Offerynnau Statudol Cymru
2022 Rhif 1362 (Cy. 273)
Ymadael Â’r Undeb Ewropeaidd, Cymru
Amaethyddiaeth, Cymru
Bwyd, Cymru
Rheoliadau Bwyd a Bwyd Anifeiliaid (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2022
Gwnaed
15 Rhagfyr 2022
Yn dod i rym
31 Rhagfyr 2022
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddir gan—
paragraff 1(1) o Atodlen 2 a pharagraff 21(b) o Atodlen 7 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018(1), ac
adrannau 66(1), 74A(1) a 84 o Ddeddf Amaethyddiaeth 1970(2).
Gosodwyd drafft o’r offeryn hwn gerbron Senedd Cymru ac fe’i cymeradwywyd ganddi drwy benderfyniad yn unol â pharagraff 1(8) o Atodlen 7 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018(3).
Cynhaliwyd ymgynghoriad fel sy’n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a’r Cyngor sy’n gosod egwyddorion a gofynion cyffredinol cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd(4) neu, yn achos darpariaethau sy’n ymwneud â bwyd anifeiliaid ar gyfer anifeiliaid nad ydynt yn cynhyrchu bwyd, adran 84(1) o Ddeddf Amaethyddiaeth 1970.
2018 p. 16. Gweler adran 20(1) ar gyfer ystyr “devolved authority”. Diwygiwyd paragraff 21 o Atodlen 7 gan adran 41(4) o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Y Cytundeb Ymadael) 2020 (p. 1), a pharagraffau 38 a 53(2) o Atodlen 5 iddi.
1970 p. 40. Gweler adran 66(1) ar gyfer ystyr “the Ministers”, “prescribed” a “regulations”. Trosglwyddwyd swyddogaethau a arferid gynt gan “the Ministers”, i’r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan O.S. 1999/672. Trosglwyddwyd y swyddogaethau hynny wedi hynny i Weinidogion Cymru gan adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32), a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi. Mewnosodwyd adran 74A gan baragraff 6 o Atodlen 4 i Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 (p. 68). Diwygiwyd adran 84 gan O.S. 2004/3254.
Mae’r cyfeiriadau yn Neddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 at Gynulliad Cenedlaethol Cymru bellach yn cael effaith fel cyfeiriadau at Senedd Cymru yn rhinwedd adran 150A(2) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32). Gweler paragraff 38 o Atodlen 7 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 am ddarpariaeth ynghylch y weithdrefn sy’n gymwys i’r offeryn hwn.
EUR 2002/178, y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.