xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 1Rhagarweiniol: cyffredinol

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Symiau a Godir) (Cymru) 2022.

(2Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 31 Rhagfyr 2022(1) ac maent yn gymwys o ran Cymru.

(3Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas â’r cyfnod sy’n dechrau ar 1 Ebrill 2023 ac yn diweddu ar 31 Mawrth 2028 (“y cyfnod perthnasol”).

(1)

Yn unol ag adran 58(8) o’r Ddeddf sy’n ei gwneud yn ofynnol i reoliadau ddod i rym cyn 1 Ionawr yn union cyn y flwyddyn ariannol y maent yn berthnasol iddi.