2022 Rhif 1350 (Cy. 272)

Ardrethu A Phrisio, Cymru

Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Symiau a Godir) (Cymru) 2022

Gwnaed

Yn dod i rym

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pŵer a roddir i’r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 58(1), (2), (3), (4), (5), (6), (7) a (10) a 143(1) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 19881 ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy2.

Gosodwyd drafft o’r Rheoliadau hyn gerbron Senedd Cymru, ac fe’i cymeradwywyd ganddi drwy benderfyniad, yn unol ag adran 143(4) o’r Ddeddf honno3.

Yn unol ag adran 58(9) o’r Ddeddf honno, mae Gweinidogion Cymru wedi rhoi sylw i’r amcan o sicrhau (i’r graddau y bo hynny’n ymarferol) nad yw’r cyfanswm sy’n daladwy i Weinidogion Cymru a’r holl awdurdodau bilio ar ffurf ardrethi annomestig o ran y blynyddoedd ariannol sy’n dod o fewn y cyfnod perthnasol yn fwy na’r hyn y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried y byddai’n debygol o fod yn daladwy heblaw am y Rheoliadau hyn.

RHAN 1Rhagarweiniol: cyffredinol

Enwi, cychwyn a chymhwysoI11

1

Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Symiau a Godir) (Cymru) 2022.

2

Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 31 Rhagfyr 20224 ac maent yn gymwys o ran Cymru.

3

Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas â’r cyfnod sy’n dechrau ar 1 Ebrill 2023 ac yn diweddu ar 31 Mawrth 2028 (“y cyfnod perthnasol”).

Annotations:
Commencement Information
I1

Rhl. 1 mewn grym ar 31.12.2022, gweler rhl. 1(2)

DehongliI22

Yn y Rheoliadau hyn—

  • mae i “cyfnod perthnasol” (“ relevant period”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 1(3);

    ystyr “diwrnod perthnasol” (“ relevant day”) yw diwrnod y codir swm ynglŷn ag ef sy’n dod o fewn y cyfnod perthnasol;

    mae i “diwrnod y codir swm ynglŷn ag ef”, mewn perthynas â hereditamentau sy’n cael eu meddiannu a ddangosir ar restr leol, yr ystyr a roddir i “chargeable day” yn adran 43(3) o’r Ddeddf, mewn perthynas â hereditamentau nad ydynt yn cael eu meddiannu a ddangosir ar restr leol, yr ystyr a roddir yn adran 45(3) o’r Ddeddf, ac mewn perthynas â hereditamentau a ddangosir ar restr ganolog, yr ystyr a roddir yn adran 54(3) o’r Ddeddf;

    ystyr “y Ddeddf” (“ the Act”) yw Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988;

    mae i “hereditament diffiniedig” (“ defined hereditament”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 3;

    ystyr “rhestr ganolog” (“ central list”) yw rhestr a lunnir ac a gedwir yn unol ag adran 52 o’r Ddeddf5;

    ystyr “rhestr leol” (“ local list”) yw rhestr a lunnir ac a gedwir yn unol ag adran 41 o’r Ddeddf6;

    ystyr “rhwymedigaeth sylfaenol” (“BL”) (“ base liability”, “BL”) yw’r swm a gyfrifir yn unol â rheoliad 4;

    ystyr “swm tybiannol a godir” (“NCA”) (“ notional chargeable amount”, “NCA”) yw’r swm a gyfrifir yn unol â rheoliadau 6 a 7.

Annotations:
Commencement Information
I2

Rhl. 2 mewn grym ar 31.12.2022, gweler rhl. 1(2)

Hereditament diffiniedigI33

Mae hereditament yn hereditament diffiniedig mewn cysylltiad â diwrnod perthnasol os caiff ei ddangos ar restr leol neu ar restr ganolog ar—

a

31 Mawrth 2023,

b

y diwrnod perthnasol, ac

c

pob diwrnod, os oes un, sy’n dod ar ôl 31 Mawrth 2023 a chyn y diwrnod perthnasol.

Annotations:
Commencement Information
I3

Rhl. 3 mewn grym ar 31.12.2022, gweler rhl. 1(2)

RHAN 2Rhagarweiniol: cyfrifiadau

Rhwymedigaeth sylfaenolI44

1

Pan fo adran 43(4B)(b) o’r Ddeddf7 yn gymwys i hereditament diffiniedig ar 31 Mawrth 2023, cyfrifir y rhwymedigaeth sylfaenol (“BL”) ar gyfer yr hereditament diffiniedig hwnnw drwy ddefnyddio’r fformiwla—

A×0.535Emath

2

Ym mhob achos arall, cyfrifir y BL ar gyfer hereditament diffiniedig drwy ddefnyddio’r fformiwla—

A×0.535math

3

At ddibenion y rheoliad hwn—

  • A yw’r gwerth ardrethol a ddangosir ar gyfer yr hereditament diffiniedig ar restr leol neu ar restr ganolog ar 31 Mawrth 2023, ac

  • E yw swm E sy’n gymwys i’r hereditament diffiniedig ar 31 Mawrth 2023 yn unol â Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Rhyddhad Ardrethi i Fusnesau Bach) (Cymru) 20178.

Annotations:
Commencement Information
I4

Rhl. 4 mewn grym ar 31.12.2022, gweler rhl. 1(2)

Swm tybiannol a godir

I55

Cyfrifir y swm tybiannol a godir (“NCA”) ar gyfer hereditament diffiniedig yn unol â rheoliadau 6 a 7.

Annotations:
Commencement Information
I5

Rhl. 5 mewn grym ar 31.12.2022, gweler rhl. 1(2)

I66

1

Pan fo adran 43(4B)(b) o’r Ddeddf yn gymwys i hereditament diffiniedig, ar 1 Ebrill 2023, cyfrifir yr NCA ar gyfer yr hereditament diffiniedig hwnnw drwy ddefnyddio’r fformiwla—

A×BEmath

2

Ym mhob achos arall, cyfrifir yr NCA ar gyfer hereditament diffiniedig drwy ddefnyddio’r fformiwla—

A×Bmath

3

At ddibenion y rheoliad hwn—

  • A yw’r gwerth ardrethol a ddangosir ar gyfer yr hereditament diffiniedig ar restr leol neu ar restr ganolog ar 1 Ebrill 2023,

  • B yw’r lluosydd ardrethu annomestig ar gyfer y flwyddyn ariannol sy’n dechrau ar 1 Ebrill 2023 a gyfrifir yn unol â pharagraff 4B o Atodlen 7 i’r Ddeddf9, ac

  • E yw swm E sy’n gymwys i’r hereditament diffiniedig ar 1 Ebrill 2023 yn unol â Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Rhyddhad Ardrethi i Fusnesau Bach) (Cymru) 2017.

Annotations:
Commencement Information
I6

Rhl. 6 mewn grym ar 31.12.2022, gweler rhl. 1(2)

I77

1

Mae’r rheoliad hwn yn gymwys i hereditament diffiniedig pan fo, ar gyfer diwrnod ar ôl 1 Ebrill 2023, y gwerth ardrethol a ddangosir ar restr leol neu ar restr ganolog ar gyfer yr hereditament diffiniedig yn wahanol i’r hyn a ddangosir ar ei gyfer ar restr leol neu ar restr ganolog ar 1 Ebrill 2023.

2

O’r diwrnod y mae’r newid mewn gwerth ardrethol yn cael effaith, mae rheoliad 6 yn cael effaith o ran yr hereditament diffiniedig gyda’r diwygiadau a ganlyn—

a

ym mharagraff (1), yn lle “1 Ebrill 2023”, rhodder “y diwrnod y mae’r newid mewn gwerth ardrethol yn cael effaith”, a

b

ym mharagraff (3), yn lle’r diffiniad o ‘A’ rhodder “A yw’r gwerth ardrethol a ddangosir ar gyfer yr hereditament diffiniedig ar restr leol neu ar restr ganolog ar y diwrnod y mae’r newid mewn gwerth ardrethol yn cael effaith F4, ond pan fo paragraff 3 o Atodlen 4ZA neu baragraff 3 o Atodlen 5A (rhyddhad gwelliannau) i’r Ddeddf yn gymwys mewn cysylltiad â hereditament (yn ôl y digwydd), A yw’r gwerth ardrethol hwnnw llai G.”.

F33

Ym mharagraff (2)(b) uchod, G yw’r swm a ragnodir, neu’r swm a gyfrifir yn unol â’r ddarpariaeth a ragnodir, gan Weinidogion Cymru o dan baragraff 10(7) o Atodlen 4ZA neu baragraff 6(6) o Atodlen 5A i’r Ddeddf (yn ôl y digwydd).

RHAN 3Achosion y mae’r rheolau rhagnodedig yn gymwys iddynt

I88

At ddibenion adran 58(2) o’r Ddeddf, yr achosion yw’r rhai sy’n dod o fewn y disgrifiadau a ragnodir yn rheoliad 9, ac nad ydynt yn dod o fewn y disgrifiadau a ragnodir yn rheoliad 10.

