Diwygio Rheoliadau Bwyd Anifeiliaid (Hylendid, Samplu etc. a Gorfodi) (Cymru) 2016
5.—(1) Mae Rheoliadau Bwyd Anifeiliaid (Hylendid, Samplu etc. a Gorfodi) (Cymru) 2016(1) wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 2—
(a)ym mharagraff (1), yn y diffiniad o “awdurdod bwyd anifeiliaid”, yn lle “67(1)” rhodder “67(1A)”;
(b)ym mharagraff (5)—
(i)yn y testun Saesneg, yn lle “an” rhodder “a”;
(ii)yn y ddau le y mae’n digwydd, hepgorer “UE”.
(3) Yn rheoliad 4(1)(a), yn lle “20(2), 21(1) a 22(2)(b)” rhodder “19(3) a (7) ac 21(1)”.
(4) Yn rheoliad 30(1)(b), yn lle “ag Erthygl 4.2 o Gyfarwyddeb 2002/32/EC Senedd Ewrop a’r Cyngor ar sylweddau annymunol mewn bwyd anifeiliaid” rhodder “â rheoliad 15(9) o Reoliadau Bwyd Anifeiliaid (Cyfansoddiad, Marchnata a Defnydd) (Cymru) 2016”.
O.S. 2016/387 (Cy. 121), a ddiwygiwyd gan O.S. 2018/806 (Cy. 162), 2020/1381 (Cy. 307), 2020/1487 (Cy. 317); ceir offerynnau diwygio eraill ond nid yw’r un ohonynt yn berthnasol.