Search Legislation

Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 5) 2022

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening OptionsExpand opening options

Statws

This is the original version (as it was originally made). This item of legislation is currently only available in its original format.

Diwygio Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020

2.—(1Mae Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020(1) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 3, yn lle “25 Chwefror 2022” rhodder “28 Mawrth 2022”.

(3Yn rheoliad 10—

(a)yn lle paragraff (5)(a) rhodder—

(a)sydd wedi cwblhau cwrs o ddosau—

(i)o frechlyn awdurdodedig, neu

(ii)o frechlyn o dan raglen frechu’r Deyrnas Unedig dramor,

a bod y diwrnod y cafodd y person y cysylltiad agos a arweiniodd at yr hysbysiad a ddisgrifir yn rheoliad 8(1) yn fwy na 14 o ddiwrnodau ar ôl y diwrnod y cwblhaodd y person y cwrs hwnnw o ddosau, a;

(b)yn lle paragraff (7) rhodder—

(7) At ddibenion paragraff (5)—

(a)mae person wedi cwblhau cwrs o ddosau o frechlyn awdurdodedig—

(i)os yw’r person wedi cael y cwrs cyflawn o ddosau a bennir—

(aa)yn y crynodeb o nodweddion y cynnyrch a gymeradwywyd fel rhan o’r awdurdodiad marchnata ar gyfer y brechlyn awdurdodedig, neu

(bb)yn y cyfarwyddiadau defnyddio a gymeradwywyd fel rhan o’r awdurdodiad gan yr awdurdod trwyddedu ar sail dros dro o dan reoliad 174 o Reoliadau Meddyginiaethau Dynol 2012(2);

(ii)os yw’r person wedi cael dos o un brechlyn awdurdodedig a dos o frechlyn awdurdodedig gwahanol;

(iii)os yw’r person wedi cael o leiaf dau ddos o unrhyw frechlyn y cyfeirir ato yn is-baragraff (d) o’r diffiniad o “brechlyn awdurdodedig” yn rheoliad 3(14) o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol;

(b)mae person wedi cwblhau cwrs o ddosau o frechlyn o dan raglen frechu’r Deyrnas Unedig dramor—

(i)os yw’r person wedi cael y cwrs cyflawn o ddosau o frechlyn fel y’i pennir yng nghanllawiau’r gweithgynhyrchydd ar gyfer y brechlyn hwnnw;

(ii)os yw’r person wedi cael dos o un brechlyn o dan raglen frechu’r Deyrnas Unedig dramor a dos o frechlyn gwahanol o dan raglen frechu’r Deyrnas Unedig dramor;

(iii)os yw’r person wedi cael dos o frechlyn awdurdodedig a dos o frechlyn o dan raglen frechu’r Deyrnas Unedig dramor.

(c)ym mharagraff (8)—

(i)yn lle is-baragraff (a) rhodder—

(a)mae i “brechlyn awdurdodedig” yr ystyr a roddir yn rheoliad 3(14) o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol;;

(ii)ar ôl is-baragraff (b) mewnosoder—

(ba)ystyr “y Rheoliadau Teithio Rhyngwladol” yw Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) 2022(3);;

(iii)yn is-baragraff (d), yn lle “i “marketing authorisation” yn rheoliad 8(1) o Reoliadau Meddyginiaethau Dynol 2012” rhodder “yn rheoliad 3(14) o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol”;

(iv)ar ôl is-baragraff (e) mewnosoder—

(f)mae i “rhaglen frechu’r Deyrnas Unedig dramor” yr ystyr a roddir yn rheoliad 3(14) o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol.

(4Hepgorer rheoliad 10C.

(5O flaen rheoliad 11 mewnosoder—

Darpariaeth drosiannol: gofynion ynysu

10D.  Pan—

(a)bo’n ofynnol i berson (“P”) beidio ag ymadael â’r man lle y mae P yn byw, neu fod y tu allan iddo, yn unol â rheoliad 8(2) (“y gofyniad i P ynysu”) yn union cyn 18 Chwefror 2022, a

(b)pe bai P wedi cael hysbysiad a ddisgrifir yn rheoliad 8(1) ar neu ar ôl y dyddiad hwnnw, byddai P (oherwydd cymhwyso rheoliad 10(5) fel y’i diwygir gan Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 5) 2022) yn cael ei eithrio rhag y gofyniad i beidio ag ymadael â’r man lle y mae P yn byw, neu fod y tu allan iddo, yn unol â rheoliad 8(2),

mae’r gofyniad i P ynysu yn peidio â bod yn gymwys ar ddechrau 18 Chwefror 2022.

(6Hepgorer rheoliad 16A.

(7Yn rheoliad 18(1), hepgorer “neu 16A(1)”.

(8Yn rheoliad 25(3)(a)(i), hepgorer “neu 16A(1)”.

(9Yn rheoliad 26, yn lle “rheoliadau 16(1) ac 16A(1)” rhodder “rheoliad 16”.

(10Hepgorer rheoliad 30A.

(11Hepgorer rheoliad 40A.

(12Yn Atodlen 8—

(a)ym mharagraff 1—

(i)yn is-baragraff (1)(a), hepgorer “neu 16A”;

(ii)yn is-baragraff (2)(b), hepgorer “neu 16A”;

(b)ym mharagraff 2—

(i)yn is-baragraff (3)(a), hepgorer “neu 16A”;

(ii)yn is-baragraff (4)(b)(ii), hepgorer “neu 16A”;

(iii)yn is-baragraff (4)(c), hepgorer “neu 16A”;

(c)ym mharagraff 3(3)(c), hepgorer “neu 16A”;

(d)ym mharagraff 4(1)(b), hepgorer “neu 16A”.

Back to top

Options/Help