Swm tybiannol a godirLL+C
7.—(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys i hereditament diffiniedig pan fo, ar gyfer diwrnod ar ôl 1 Ebrill 2023, y gwerth ardrethol a ddangosir ar restr leol neu ar restr ganolog ar gyfer yr hereditament diffiniedig yn wahanol i’r hyn a ddangosir ar ei gyfer ar restr leol neu ar restr ganolog ar 1 Ebrill 2023.
(2) O’r diwrnod y mae’r newid mewn gwerth ardrethol yn cael effaith, mae rheoliad 6 yn cael effaith o ran yr hereditament diffiniedig gyda’r diwygiadau a ganlyn—
(a)ym mharagraff (1), yn lle “1 Ebrill 2023”, rhodder “y diwrnod y mae’r newid mewn gwerth ardrethol yn cael effaith”, a
(b)ym mharagraff (3), yn lle’r diffiniad o ‘A’ rhodder “A yw’r gwerth ardrethol a ddangosir ar gyfer yr hereditament diffiniedig ar restr leol neu ar restr ganolog ar y diwrnod y mae’r newid mewn gwerth ardrethol yn cael effaith”.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Rhl. 7 mewn grym ar 31.12.2022, gweler rhl. 1(2)