Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Symiau a Godir) (Cymru) 2022

Offerynnau Statudol Cymru

2022 Rhif 1350 (Cy. 272)

Ardrethu A Phrisio, Cymru

Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Symiau a Godir) (Cymru) 2022

Gwnaed

14 Rhagfyr 2022

Yn dod i rym

31 Rhagfyr 2022

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pŵer a roddir i’r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 58(1), (2), (3), (4), (5), (6), (7) a (10) a 143(1) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988(1) ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy(2).

Gosodwyd drafft o’r Rheoliadau hyn gerbron Senedd Cymru, ac fe’i cymeradwywyd ganddi drwy benderfyniad, yn unol ag adran 143(4) o’r Ddeddf honno(3).

Yn unol ag adran 58(9) o’r Ddeddf honno, mae Gweinidogion Cymru wedi rhoi sylw i’r amcan o sicrhau (i’r graddau y bo hynny’n ymarferol) nad yw’r cyfanswm sy’n daladwy i Weinidogion Cymru a’r holl awdurdodau bilio ar ffurf ardrethi annomestig o ran y blynyddoedd ariannol sy’n dod o fewn y cyfnod perthnasol yn fwy na’r hyn y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried y byddai’n debygol o fod yn daladwy heblaw am y Rheoliadau hyn.

(1)

1988 p. 41. Gweler adran 146(6) am y diffiniad o “prescribed”. Diwygiwyd adran 58 gan adran 117(1) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 (p. 14), a pharagraff 68 o Atodlen 13 iddi, adran 2 o Ddeddf Ardrethu Annomestig 1994 (p. 3), adran 1 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Ardrethu 1997 (p. 29), a pharagraff 5 o Atodlen 1 iddi, adran 2(1) o Ddeddf Ardrethu (Eiddo Gwag) 2007 (p. 9), a pharagraff 3 o Atodlen 1 iddi, ac adran 4(1) o Ddeddf Seilwaith Telathrebu (Rhyddhad rhag Ardrethi Annomestig) 2018 (p. 1), a pharagraff 4 o Atodlen 1 iddi.

(2)

Trosglwyddwyd pwerau’r Ysgrifennydd Gwladol, o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn rhinwedd erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672). Trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru i Weinidogion Cymru wedi hynny yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32) a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi.

(3)

Mae’r cyfeiriad at ddau Dŷ Senedd y DU yn adran 143(4) o’r Ddeddf i’w ddarllen fel cyfeiriad at Senedd Cymru yn rhinwedd adran 150A(2) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32), a pharagraff 34 o Atodlen 11 iddi.