- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
1. Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Bwyd a Bwyd Anifeiliaid (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2022 a deuant i rym ar 31 Rhagfyr 2022.
2.—(1) Mae Rheoliadau Deunyddiau ac Eitemau mewn Cysylltiad â Bwyd (Cymru) 2012(1) wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 2—
(a)ym mharagraff (1), hepgorer y diffiniad o “Cyfarwyddeb 2007/42/EC”;
(b)ym mharagraff (3)—
(i)hepgorer “neu at Atodiad i Gyfarwyddeb 2007/42/EC”;
(ii)hepgorer “neu’r Atodiad hwnnw”.
(3) Yn rheoliad 11, hepgorer paragraff (3).
(4) Yn rheoliad 12—
(a)ym mharagraff (1)—
(i)yn lle “Atodiad II”, yn y ddau le y mae’n digwydd, rhodder “Atodlen 6”;
(ii)yn lle “Atodiad hwnnw” rhodder “Atodlen honno”;
(b)ym mharagraff (2), yn lle “y rhan gyntaf o Atodiad II” rhodder “nhabl 1 o Atodlen 6”.
(5) Ar ôl Atodlen 5, mewnosoder yr Atodlen 6 a nodir yn Atodlen 1 i’r Rheoliadau hyn.
3.—(1) Mae Rheoliadau Ychwanegion, Cyflasynnau, Ensymau a Thoddyddion Echdynnu Bwyd (Cymru) 2013(2) wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 2—
(a)ym mharagraff (1)—
(i)hepgorer y diffiniad o “Cyfarwyddeb 2009/32”;
(ii)yn y diffiniad o “Rheoliadau’r UE”, ar ôl “UE” mewnosoder “a ddargedwir”;
(b)ym mharagraff (2), yn lle “offerynnau’r UE” rhodder “yr offerynnau”;
(c)ym mharagraff (3), yn lle “o offerynnau’r UE” rhodder “o’r offerynnau”;
(d)ym mharagraff (4), yn lle “Offerynnau’r UE” rhodder “Yr offerynnau” a hepgorer “Cyfarwyddeb 2009/32,”.
(3) Hepgorer rheoliad 9.
(4) Yn rheoliad 10(a), yn lle “Atodiad I” rhodder “Atodlen 4A”.
(5) Yn rheoliad 11(a)—
(a)yn is-baragraff (i), yn lle “Atodiad I” rhodder “Atodlen 4A”;
(b)yn is-baragraff (ii), yn lle “yr Atodiad hwnnw” rhodder “Atodlen 4A”;
(c)ar ôl is-baragraff (iii), mewnosoder “ac”;
(d)ar ôl is-baragraff (iv), yn lle “, a” rhodder “; neu”;
(e)hepgorer is-baragraff (v) a’r “neu” sy’n ei ddilyn.
(6) Yn rheoliad 14(1)(a), yn lle “Atodiad 1” rhodder “Atodlen 4A”.
(7) Yn rheoliad 16, ar ôl “Rheoliadau’r UE” mewnosoder “a ddargedwir”.
(8) Yn rheoliad 19(2), ar ôl “Reoliadau’r UE” mewnosoder “a ddargedwir”.
(9) Ar ôl Atodlen 4, mewnosoder yr Atodlen 4A a nodir yn Atodlen 2 i’r Rheoliadau hyn.
4.—(1) Mae Rheoliadau Bwyd Anifeiliaid (Cyfansoddiad, Marchnata a Defnydd) (Cymru) 2016(3) wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 2—
(a)ym mharagraff (1)—
(i)hepgorer y diffiniadau o “Cyfarwyddeb 82/475” a “Cyfarwyddeb 2002/32”;
(ii)yn y diffiniad o “awdurdod bwyd anifeiliaid”, yn lle “67(1)” rhodder “67(1A)”;
(b)ym mharagraff (2), ar ôl “UE” mewnosoder “a ddargedwir”;
(c)ym mharagraff (3), yn y ddau le y mae’n digwydd, hepgorer “UE”.
(3) Yn rheoliad 12(2), yn lle “yr Atodiad i Gyfarwyddeb 82/475” rhodder “Atodlen 1A”.
(4) Yn rheoliad 13(2)(b), yn lle “i’r awdurdod priodol” rhodder “i Weinidogion Cymru”.
(5) Yn lle pennawd Rhan 6 rhodder—
(6) Yn rheoliad 14, hepgorer paragraff (a) a’r “a” sydd ar ei ôl.
