) wedi ei drosglwyddo i Atodiad 1 (o Atodiad 2, Tabl 1). Nid oes unrhyw newid i amlder rhagnodedig y gwiriadau, sy’n parhau ar 5%.

  • Cofnod newydd ar gyfer lemonau o Dwrci (ar gyfer gweddillion plaleiddiaid). Mae amlder y gwiriadau wedi ei ragnodi ar 20%.

  • Mae amlder y gwiriadau ar gyfer mandarins (gan gynnwys tanjerîns a satswmas), clementinau, wilkings a hybridiau sitrws tebyg o Dwrci (ar gyfer gweddillion plaleiddiaid) wedi ei gynyddu o 5% i 20%.

  • Mae amlder y gwiriadau ar orenau o Dwrci (ar gyfer gweddillion plaleiddiaid) wedi ei gynyddu o 10% i 20%.

  • Mae amlder y gwiriadau ar bupurau melys ( Capsicum annum) o Dwrci (ar gyfer gweddillion plaleiddiaid) wedi ei gynyddu o 10% i 20%.

  • Cofnod newydd ar gyfer pupurau o rywogaethau’r Capsicum (ac eithrio pupurau melys) o Dwrci (ar gyfer gweddillion plaleiddiaid). Mae amlder y gwiriadau wedi ei ragnodi ar 20%.

  • Mae amlder y gwiriadau ar bupurau o rywogaethau’r Capsicum (ac eithrio pupurau melys) o Uganda (ar gyfer gweddillion plaleiddiaid) wedi ei gynyddu o 20% i 50%.

  • Mae’r cofnod ar gyfer cnau pistasio a chynhyrchion cysylltiedig o’r Unol Daleithiau (ar gyfer afflatocsinau) wedi ei ddileu.

Mae Atodiad 2, Tabl 1, yn cynnwys y rhestr o fwyd a bwyd anifeiliaid nad ydynt yn dod o anifeiliaid y mae amodau arbennig wedi eu rhagnodi ar eu cyfer sy’n rheoli eu mynediad i Brydain Fawr. Mae’r newidiadau a wneir i Atodiad 2, Tabl 1, fel a ganlyn.

  • Cofnod newydd ar gyfer bwyd sy’n cynnwys, neu fwyd sydd ar ffurf, dail betel ( Piper betle) o Fangladesh (ar gyfer Salmonela). Mae amlder y gwiriadau wedi ei ragnodi ar 50%.

  • Mae’r cofnod ar gyfer cnau daear (pysgnau) a chynhyrchion cysylltiedig o Frasil (ar gyfer afflatocsinau) wedi ei ddileu (mae’r cofnod wedi ei drosglwyddo i Atodiad 1).

  • Mae’r cofnod ar gyfer cnau daear (pysgnau) a chynhyrchion cysylltiedig o Tsieina (ar gyfer afflatocsinau) wedi ei ddileu (mae’r cofnod wedi ei drosglwyddo i Atodiad 1).

  • Mae’r cofnod ar gyfer hadau sesamwm o Ethiopia (ar gyfer Salmonela) wedi ei drosglwyddo i Atodiad 2, Tabl 1 (o Atodiad 1). Nid oes unrhyw newid i amlder rhagnodedig y gwiriadau, sy’n parhau ar 50%.

  • Mae’r cofnod ar gyfer dail betel ( Piper betle) o India wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

    • Mae cwmpas y cofnod wedi ei estyn i gynnwys bwyd sy’n cynnwys dail betel.

    • Mae’r is-raniad TARIC wedi ei ddileu.

  • Mae amlder y gwiriadau ar gnau daear (pysgnau) a chynhyrchion cysylltiedig o India (ar gyfer afflatocsinau) wedi ei gynyddu o 10% i 50%.

  • Mae’r is-raniad TARIC ar gyfer gwm guar o India wedi ei ddileu.

  • Mae’r cofnod ar gyfer pupurau o rywogaethau’r Capsicum (pupurau melys neu bupurau heblaw pupurau melys) o Sri Lanka (ar gyfer afflatocsinau) wedi ei drosglwyddo i Atodiad 2, Tabl 1 (o Atodiad 1). Nid oes unrhyw newid i amlder rhagnodedig y gwiriadau, sy’n parhau ar 50%.

  • Mae amlder y gwiriadau ar gyfer hadau sesamwm o Sudan (ar gyfer Salmonela) wedi ei gynyddu o 20% i 50%.

  • Mae’r cofnod ar gyfer cnau cyll a chynhyrchion cysylltiedig o Dwrci (ar gyfer afflatocsinau) wedi ei ddileu (mae’r cofnod wedi ei drosglwyddo i Atodiad 1).

  • Mae amlder y gwiriadau ar ddail gwinwydd o Dwrci (ar gyfer gweddillion plaleiddiaid) wedi ei gynyddu o 20% i 50%.

Mae Atodiad 2, Tabl 2, yn cynnwys rhestr o fwyd cyfansawdd sy’n cynnwys unrhyw fwyd a restrir yn Nhabl 1 yn Atodiad 2 oherwydd y risg o halogi gan afflatocsinau mewn swm sy’n fwy nag 20% o naill ai cynnyrch unigol neu swm y cynhyrchion hynny. Y newid a wneir i Dabl 2 yn Atodiad 2 yw ychwanegu cofnod newydd ar gyfer cymysgeddau o sbeisys.

Mae Atodiad 2a yn cynnwys y rhestr o fwyd a bwyd anifeiliaid nad ydynt yn dod o anifeiliaid sydd wedi eu gwahardd rhag dod i Brydain Fawr. Mae’r cofnod yn Atodiad 2a ar gyfer bwyd sy’n cynnwys, neu fwyd sydd ar ffurf, dail betel ( Piper betle) o Fangladesh (ar gyfer Salmonela) wedi ei ddileu (ond gweler y cofnod newydd ar gyfer hyn yn Atodiad 2, Tabl 1).

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

See additional information alongside the content

Geographical Extent: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.

Show Timeline of Changes: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

Timeline of Changes

This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.

Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources