Offerynnau Statudol Cymru
Llywodraeth Leol, Cymru
Gwnaed
16 Chwefror 2022
Yn dod i rym
18 Chwefror 2022
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adrannau 80(1) a 174 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021(1), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.
Yn unol ag adran 80(2)(c) ac adran 82(2) a (3)(a) a (d) o’r Ddeddf honno, mae Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori ag unrhyw bersonau y maent yn ystyried ei bod yn briodol ymgynghori â hwy ar ddrafft o’r Rheoliadau hyn, ac wedi rhoi hysbysiad i’r prif gynghorau yn ardal Cyd-bwyllgor Corfforedig y De-ddwyrain ac i Gyd-bwyllgor Corfforedig y De-ddwyrain o’u bwriad i wneud y Rheoliadau.
Gosodwyd drafft o’r offeryn hwn gerbron Senedd Cymru ac fe’i cymeradwywyd ganddi drwy benderfyniad yn unol ag adran 174(4) a (5) o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021.
1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cyd-bwyllgor Corfforedig De-ddwyrain (Cymru) (Diwygio) 2022.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 18 Chwefror 2022.
2.—(1) Mae Rheoliadau Cyd-bwyllgor Corfforedig De-ddwyrain (Cymru) 2021(2) wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 1(3) (cychwyn darpariaethau sy’n rhoi swyddogaethau penodol i’r cyd-bwyllgor corfforedig)—
(a)yn lle “28 Chwefror” rhodder “30 Mehefin”, a
(b)yn is-baragraff (d) hepgorer “11,”.
Rebecca Evans
Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru
16 Chwefror 2022
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Cyd-bwyllgor Corfforedig De-ddwyrain (Cymru) 2021 (“Rheoliadau Sefydlu’r De-ddwyrain”), i ohirio’r dyddiad y bydd swyddogaethau penodol yn cael eu rhoi i Gyd-bwyllgor Corfforedig y De-ddwyrain.
Gwnaed Rheoliadau Sefydlu’r De-ddwyrain o dan Ran 5 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (“Deddf 2021”), a sefydlwyd Cyd-bwyllgor Corfforedig y De-ddwyrain ganddynt.
Rhoddodd Rheoliadau Sefydlu’r De-ddwyrain hefyd y swyddogaethau a ganlyn i Gyd-bwyllgor Corfforedig y De-ddwyrain gydag effaith o 28 Chwefror 2022 (1 Ebrill 2021 yw dyddiad cychwyn y rhan fwyaf o weddill y Rheoliadau hynny)—
y swyddogaeth llesiant economaidd (o ran hynny, gweler adran 76 o Ddeddf 2021);
datblygu polisïau trafnidiaeth o dan Ran 2 o Ddeddf Trafnidiaeth 2000;
llunio cynllun datblygu strategol (o ran hynny, gweler Rhan 6 o Ddeddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004).
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Sefydlu’r De-ddwyrain fel y bydd y swyddogaethau a grybwyllir uchod yn cael eu rhoi i Gyd-bwyllgor Corfforedig y De-ddwyrain gydag effaith o 30 Mehefin 2022, yn hytrach nag o 28 Chwefror 2022.
Mae’r Rheoliadau hyn hefyd yn hepgor o reoliad 1(3)(d) o Reoliadau Sefydlu’r De-ddwyrain y cyfeiriad at reoliad 11 o’r Rheoliadau hynny, o ganlyniad i amnewid rheoliad 15 o’r Rheoliadau hynny gan reoliad 36(7) o Reoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Cyffredinol) (Rhif 2) (Cymru) 2021. Mae rheoliad 15 bellach yn cynnwys datgymhwysiad o’r pŵer i ddirprwyo swyddogaethau yn hytrach na phŵer i ddirprwyo (o ran yr olaf, gweler rheoliad 13 o Reoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Cyffredinol) (Rhif 2) (Cymru) 2021, a ddaeth i rym ar 3 Rhagfyr 2021).
Lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol ar adeg gwneud Rheoliadau Sefydlu’r De-ddwyrain a gellir cael copi oddi wrth yr Is-adran Cyllid Strategol Llywodraeth Leol, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.
2021 dsc 1.
O.S. 2021/343 (Cy. 97). Diwygiwyd y Rheoliadau hynny gan Reoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Cyffredinol) (Rhif 2) (Cymru) 2021 (O.S. 2021/1349 (Cy. 348)), a amnewidiodd reoliad 15 (dirprwyo swyddogaethau), ymysg diwygiadau eraill.