(7) Yn rheoliad 15—
(a)ym mharagraff (1)—
(i)yn is-baragraff (a), yn lle “Atodiad I” rhodder “dabl yn Atodlen 1B”;
(ii)yn y geiriau sy’n dod ar ôl is-baragraff (b), yn lle “Atodiad” rhodder “tabl”;
(b)ym mharagraff (2)—
(i)yn is-baragraff (a), yn lle “Atodiad I” rhodder “dabl yn Atodlen 1B”;
(ii)yn is-baragraff (b), yn lle “Atodiad” rhodder “tabl”;
(c)ym mharagraff (3)—
(i)yn lle “Atodiad I” rhodder “dabl yn Atodlen 1B”;
(ii)yn lle “Atodiad”, yn yr ail le y mae’n digwydd, rhodder “tabl”;
(d)ym mharagraff (5)—
(i)yn lle “Atodiad I” rhodder “dabl yn Atodlen 1B”;
(ii)yn lle “Atodiad”, yn yr ail le y mae’n digwydd, rhodder “tabl”;
(e)ym mharagraff (7)—
(i)ar ôl is-baragraff (c) hepgorer yr “a”;
(ii)ar ôl is-baragraff (d) mewnosoder—
“(e)mawn;
(f)leonardit.”;
(f)ar ôl paragraff (8) mewnosoder—
“(9) Er mwyn lleihau neu ddileu ffynonellau sylweddau annymunol mewn cynhyrchion a fwriedir ar gyfer bwyd anifeiliaid, rhaid i awdurdodau bwyd anifeiliaid gynnal ymchwiliadau i ganfod ffynonellau sylweddau annymunol, mewn achosion pan fo mwy o’r sylweddau na’r lefelau uchaf a ganiateir ac mewn achosion pan fo lefelau uwch o’r sylweddau hynny wedi eu canfod, gan ystyried y lefelau cefndir.
(10) Mewn achosion o lefelau uwch o’r sylweddau annymunol a restrir yn Atodlen 1C, mae trothwyon gweithredu ar gyfer sbarduno ymchwiliadau wedi eu nodi yn yr Atodlen honno.
(11) Rhaid i awdurdodau bwyd anifeiliaid anfon i’r Asiantaeth yr holl wybodaeth berthnasol a chanfyddiadau o ran y ffynhonnell a’r mesurau a gymerwyd i leihau’r lefel o sylweddau annymunol neu i’w dileu.”
(8) Ar ôl rheoliad 15 mewnosoder—
15A.—(1) Pan fo paragraff (2) yn gymwys, caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, wneud darpariaeth i ddiwygio cofnod, ychwanegu cofnod neu ddileu cofnod yn Atodlen 1B neu 1C.
(2) Mae’r paragraff hwn yn gymwys—
(a)pan fo Gweinidogion Cymru yn ystyried bod presenoldeb sylwedd annymunol nas rhestrir yn Atodlen 1B, neu ar lefel a ganiateir yn unol ag Atodlen 1B, mewn bwyd anifeiliaid yn peri, neu y byddai’n peri, perygl i iechyd anifeiliaid neu iechyd dynol neu i’r amgylchedd, neu
(b)pan fo Gweinidogion Cymru yn ystyried bod hynny’n angenrheidiol er mwyn addasu i ddatblygiadau gwyddonol a thechnegol.
(3) Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, ddiffinio meini prawf derbynioldeb ar gyfer prosesau dadwenwyno a ddefnyddir i ddileu sylwedd annymunol a restrir yn Atodlen 1B yn fwriadol o fwyd anifeiliaid.
(4) Mae pŵer i wneud rheoliadau o dan y rheoliad hwn—
(a)yn arferadwy drwy offeryn statudol;
(b)yn cynnwys y pŵer i wneud darpariaeth wahanol at ddibenion gwahanol;
(c)yn cynnwys y pŵer i wneud darpariaeth ddeilliadol, darpariaeth atodol, darpariaeth ganlyniadol, darpariaeth drosiannol, darpariaeth ddarfodol neu ddarpariaeth arbed (gan gynnwys darpariaeth sy’n diwygio, yn diddymu neu’n dirymu deddfiadau neu ddeddfwriaeth uniongyrchol yr UE a ddargedwir).
(5) Mae offeryn statudol sy’n cynnwys rheoliadau o dan y rheoliad hwn yn ddarostyngedig i’w ddiddymu yn unol â phenderfyniad gan Senedd Cymru.”
(9) Ar ôl Atodlen 1 mewnosoder yr Atodlenni 1A, 1B ac 1C a nodir yn Atodlen 3 i’r Rheoliadau hyn.
5.—(1) Mae Rheoliadau Bwyd Anifeiliaid (Hylendid, Samplu etc. a Gorfodi) (Cymru) 2016(4) wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 2—
(a)ym mharagraff (1), yn y diffiniad o “awdurdod bwyd anifeiliaid”, yn lle “67(1)” rhodder “67(1A)”;
(b)ym mharagraff (5)—
(i)yn y testun Saesneg, yn lle “an” rhodder “a”;
(ii)yn y ddau le y mae’n digwydd, hepgorer “UE”.
(3) Yn rheoliad 4(1)(a), yn lle “20(2), 21(1) a 22(2)(b)” rhodder “19(3) a (7) ac 21(1)”.
(4) Yn rheoliad 30(1)(b), yn lle “ag Erthygl 4.2 o Gyfarwyddeb 2002/32/EC Senedd Ewrop a’r Cyngor ar sylweddau annymunol mewn bwyd anifeiliaid” rhodder “â rheoliad 15(9) o Reoliadau Bwyd Anifeiliaid (Cyfansoddiad, Marchnata a Defnydd) (Cymru) 2016”.
Lynne Neagle
Y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant, o dan awdurdod y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
15 Rhagfyr 2022
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: