Diwygiadau cysylltiedig i Atodlen 9A i’r Ddeddf

5.—(1Mae Atodlen 9A i’r Ddeddf wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2Ym mharagraff 1—

(a)daw’r testun presennol yn is-baragraff (2);

(b)o flaen yr is-baragraff hwnnw mewnosoder—

(1) Mae’r paragraff hwn wedi ei ymgorffori fel un o delerau pob contract safonol—

(a)a grybwyllir ym mharagraff 7(1), a

(b)sy’n ymgorffori adran 31.

(3Ym mharagraff 2—

(4Ym mharagraff 3—

(b)sy’n ymgorffori adran 39.

(5Ym mharagraff 4, ar ôl is-baragraff (5) mewnosoder—

(6) Mae is-baragraff (1) wedi ei ymgorffori yn unig fel un o delerau contract a grybwyllir ym mharagraff 7(1) sy’n ymgorffori adran 43.

(6Ym mharagraff 7(1), ar ôl “darpariaeth sylfaenol sydd” mewnosoder “, yn ddarostyngedig i unrhyw ddarpariaeth i’r gwrthwyneb yn Rhan 1,”.