Annotations:
Commencement Information
I8

Rhl. 8 mewn grym ar 31.12.2022, gweler rhl. 1(2)

Disgrifiadau rhagnodedigI99

Hereditament diffiniedig—

a

pan fo’r NCA yn fwy na’r swm a gyfrifir drwy ddefnyddio’r fformiwla—

BL+300math

, a

b

pan fo meddiannydd yr hereditament, ar y diwrnod perthnasol, yr un person â’r meddiannydd ar 31 Mawrth 2023.

Annotations:
Commencement Information
I9

Rhl. 9 mewn grym ar 31.12.2022, gweler rhl. 1(2)

EithriadauI1010

Hereditament diffiniedig—

a

pan fyddai, ar y diwrnod perthnasol, y swm a godir yn sero fel arall o dan F1baragraff 2 o Atodlen 4ZB i’r Ddeddf10, neu

b

pan fo, ar y diwrnod perthnasol, ddosraniad o dan adran 44A(1) o’r Ddeddf11 yn gymwys i’r hereditament ac yn cael effaith mewn perthynas â’r swm a godir.

RHAN 4Rheolau rhagnodedig

Rheolau ar gyfer canfod y swm a godir

I1111

At ddiben F2adran 58(3) o’r Ddeddf, mae’r swm a godir ar gyfer hereditament diffiniedig y mae rheoliad 8 yn gymwys iddo (achosion sy’n dod o fewn y disgrifiad rhagnodedig) i’w ganfod yn unol â’r rheolau a ragnodir yn rheoliadau 12 i 16.

I1212

Y swm a godir ar gyfer diwrnod perthnasol yw’r swm a gyfrifir yn unol ag adran 4312, 4513 neu 5414 o’r Ddeddf fel y bo’n briodol, llai’r swm a gyfrifir o dan ba un bynnag o reoliadau 14 i 16 sy’n gymwys.

Annotations:
Commencement Information
I12

Rhl. 12 mewn grym ar 31.12.2022, gweler rhl. 1(2)

I1313

Os canlyniad gostwng y swm a godir yn unol â’r rheolau yn rheoliadau 14 i 16 yw cynhyrchu ffigur negyddol, y swm a godir yw sero.

Annotations:
Commencement Information
I13

Rhl. 13 mewn grym ar 31.12.2022, gweler rhl. 1(2)

Blwyddyn ariannol sy’n dechrau ar 1 Ebrill 2023I1414

Yn y flwyddyn ariannol sy’n dechrau ar 1 Ebrill 2023, gostyngir y swm a godir yn ôl swm a gyfrifir drwy ddefnyddio’r fformiwla—

NCA-BL×0.67366math
Annotations:
Commencement Information
I14

Rhl. 14 mewn grym ar 31.12.2022, gweler rhl. 1(2)

Blwyddyn ariannol sy’n dechrau ar 1 Ebrill 2024I1515

Yn y flwyddyn ariannol sy’n dechrau ar 1 Ebrill 2024, gostyngir y swm a godir yn ôl swm a gyfrifir drwy ddefnyddio’r fformiwla—

NCA-BL×0.34365math
Annotations:
Commencement Information
I15

Rhl. 15 mewn grym ar 31.12.2022, gweler rhl. 1(2)

Blynyddoedd ariannol sy’n dechrau ar 1 Ebrill 2025, 1 Ebrill 2026 a 1 Ebrill 2027I1616

Yn y blynyddoedd ariannol sy’n dechrau ar 1 Ebrill 2025, 1 Ebrill 2026 a 1 Ebrill 2027 gostyngir y swm a godir yn ôl sero.

Annotations:
Commencement Information
I16

Rhl. 16 mewn grym ar 31.12.2022, gweler rhl. 1(2)

RHAN 5Dirymu

I1717

Mae Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Symiau a Godir) (Cymru) 201615 wedi eu dirymu.

Annotations:
Commencement Information
I17

Rhl. 17 mewn grym ar 31.12.2022, gweler rhl. 1(2)

Rebecca EvansY Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru
NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 31 Rhagfyr 2022 ac maent yn gymwys o ran Cymru.

Mae’r Rheoliadau hyn yn rhagnodi rheolau sydd i’w defnyddio i ganfod y swm a godir ar gyfer achosion sy’n dod o fewn y disgrifiadau a ragnodir yn y Rheoliadau.

Mae’r rheolau rhagnodedig yn gymwys i ddiwrnod y codir swm ynglŷn ag ef sy’n dod o fewn y cyfnod o bum mlynedd sy’n dechrau ar 1 Ebrill 2023 ac yn diweddu ar 31 Mawrth 2028 (“y cyfnod perthnasol”). Diffinnir diwrnod y codir swm ynglŷn ag ef yn rheoliad 2.

