RHAN 4Rheolau rhagnodedig

Rheolau ar gyfer canfod y swm a godir

11

At ddiben adran 58(3)(a) o’r Ddeddf, mae’r swm a godir ar gyfer hereditament diffiniedig y mae rheoliad 8 yn gymwys iddo (achosion sy’n dod o fewn y disgrifiad rhagnodedig) i’w ganfod yn unol â’r rheolau a ragnodir yn rheoliadau 12 i 16.

12

Y swm a godir ar gyfer diwrnod perthnasol yw’r swm a gyfrifir yn unol ag adran 4312, 4513 neu 5414 o’r Ddeddf fel y bo’n briodol, llai’r swm a gyfrifir o dan ba un bynnag o reoliadau 14 i 16 sy’n gymwys.

13

Os canlyniad gostwng y swm a godir yn unol â’r rheolau yn rheoliadau 14 i 16 yw cynhyrchu ffigur negyddol, y swm a godir yw sero.

Blwyddyn ariannol sy’n dechrau ar 1 Ebrill 202314

Yn y flwyddyn ariannol sy’n dechrau ar 1 Ebrill 2023, gostyngir y swm a godir yn ôl swm a gyfrifir drwy ddefnyddio’r fformiwla—

NCA-BL×0.67366math

Blwyddyn ariannol sy’n dechrau ar 1 Ebrill 202415

Yn y flwyddyn ariannol sy’n dechrau ar 1 Ebrill 2024, gostyngir y swm a godir yn ôl swm a gyfrifir drwy ddefnyddio’r fformiwla—

NCA-BL×0.34365math

Blynyddoedd ariannol sy’n dechrau ar 1 Ebrill 2025, 1 Ebrill 2026 a 1 Ebrill 202716

Yn y blynyddoedd ariannol sy’n dechrau ar 1 Ebrill 2025, 1 Ebrill 2026 a 1 Ebrill 2027 gostyngir y swm a godir yn ôl sero.