Enwi a chychwyn1

Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Bwyd a Bwyd Anifeiliaid (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2022 a deuant i rym ar 31 Rhagfyr 2022.

Diwygio Rheoliadau Deunyddiau ac Eitemau mewn Cysylltiad â Bwyd (Cymru) 20122

1

Mae Rheoliadau Deunyddiau ac Eitemau mewn Cysylltiad â Bwyd (Cymru) 20125 wedi eu diwygio fel a ganlyn.

2

Yn rheoliad 2—

a

ym mharagraff (1), hepgorer y diffiniad o “Cyfarwyddeb 2007/42/EC”;

b

ym mharagraff (3)—

i

hepgorer “neu at Atodiad i Gyfarwyddeb 2007/42/EC”;

ii

hepgorer “neu’r Atodiad hwnnw”.

3

Yn rheoliad 11, hepgorer paragraff (3).

4

Yn rheoliad 12—

a

ym mharagraff (1)—

i

yn lle “Atodiad II”, yn y ddau le y mae’n digwydd, rhodder “Atodlen 6”;

ii

yn lle “Atodiad hwnnw” rhodder “Atodlen honno”;

b

ym mharagraff (2), yn lle “y rhan gyntaf o Atodiad II” rhodder “nhabl 1 o Atodlen 6”.

5

Ar ôl Atodlen 5, mewnosoder yr Atodlen 6 a nodir yn Atodlen 1 i’r Rheoliadau hyn.

Diwygio Rheoliadau Ychwanegion, Cyflasynnau, Ensymau a Thoddyddion Echdynnu Bwyd (Cymru) 20133

1

Mae Rheoliadau Ychwanegion, Cyflasynnau, Ensymau a Thoddyddion Echdynnu Bwyd (Cymru) 20136 wedi eu diwygio fel a ganlyn.

2

Yn rheoliad 2—

a

ym mharagraff (1)—

i

hepgorer y diffiniad o “Cyfarwyddeb 2009/32”;

ii

yn y diffiniad o “Rheoliadau’r UE”, ar ôl “UE” mewnosoder “a ddargedwir”;

b

ym mharagraff (2), yn lle “offerynnau’r UE” rhodder “yr offerynnau”;

c

ym mharagraff (3), yn lle “o offerynnau’r UE” rhodder “o’r offerynnau”;

d

ym mharagraff (4), yn lle “Offerynnau’r UE” rhodder “Yr offerynnau” a hepgorer “Cyfarwyddeb 2009/32,”.

3

Hepgorer rheoliad 9.

4

Yn rheoliad 10(a), yn lle “Atodiad I” rhodder “Atodlen 4A”.

5

Yn rheoliad 11(a)—

a

yn is-baragraff (i), yn lle “Atodiad I” rhodder “Atodlen 4A”;

b

yn is-baragraff (ii), yn lle “yr Atodiad hwnnw” rhodder “Atodlen 4A”;

c

ar ôl is-baragraff (iii), mewnosoder “ac”;

d

ar ôl is-baragraff (iv), yn lle “, a” rhodder “; neu”;

e

hepgorer is-baragraff (v) a’r “neu” sy’n ei ddilyn.

6

Yn rheoliad 14(1)(a), yn lle “Atodiad 1” rhodder “Atodlen 4A”.

7

Yn rheoliad 16, ar ôl “Rheoliadau’r UE” mewnosoder “a ddargedwir”.

8

Yn rheoliad 19(2), ar ôl “Reoliadau’r UE” mewnosoder “a ddargedwir”.

9

Ar ôl Atodlen 4, mewnosoder yr Atodlen 4A a nodir yn Atodlen 2 i’r Rheoliadau hyn.

Diwygio Rheoliadau Bwyd Anifeiliaid (Cyfansoddiad, Marchnata a Defnydd) (Cymru) 20164

1

Mae Rheoliadau Bwyd Anifeiliaid (Cyfansoddiad, Marchnata a Defnydd) (Cymru) 20167 wedi eu diwygio fel a ganlyn.

2

Yn rheoliad 2—

a

ym mharagraff (1)—

i

hepgorer y diffiniadau o “Cyfarwyddeb 82/475” a “Cyfarwyddeb 2002/32”;

ii

yn y diffiniad o “awdurdod bwyd anifeiliaid”, yn lle “67(1)” rhodder “67(1A)”;

b

ym mharagraff (2), ar ôl “UE” mewnosoder “a ddargedwir”;

c

ym mharagraff (3), yn y ddau le y mae’n digwydd, hepgorer “UE”.

3

Yn rheoliad 12(2), yn lle “yr Atodiad i Gyfarwyddeb 82/475” rhodder “Atodlen 1A”.

4

Yn rheoliad 13(2)(b), yn lle “i’r awdurdod priodol” rhodder “i Weinidogion Cymru”.

5

Yn lle pennawd Rhan 6 rhodder—

Sylweddau annymunol mewn cynhyrchion a fwriedir ar gyfer bwyd anifeiliaid

6

Yn rheoliad 14, hepgorer paragraff (a) a’r “a” sydd ar ei ôl.

7

Yn rheoliad 15—

a

ym mharagraff (1)—

i

yn is-baragraff (a), yn lle “Atodiad I” rhodder “dabl yn Atodlen 1B”;

ii

yn y geiriau sy’n dod ar ôl is-baragraff (b), yn lle “Atodiad” rhodder “tabl”;

b

ym mharagraff (2)—

i

yn is-baragraff (a), yn lle “Atodiad I” rhodder “dabl yn Atodlen 1B”;

ii

yn is-baragraff (b), yn lle “Atodiad” rhodder “tabl”;

c

ym mharagraff (3)—

i

yn lle “Atodiad I” rhodder “dabl yn Atodlen 1B”;

ii

yn lle “Atodiad”, yn yr ail le y mae’n digwydd, rhodder “tabl”;

d

ym mharagraff (5)—

i

yn lle “Atodiad I” rhodder “dabl yn Atodlen 1B”;

ii

yn lle “Atodiad”, yn yr ail le y mae’n digwydd, rhodder “tabl”;

e

ym mharagraff (7)—

i

ar ôl is-baragraff (c) hepgorer yr “a”;

ii

ar ôl is-baragraff (d) mewnosoder—

e

mawn;

f

leonardit.

f

ar ôl paragraff (8) mewnosoder—

9

Er mwyn lleihau neu ddileu ffynonellau sylweddau annymunol mewn cynhyrchion a fwriedir ar gyfer bwyd anifeiliaid, rhaid i awdurdodau bwyd anifeiliaid gynnal ymchwiliadau i ganfod ffynonellau sylweddau annymunol, mewn achosion pan fo mwy o’r sylweddau na’r lefelau uchaf a ganiateir ac mewn achosion pan fo lefelau uwch o’r sylweddau hynny wedi eu canfod, gan ystyried y lefelau cefndir.

10

Mewn achosion o lefelau uwch o’r sylweddau annymunol a restrir yn Atodlen 1C, mae trothwyon gweithredu ar gyfer sbarduno ymchwiliadau wedi eu nodi yn yr Atodlen honno.

11

Rhaid i awdurdodau bwyd anifeiliaid anfon i’r Asiantaeth yr holl wybodaeth berthnasol a chanfyddiadau o ran y ffynhonnell a’r mesurau a gymerwyd i leihau’r lefel o sylweddau annymunol neu i’w dileu.

8

Ar ôl rheoliad 15 mewnosoder—

Rheoliadau sy’n diwygio Atodlenni 1B ac 1C15A

1

Pan fo paragraff (2) yn gymwys, caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, wneud darpariaeth i ddiwygio cofnod, ychwanegu cofnod neu ddileu cofnod yn Atodlen 1B neu 1C.

2

Mae’r paragraff hwn yn gymwys—

a

pan fo Gweinidogion Cymru yn ystyried bod presenoldeb sylwedd annymunol nas rhestrir yn Atodlen 1B, neu ar lefel a ganiateir yn unol ag Atodlen 1B, mewn bwyd anifeiliaid yn peri, neu y byddai’n peri, perygl i iechyd anifeiliaid neu iechyd dynol neu i’r amgylchedd, neu

b

pan fo Gweinidogion Cymru yn ystyried bod hynny’n angenrheidiol er mwyn addasu i ddatblygiadau gwyddonol a thechnegol.

3

Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, ddiffinio meini prawf derbynioldeb ar gyfer prosesau dadwenwyno a ddefnyddir i ddileu sylwedd annymunol a restrir yn Atodlen 1B yn fwriadol o fwyd anifeiliaid.

4

Mae pŵer i wneud rheoliadau o dan y rheoliad hwn—

a

yn arferadwy drwy offeryn statudol;

b

yn cynnwys y pŵer i wneud darpariaeth wahanol at ddibenion gwahanol;

c

yn cynnwys y pŵer i wneud darpariaeth ddeilliadol, darpariaeth atodol, darpariaeth ganlyniadol, darpariaeth drosiannol, darpariaeth ddarfodol neu ddarpariaeth arbed (gan gynnwys darpariaeth sy’n diwygio, yn diddymu neu’n dirymu deddfiadau neu ddeddfwriaeth uniongyrchol yr UE a ddargedwir).

5

Mae offeryn statudol sy’n cynnwys rheoliadau o dan y rheoliad hwn yn ddarostyngedig i’w ddiddymu yn unol â phenderfyniad gan Senedd Cymru.

9

Ar ôl Atodlen 1 mewnosoder yr Atodlenni 1A, 1B ac 1C a nodir yn Atodlen 3 i’r Rheoliadau hyn.

Diwygio Rheoliadau Bwyd Anifeiliaid (Hylendid, Samplu etc. a Gorfodi) (Cymru) 20165

1

Mae Rheoliadau Bwyd Anifeiliaid (Hylendid, Samplu etc. a Gorfodi) (Cymru) 20168 wedi eu diwygio fel a ganlyn.

2

Yn rheoliad 2—

a

ym mharagraff (1), yn y diffiniad o “awdurdod bwyd anifeiliaid”, yn lle “67(1)” rhodder “67(1A)”;

b

ym mharagraff (5)—

i

yn y testun Saesneg, yn lle “an” rhodder “a”;

ii

yn y ddau le y mae’n digwydd, hepgorer “UE”.

3

Yn rheoliad 4(1)(a), yn lle “20(2), 21(1) a 22(2)(b)” rhodder “19(3) a (7) ac 21(1)”.

4

Yn rheoliad 30(1)(b), yn lle “ag Erthygl 4.2 o Gyfarwyddeb 2002/32/EC Senedd Ewrop a’r Cyngor ar sylweddau annymunol mewn bwyd anifeiliaid” rhodder “â rheoliad 15(9) o Reoliadau Bwyd Anifeiliaid (Cyfansoddiad, Marchnata a Defnydd) (Cymru) 2016”.

Lynne NeagleY Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant, o dan awdurdod y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru