2022 Rhif 1362 (Cy. 273)

Ymadael Â’r Undeb Ewropeaidd, Cymru
Amaethyddiaeth, Cymru
Bwyd, Cymru

Rheoliadau Bwyd a Bwyd Anifeiliaid (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2022

Gwnaed

Yn dod i rym

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddir gan—

  • paragraff 1(1) o Atodlen 2 a pharagraff 21(b) o Atodlen 7 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 20181, ac

  • adrannau 66(1), 74A(1) a 84 o Ddeddf Amaethyddiaeth 19702.

Gosodwyd drafft o’r offeryn hwn gerbron Senedd Cymru ac fe’i cymeradwywyd ganddi drwy benderfyniad yn unol â pharagraff 1(8) o Atodlen 7 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 20183.

Cynhaliwyd ymgynghoriad fel sy’n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a’r Cyngor sy’n gosod egwyddorion a gofynion cyffredinol cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd4 neu, yn achos darpariaethau sy’n ymwneud â bwyd anifeiliaid ar gyfer anifeiliaid nad ydynt yn cynhyrchu bwyd, adran 84(1) o Ddeddf Amaethyddiaeth 1970.