Mae’r rheolau rhagnodedig yn gymwys i hereditamentau diffiniedig. Hereditament diffiniedig yw hereditament a ddangosir ar restr leol neu ar restr ganolog ar 31 Mawrth 2023, ar y diwrnod perthnasol ac ar bob diwrnod rhyngddynt. Pan dynnir hereditament ymaith o restr leol neu o restr ganolog, yn ddarostyngedig i unrhyw apelau, nid yw’r rheolau rhagnodedig yn gymwys i’r hereditament o’r diwrnod y cafodd y tynnu ymaith effaith. Ni fyddai tynnu ymaith o’r fath yn cael effaith ar gymhwyso’r rheolau rhagnodedig i’r hereditament cyn y diwrnod y cafodd y tynnu ymaith effaith.

Mae’r rheolau rhagnodedig yn gostwng y cynnydd yn rhwymedigaeth y trethdalwr o ganlyniad i ailbrisiad 2023. Mae rheoliad 4 yn darparu’r cyfrifiadau ar gyfer y swm a godir am yr hereditament ar 31 Mawrth 2023 (y rhwymedigaeth sylfaenol). Dyma’r diwrnod cyn i’r rhestrau newydd a lunnir ar 1 Ebrill 2023 gael effaith. Y lluosydd ardrethu annomestig a gyfrifir ar gyfer blwyddyn ariannol 2022-23 o dan baragraff 3B o Atodlen 7 i’r Ddeddf yw 0.535.

Mae rheoliad 6 yn darparu’r fformiwla ar gyfer canfod y swm tybiannol a godir (“NCA”). Dyma’r swm a godir a fyddai’n gymwys i’r hereditament diffiniedig ar 1 Ebrill 2023 pe na bai’r rheolau rhagnodedig yn gymwys. Ceir dwy fformiwla yn rheoliad 6 er mwyn adlewyrchu’r posibilrwydd bod y rheolau rhagnodedig yn gymwys i drethdalwyr sy’n derbyn rhyddhad ardrethi i fusnesau bach a threthdalwyr nad ydynt yn derbyn rhyddhad o’r fath.

Mae’r fformiwla i ganfod yr NCA yn defnyddio’r gwerth ardrethol, y lluosydd ardrethu annomestig a, phan fo hynny’n angenrheidiol, E, fel y maent ar 1 Ebrill 2023. E yw’r ffigur a ragnodir gan Weinidogion Cymru yng Ngorchymyn Ardrethu Annomestig (Rhyddhad Ardrethi i Fusnesau Bach) (Cymru) 2017 (O.S. 2017/1229) (Cy. 293) sy’n gymwys i’r hereditament o dan sylw ar 1 Ebrill 2023. Nid yw’r ffaith y gallai’r diwrnod perthnasol y cyfrifir y swm a godir ar ei gyfer fod yn hwyrach nag 1 Ebrill 2023 yn newid y ffigurau hyn. Y rheswm am hynny yw bod y gostyngiad mewn rhwymedigaeth yn seiliedig ar gyfran o’r cynnydd mewn rhwymedigaeth rhwng 31 Mawrth 2023 ac 1 Ebrill 2023 o ganlyniad i lunio’r rhestrau newydd.

Mae rheoliad 7 yn addasu rheoliad 6 mewn achos pan fo newid i’r gwerth ardrethol ar gyfer hereditament yn cael effaith yn ystod y cyfnod perthnasol, ond o ddiwrnod ar ôl 1 Ebrill 2023. Mae’n gweithredu fel bod yr NCA, a ddefnyddir at ddibenion rheoliadau 8 a 9(a) a’r fformiwlâu yn rheoliadau 14 a 15, yn cael ei gyfrifo gan ddefnyddio’r gwerth ardrethol newydd yn hytrach na’r gwerth ardrethol ar 1 Ebrill 2023. Bydd y lluosydd ardrethu annomestig ac E yn parhau fel ag yr oeddynt ar 1 Ebrill 2023.

Mae Rhan 3 yn rhagnodi’r disgrifiadau o achosion y mae’r rheolau rhagnodedig yn gymwys iddynt. Rhaid darllen rheoliadau 9 a 10 ar y cyd â rheoliad 8. Mae rheoliad 9(a) yn darparu na fydd y rheolau rhagnodedig yn gymwys oni bai bod y rhwymedigaeth sylfaenol wedi cynyddu mwy na £300. Mae rheoliad 9(b) yn ei gwneud yn ofynnol bod yr un person wedi meddiannu’r hereditament diffiniedig er mwyn bod yn gymwys i gael gostyngiad. Pan fo meddiannaeth yr hereditament yn newid ar 1 Ebrill 2023 neu ar unrhyw ddyddiad diweddarach yn ystod y cyfnod perthnasol, nid yw’r rheolau rhagnodedig yn gymwys.

Mae rheoliad 10 yn disgrifio achosion pan na fo’r rheolau rhagnodedig yn gymwys. Mae rheoliad 10(a) yn ymdrin â’r posibilrwydd bod hereditament nad yw’n cael ei feddiannu yn dod o fewn yr achosion yn adran 45A(2) neu (3) o’r Ddeddf (elusennau a chlybiau chwaraeon cymunedol amatur cofrestredig). Mewn achos o’r fath, rhwymedigaeth y trethdalwr fyddai sero, yn unol ag adran 45A(1) o’r Ddeddf. Mae rheoliad 10(b) yn ymdrin â’r sefyllfa pan na fo rhan o hereditament yn cael ei meddiannu a bod yr awdurdod bilio wedi ei gwneud yn ofynnol i’r swyddog prisio ddosrannu gwerth ardrethol yr hereditament rhwng y rhan sy’n cael ei meddiannu a’r rhan nad yw’n cael ei meddiannu o’r hereditament o dan adran 44A(1) o’r Ddeddf. Nid yw’r rheolau rhagnodedig yn gymwys mewn achos o’r fath. Nid oes unrhyw ostyngiad mewn swm a godir ar gael felly pan fo dosraniad o’r fath yn gymwys i hereditament diffiniedig ac yn cael effaith mewn perthynas â’r swm a godir.

Pan fo hereditament diffiniedig yn achos sy’n dod o fewn pob un o’r disgrifiadau a ragnodir yn rheoliad 9, ac nad yw’n dod o fewn y disgrifiadau yn rheoliad 10, mae’r rheolau a ragnodir yn rheoliadau 12 i 16 yn gymwys. Mae’r rheolau hyn i’w defnyddio i ganfod y swm a godir ar gyfer diwrnod y codir swm ynglŷn ag ef.

Y cam cyntaf o dan reoliad 12 yw cyfrifo’r swm a godir am yr hereditament o dan adran 43 o’r Ddeddf ar gyfer hereditamentau sy’n cael eu meddiannu, adran 45 o’r Ddeddf ar gyfer hereditamentau nad ydynt yn cael eu meddiannu ac adran 54 o’r Ddeddf ar gyfer hereditamentau a ddangosir ar y rhestr ganolog. Yr ail gam yw gostwng y swm hwnnw yn ôl y symiau a gyfrifir o dan ba un bynnag o reoliadau 14 i 16 sy’n gymwys.

Mae rheoliadau 14 a 15 yn darparu gostyngiad graddol mewn symiau a godir yn ystod y cyfnod sy’n dechrau ar 1 Ebrill 2023 ac yn diweddu ar 31 Mawrth 2025. Yn y flwyddyn gyntaf, gostyngir y swm a godir yn ôl swm sy’n gyfwerth â 67% o’r cynnydd mewn rhwymedigaeth rhwng 31 Mawrth 2023 ac 1 Ebrill 2023. Yn yr ail flwyddyn gostyngir y swm a godir yn ôl 34% o’r cynnydd mewn rhwymedigaeth rhwng 31 Mawrth 2023 ac 1 Ebrill 2023. Cyfrifir y gostyngiad yn y swm a godir ar gyfer pob diwrnod perthnasol, a defnyddir y ffigur 366 yn rheoliad 14 i adlewyrchu’r ffaith bod 2024 yn flwyddyn naid. Mae rheoliad 16 yn darparu mai’r swm a godir yn ystod y cyfnod sy’n dechrau ar 1 Ebrill 2025 ac yn diweddu ar 31 Mawrth 2028 yw’r swm a ganfyddir o dan adran 43 o’r Ddeddf ar gyfer hereditamentau sy’n cael eu meddiannu, adran 45 o’r Ddeddf ar gyfer hereditamentau nad ydynt yn cael eu meddiannu ac adran 54 ar gyfer hereditamentau a ddangosir ar y rhestr ganolog (hynny yw, nid oes gostyngiad ar gyfer y blynyddoedd ariannol hynny).

Mae rheoliad 13 yn sicrhau nad yw’r rheolau rhagnodedig yn gostwng y swm a godir i swm islaw sero.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth yr Is-adran Polisi Cyllid Llywodraeth Leol, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.