Gwaharddiadau ar roi hysbysiad yn ceisio meddiant yn ymwneud ag iechyd a diogelwch

4.  Yn Atodlen 9A i’r Ddeddf, ar ôl paragraff 5 mewnosoder—

Methu â sicrhau bod larymau mwg a larymau carbon monocsid sy’n gweithio wedi eu gosod

5A.(1) Mae’r paragraff hwn wedi ei ymgorffori fel un o delerau pob contract safonol—

(a)a grybwyllir ym mharagraff 7(1), a

(b)y mae rheoliad 5 o Reoliadau Rhentu Cartrefi (Ffitrwydd Annedd i Bobl Fyw Ynddi) (Cymru) 2022 (O.S. 2022/6 (Cy. 4)) (“y Rheoliadau Ffitrwydd Annedd i Bobl Fyw Ynddi”) yn gymwys mewn perthynas ag ef.

(2) Ni chaiff landlord roi hysbysiad ar adeg—

(a)pan fo’r annedd yn cael ei thrin fel pe na bai’n ffit i bobl fyw ynddi yn rhinwedd rheoliad 5(3) o’r Rheoliadau Ffitrwydd Annedd i Bobl Fyw Ynddi (methu â sicrhau bod larymau mwg sy’n gweithio ac, mewn rhai amgylchiadau, larymau carbon monocsid sy’n gweithio, wedi eu gosod mewn annedd), a

(b)pan fo, o ganlyniad, yn ofynnol i’r landlord o dan Ran 4 o’r Ddeddf hon gymryd camau i stopio’r annedd rhag cael ei thrin fel pe na bai’n ffit i bobl fyw ynddi yn rhinwedd y rheoliad hwnnw.

Methu â chyflenwi adroddiad ar gyflwr trydanol etc.

5B.(1) Mae’r paragraff hwn wedi ei ymgorffori fel un o delerau pob contract safonol—

(a)a grybwyllir ym mharagraff 7(1), a

(b)y mae rheoliad 6 o Reoliadau Rhentu Cartrefi (Ffitrwydd Annedd i Bobl Fyw Ynddi) (Cymru) 2022 (O.S. 2022/6 (Cy. 4)) (“y Rheoliadau Ffitrwydd Annedd i Bobl Fyw Ynddi”) yn gymwys mewn perthynas ag ef.

(2) Ni chaiff landlord roi hysbysiad ar adeg—

(a)pan fo’r annedd yn cael ei thrin fel pe na bai’n ffit i bobl fyw ynddi yn rhinwedd rheoliad 6(6) o’r Rheoliadau Ffitrwydd Annedd i Bobl Fyw Ynddi (methu â chael adroddiad ar gyflwr trydanol, neu fethu â rhoi adroddiad o’r fath neu gadarnhad ysgrifenedig o waith trydanol arall penodol i ddeiliad y contract), a

(b)pan fo, o ganlyniad, yn ofynnol i’r landlord o dan Ran 4 o’r Ddeddf hon gymryd camau i stopio’r annedd rhag cael ei thrin fel pe na bai’n ffit i bobl fyw ynddi yn rhinwedd y rheoliad hwnnw.

Methu â darparu adroddiad ar ddiogelwch nwy i ddeiliad y contract

5C.(1) Mae’r paragraff hwn wedi ei ymgorffori fel un o delerau pob contract safonol—

(a)a grybwyllir ym mharagraff 7(1), a

(b)y mae rheoliad 36 o’r Rheoliadau Diogelwch Nwy yn gymwys mewn perthynas ag ef.

(2) Ni chaiff landlord roi hysbysiad ar adeg pan na fo’r landlord wedi cydymffurfio â rheoliad 36(6) neu (yn ôl y digwydd) (7) o’r Rheoliadau Diogelwch Nwy (gofyniad i ddarparu neu arddangos adroddiad ar ddiogelwch etc. gosodiadau nwy).

(3) At ddibenion is-baragraff (2), mae landlord nad yw wedi cydymffurfio â rheoliad 36(6) neu (7) o’r Rheoliadau Diogelwch Nwy i’w drin fel pe bai yn cydymffurfio â’r ddarpariaeth o dan sylw ar unrhyw adeg pan fo—

(a)y landlord wedi sicrhau y rhoddwyd copi o gofnod diogelwch nwy i ddeiliad y contract, neu (yn ôl y digwydd) bod copi ohono wedi ei arddangos mewn lle amlwg yn yr annedd, a

(b)bod y cofnod yn ddilys.

(4) At ddibenion is-baragraff (3), mae cofnod diogelwch nwy yn ddilys hyd ddiwedd y cyfnod y mae’n ofynnol unwaith eto i’r cyfarpar neu’r ffliw y mae’r cofnod yn ymwneud ag ef fod yn ddarostyngedig i wiriad diogelwch o dan y Rheoliadau Diogelwch Nwy.

(5) Yn y paragraff hwn—

ystyr “cofnod diogelwch nwy” (“gas safety record”) yw cofnod a wnaed yn unol â gofynion rheoliad 36(3)(c) o’r Rheoliadau Diogelwch Nwy;

ystyr “gwiriad diogelwch” (“check for safety”) yw gwiriad diogelwch a gynhelir yn unol â rheoliad 36(3) o’r Rheoliadau Diogelwch Nwy;

ystyr “Rheoliadau Diogelwch Nwy” (“Gas Safety Regulations”) yw Rheoliadau Diogelwch Nwy (Gosod a Defnyddio) 1998 (O.S. 1998/2451).