RHAN 2Rhagarweiniol: cyfrifiadau

Rhwymedigaeth sylfaenol4

1

Pan fo adran 43(4B)(b) o’r Ddeddf7 yn gymwys i hereditament diffiniedig ar 31 Mawrth 2023, cyfrifir y rhwymedigaeth sylfaenol (“BL”) ar gyfer yr hereditament diffiniedig hwnnw drwy ddefnyddio’r fformiwla—

A×0.535Emath

2

Ym mhob achos arall, cyfrifir y BL ar gyfer hereditament diffiniedig drwy ddefnyddio’r fformiwla—

A×0.535math

3

At ddibenion y rheoliad hwn—

  • A yw’r gwerth ardrethol a ddangosir ar gyfer yr hereditament diffiniedig ar restr leol neu ar restr ganolog ar 31 Mawrth 2023, ac

  • E yw swm E sy’n gymwys i’r hereditament diffiniedig ar 31 Mawrth 2023 yn unol â Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Rhyddhad Ardrethi i Fusnesau Bach) (Cymru) 20178.

Swm tybiannol a godir

5

Cyfrifir y swm tybiannol a godir (“NCA”) ar gyfer hereditament diffiniedig yn unol â rheoliadau 6 a 7.

6

1

Pan fo adran 43(4B)(b) o’r Ddeddf yn gymwys i hereditament diffiniedig, ar 1 Ebrill 2023, cyfrifir yr NCA ar gyfer yr hereditament diffiniedig hwnnw drwy ddefnyddio’r fformiwla—

A×BEmath

2

Ym mhob achos arall, cyfrifir yr NCA ar gyfer hereditament diffiniedig drwy ddefnyddio’r fformiwla—

A×Bmath

3

At ddibenion y rheoliad hwn—

  • A yw’r gwerth ardrethol a ddangosir ar gyfer yr hereditament diffiniedig ar restr leol neu ar restr ganolog ar 1 Ebrill 2023,

  • B yw’r lluosydd ardrethu annomestig ar gyfer y flwyddyn ariannol sy’n dechrau ar 1 Ebrill 2023 a gyfrifir yn unol â pharagraff 4B o Atodlen 7 i’r Ddeddf9, ac

  • E yw swm E sy’n gymwys i’r hereditament diffiniedig ar 1 Ebrill 2023 yn unol â Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Rhyddhad Ardrethi i Fusnesau Bach) (Cymru) 2017.

7

1

Mae’r rheoliad hwn yn gymwys i hereditament diffiniedig pan fo, ar gyfer diwrnod ar ôl 1 Ebrill 2023, y gwerth ardrethol a ddangosir ar restr leol neu ar restr ganolog ar gyfer yr hereditament diffiniedig yn wahanol i’r hyn a ddangosir ar ei gyfer ar restr leol neu ar restr ganolog ar 1 Ebrill 2023.

2

O’r diwrnod y mae’r newid mewn gwerth ardrethol yn cael effaith, mae rheoliad 6 yn cael effaith o ran yr hereditament diffiniedig gyda’r diwygiadau a ganlyn—

a

ym mharagraff (1), yn lle “1 Ebrill 2023”, rhodder “y diwrnod y mae’r newid mewn gwerth ardrethol yn cael effaith”, a

b

ym mharagraff (3), yn lle’r diffiniad o ‘A’ rhodder “A yw’r gwerth ardrethol a ddangosir ar gyfer yr hereditament diffiniedig ar restr leol neu ar restr ganolog ar y diwrnod y mae’r newid mewn gwerth ardrethol yn cael effaith”.