- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
(Nid ywʼr nodyn hwn yn rhan oʼr Rheoliadau)
Mae Rhan 2A o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984 yn galluogi Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, i wneud darpariaeth at ddiben atal, diogelu rhag, rheoli neu ddarparu ymateb iechyd y cyhoedd i fynychder neu ledaeniad haint neu halogiad yng Nghymru.
Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud mewn ymateb i’r bygythiad i iechyd y cyhoedd a berir gan fynychder a lledaeniad coronafeirws syndrom anadlol acíwt difrifol 2 (SARS-CoV-2) yng Nghymru.
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020 (O.S. 2020/1609 (Cy. 335)) (“y prif Reoliadau”) er mwyn—
darparu bod y Rheoliadau hynny yn dod i ben ar ddiwedd y diwrnod ar 28 Mawrth 2022 (yn hytrach na 25 Chwefror 2022));
hepgor rheoliad 16A o’r prif Reoliadau, sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r person sy’n gyfrifol am fangre benodol gymryd mesurau rhesymol i sicrhau nad yw oedolion yn y fangre onid ydynt yn meddu ar yr hyn y cyfeirir ato’n gyffredin fel “pàs COVID” (a gwneud diwygiadau canlyniadol);
estyn yr esemptiad ar gyfer personau sydd wedi eu brechu’n llawn sy’n gysylltiadau agos i bersonau sy’n cael canlyniad positif am y coronafeirws fel nad oes rhaid i gysylltiadau agos hunanynysu mwyach os ydynt wedi cwblhau cwrs o ddosau o unrhyw frechlyn sydd wedi ei awdurdodi at ddibenion Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) 2022 (O.S. 2022/126 (Cy. 41)) neu o dan raglen frechu’r Deyrnas Unedig dramor (cyn y diwygiad, dim ond os oeddent wedi cwblhau cwrs o ddosau o frechlyn sydd wedi ei awdurdodi yn y Deyrnas Unedig yr oedd cysylltiadau agos wedi eu hesemptio);
mewnosod darpariaeth drosiannol sy’n ymwneud â’r diwygiad i’r esemptiad ar gyfer cysylltiadau agos sydd wedi eu brechu’n llawn a dirymu darpariaeth drosiannol sydd wedi ei disbyddu.
Er gwaethaf y diwygiadau a wneir gan y Rheoliadau hyn, mae’r prif Reoliadau yn parhau i ddarparu nad oes unrhyw lefel rhybudd yn gymwys i Gymru. Mae hyn yn golygu nad yw’r un o’r cyfyngiadau a’r gofynion yn Atodlenni 1 i 4 i’r prif Reoliadau yn gymwys (a phe bai rheoliadau yn y dyfodol yn symud Cymru i unrhyw un o lefelau rhybudd 1 i 4, gellid diwygio’r cyfyngiadau a’r gofynion yn Atodlenni 1 i 4 i’r prif Reoliadau cyn iddynt gymryd effaith).
Mae’r Rheoliadau hyn hefyd yn diwygio Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Swyddogaethau Awdurdodau Lleol etc.) (Cymru) 2020 (O.S. 2020/1011 (Cy. 235)) i newid eu dyddiad dod i ben i 28 Mawrth 2022.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. Yn unol â’r Cod, ni chynhaliwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn, oherwydd bod angen eu rhoi yn eu lle ar frys i sicrhau bod cyfyngiadau a gofynion y prif Reoliadau yn parhau i fod yn gymesur.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: