Search Legislation

Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Symiau a Godir) (Cymru) 2022

Statws

This is the original version (as it was originally made).

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 31 Rhagfyr 2022 ac maent yn gymwys o ran Cymru.

Mae’r Rheoliadau hyn yn rhagnodi rheolau sydd i’w defnyddio i ganfod y swm a godir ar gyfer achosion sy’n dod o fewn y disgrifiadau a ragnodir yn y Rheoliadau.

Mae’r rheolau rhagnodedig yn gymwys i ddiwrnod y codir swm ynglŷn ag ef sy’n dod o fewn y cyfnod o bum mlynedd sy’n dechrau ar 1 Ebrill 2023 ac yn diweddu ar 31 Mawrth 2028 (“y cyfnod perthnasol”). Diffinnir diwrnod y codir swm ynglŷn ag ef yn rheoliad 2.

Mae’r rheolau rhagnodedig yn gymwys i hereditamentau diffiniedig. Hereditament diffiniedig yw hereditament a ddangosir ar restr leol neu ar restr ganolog ar 31 Mawrth 2023, ar y diwrnod perthnasol ac ar bob diwrnod rhyngddynt. Pan dynnir hereditament ymaith o restr leol neu o restr ganolog, yn ddarostyngedig i unrhyw apelau, nid yw’r rheolau rhagnodedig yn gymwys i’r hereditament o’r diwrnod y cafodd y tynnu ymaith effaith. Ni fyddai tynnu ymaith o’r fath yn cael effaith ar gymhwyso’r rheolau rhagnodedig i’r hereditament cyn y diwrnod y cafodd y tynnu ymaith effaith.

Mae’r rheolau rhagnodedig yn gostwng y cynnydd yn rhwymedigaeth y trethdalwr o ganlyniad i ailbrisiad 2023. Mae rheoliad 4 yn darparu’r cyfrifiadau ar gyfer y swm a godir am yr hereditament ar 31 Mawrth 2023 (y rhwymedigaeth sylfaenol). Dyma’r diwrnod cyn i’r rhestrau newydd a lunnir ar 1 Ebrill 2023 gael effaith. Y lluosydd ardrethu annomestig a gyfrifir ar gyfer blwyddyn ariannol 2022-23 o dan baragraff 3B o Atodlen 7 i’r Ddeddf yw 0.535.

Mae rheoliad 6 yn darparu’r fformiwla ar gyfer canfod y swm tybiannol a godir (“NCA”). Dyma’r swm a godir a fyddai’n gymwys i’r hereditament diffiniedig ar 1 Ebrill 2023 pe na bai’r rheolau rhagnodedig yn gymwys. Ceir dwy fformiwla yn rheoliad 6 er mwyn adlewyrchu’r posibilrwydd bod y rheolau rhagnodedig yn gymwys i drethdalwyr sy’n derbyn rhyddhad ardrethi i fusnesau bach a threthdalwyr nad ydynt yn derbyn rhyddhad o’r fath.

Mae’r fformiwla i ganfod yr NCA yn defnyddio’r gwerth ardrethol, y lluosydd ardrethu annomestig a, phan fo hynny’n angenrheidiol, E, fel y maent ar 1 Ebrill 2023. E yw’r ffigur a ragnodir gan Weinidogion Cymru yng Ngorchymyn Ardrethu Annomestig (Rhyddhad Ardrethi i Fusnesau Bach) (Cymru) 2017 (O.S. 2017/1229) (Cy. 293) sy’n gymwys i’r hereditament o dan sylw ar 1 Ebrill 2023. Nid yw’r ffaith y gallai’r diwrnod perthnasol y cyfrifir y swm a godir ar ei gyfer fod yn hwyrach nag 1 Ebrill 2023 yn newid y ffigurau hyn. Y rheswm am hynny yw bod y gostyngiad mewn rhwymedigaeth yn seiliedig ar gyfran o’r cynnydd mewn rhwymedigaeth rhwng 31 Mawrth 2023 ac 1 Ebrill 2023 o ganlyniad i lunio’r rhestrau newydd.

Mae rheoliad 7 yn addasu rheoliad 6 mewn achos pan fo newid i’r gwerth ardrethol ar gyfer hereditament yn cael effaith yn ystod y cyfnod perthnasol, ond o ddiwrnod ar ôl 1 Ebrill 2023. Mae’n gweithredu fel bod yr NCA, a ddefnyddir at ddibenion rheoliadau 8 a 9(a) a’r fformiwlâu yn rheoliadau 14 a 15, yn cael ei gyfrifo gan ddefnyddio’r gwerth ardrethol newydd yn hytrach na’r gwerth ardrethol ar 1 Ebrill 2023. Bydd y lluosydd ardrethu annomestig ac E yn parhau fel ag yr oeddynt ar 1 Ebrill 2023.

