NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Cyd-bwyllgor Corfforedig De-ddwyrain (Cymru) 2021 (“Rheoliadau Sefydlu’r De-ddwyrain”), i ohirio’r dyddiad y bydd swyddogaethau penodol yn cael eu rhoi i Gyd-bwyllgor Corfforedig y De-ddwyrain.

Gwnaed Rheoliadau Sefydlu’r De-ddwyrain o dan Ran 5 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (“Deddf 2021”), a sefydlwyd Cyd-bwyllgor Corfforedig y De-ddwyrain ganddynt.

Rhoddodd Rheoliadau Sefydlu’r De-ddwyrain hefyd y swyddogaethau a ganlyn i Gyd-bwyllgor Corfforedig y De-ddwyrain gydag effaith o 28 Chwefror 2022 (1 Ebrill 2021 yw dyddiad cychwyn y rhan fwyaf o weddill y Rheoliadau hynny)—

  • y swyddogaeth llesiant economaidd (o ran hynny, gweler adran 76 o Ddeddf 2021);

  • datblygu polisïau trafnidiaeth o dan Ran 2 o Ddeddf Trafnidiaeth 2000;

  • llunio cynllun datblygu strategol (o ran hynny, gweler Rhan 6 o Ddeddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004).

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Sefydlu’r De-ddwyrain fel y bydd y swyddogaethau a grybwyllir uchod yn cael eu rhoi i Gyd-bwyllgor Corfforedig y De-ddwyrain gydag effaith o 30 Mehefin 2022, yn hytrach nag o 28 Chwefror 2022.

Mae’r Rheoliadau hyn hefyd yn hepgor o reoliad 1(3)(d) o Reoliadau Sefydlu’r De-ddwyrain y cyfeiriad at reoliad 11 o’r Rheoliadau hynny, o ganlyniad i amnewid rheoliad 15 o’r Rheoliadau hynny gan reoliad 36(7) o Reoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Cyffredinol) (Rhif 2) (Cymru) 2021. Mae rheoliad 15 bellach yn cynnwys datgymhwysiad o’r pŵer i ddirprwyo swyddogaethau yn hytrach na phŵer i ddirprwyo (o ran yr olaf, gweler rheoliad 13 o Reoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Cyffredinol) (Rhif 2) (Cymru) 2021, a ddaeth i rym ar 3 Rhagfyr 2021).

Lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol ar adeg gwneud Rheoliadau Sefydlu’r De-ddwyrain a gellir cael copi oddi wrth yr Is-adran Cyllid Strategol Llywodraeth Leol, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.