Mae Rhan 3 yn rhagnodi’r disgrifiadau o achosion y mae’r rheolau rhagnodedig yn gymwys iddynt. Rhaid darllen rheoliadau 9 a 10 ar y cyd â rheoliad 8. Mae rheoliad 9(a) yn darparu na fydd y rheolau rhagnodedig yn gymwys oni bai bod y rhwymedigaeth sylfaenol wedi cynyddu mwy na £300. Mae rheoliad 9(b) yn ei gwneud yn ofynnol bod yr un person wedi meddiannu’r hereditament diffiniedig er mwyn bod yn gymwys i gael gostyngiad. Pan fo meddiannaeth yr hereditament yn newid ar 1 Ebrill 2023 neu ar unrhyw ddyddiad diweddarach yn ystod y cyfnod perthnasol, nid yw’r rheolau rhagnodedig yn gymwys.

Mae rheoliad 10 yn disgrifio achosion pan na fo’r rheolau rhagnodedig yn gymwys. Mae rheoliad 10(a) yn ymdrin â’r posibilrwydd bod hereditament nad yw’n cael ei feddiannu yn dod o fewn yr achosion yn adran 45A(2) neu (3) o’r Ddeddf (elusennau a chlybiau chwaraeon cymunedol amatur cofrestredig). Mewn achos o’r fath, rhwymedigaeth y trethdalwr fyddai sero, yn unol ag adran 45A(1) o’r Ddeddf. Mae rheoliad 10(b) yn ymdrin â’r sefyllfa pan na fo rhan o hereditament yn cael ei meddiannu a bod yr awdurdod bilio wedi ei gwneud yn ofynnol i’r swyddog prisio ddosrannu gwerth ardrethol yr hereditament rhwng y rhan sy’n cael ei meddiannu a’r rhan nad yw’n cael ei meddiannu o’r hereditament o dan adran 44A(1) o’r Ddeddf. Nid yw’r rheolau rhagnodedig yn gymwys mewn achos o’r fath. Nid oes unrhyw ostyngiad mewn swm a godir ar gael felly pan fo dosraniad o’r fath yn gymwys i hereditament diffiniedig ac yn cael effaith mewn perthynas â’r swm a godir.

Pan fo hereditament diffiniedig yn achos sy’n dod o fewn pob un o’r disgrifiadau a ragnodir yn rheoliad 9, ac nad yw’n dod o fewn y disgrifiadau yn rheoliad 10, mae’r rheolau a ragnodir yn rheoliadau 12 i 16 yn gymwys. Mae’r rheolau hyn i’w defnyddio i ganfod y swm a godir ar gyfer diwrnod y codir swm ynglŷn ag ef.

Y cam cyntaf o dan reoliad 12 yw cyfrifo’r swm a godir am yr hereditament o dan adran 43 o’r Ddeddf ar gyfer hereditamentau sy’n cael eu meddiannu, adran 45 o’r Ddeddf ar gyfer hereditamentau nad ydynt yn cael eu meddiannu ac adran 54 o’r Ddeddf ar gyfer hereditamentau a ddangosir ar y rhestr ganolog. Yr ail gam yw gostwng y swm hwnnw yn ôl y symiau a gyfrifir o dan ba un bynnag o reoliadau 14 i 16 sy’n gymwys.

Mae rheoliadau 14 a 15 yn darparu gostyngiad graddol mewn symiau a godir yn ystod y cyfnod sy’n dechrau ar 1 Ebrill 2023 ac yn diweddu ar 31 Mawrth 2025. Yn y flwyddyn gyntaf, gostyngir y swm a godir yn ôl swm sy’n gyfwerth â 67% o’r cynnydd mewn rhwymedigaeth rhwng 31 Mawrth 2023 ac 1 Ebrill 2023. Yn yr ail flwyddyn gostyngir y swm a godir yn ôl 34% o’r cynnydd mewn rhwymedigaeth rhwng 31 Mawrth 2023 ac 1 Ebrill 2023. Cyfrifir y gostyngiad yn y swm a godir ar gyfer pob diwrnod perthnasol, a defnyddir y ffigur 366 yn rheoliad 14 i adlewyrchu’r ffaith bod 2024 yn flwyddyn naid. Mae rheoliad 16 yn darparu mai’r swm a godir yn ystod y cyfnod sy’n dechrau ar 1 Ebrill 2025 ac yn diweddu ar 31 Mawrth 2028 yw’r swm a ganfyddir o dan adran 43 o’r Ddeddf ar gyfer hereditamentau sy’n cael eu meddiannu, adran 45 o’r Ddeddf ar gyfer hereditamentau nad ydynt yn cael eu meddiannu ac adran 54 ar gyfer hereditamentau a ddangosir ar y rhestr ganolog (hynny yw, nid oes gostyngiad ar gyfer y blynyddoedd ariannol hynny).

Mae rheoliad 13 yn sicrhau nad yw’r rheolau rhagnodedig yn gostwng y swm a godir i swm islaw sero.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth yr Is-adran Polisi Cyllid Llywodraeth Leol, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources