Diwygio Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol, Profion cyn Ymadael ac Atebolrwydd Gweithredwyr) (Cymru) (Diwygio) 2021
11.—(1) Hepgorer rheoliad 2 (dehongli).
(2) Hepgorer Rhan 2 (profion cyn ymadael).
(3) Yn rheoliad 4 (dehongli)—
(a)yn y lle priodol mewnosoder “mae i “ardal deithio gyffredin” yr ystyr a roddir i “common travel area” yn adran 1(3) o Ddeddf Mewnfudo 1971();”;
(b)yn y lle priodol mewnosoder “ystyr “y Rheoliadau Teithio Rhyngwladol” (“the International Travel Regulations”) yw Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) 2022();”;
(c)yn y lle priodol mewnosoder “mae i “teithiwr cymwys” (“eligible traveller”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 3 o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol;”;
(d)yn y diffiniad o “person awdurdodedig” hepgorer “, ac eithrio yn rheoliad 5B,”;
(e)hepgorer y diffiniad o “plentyn”;
(f)yn y diffiniad o “gweithredwr” hepgorer “, ac eithrio yn rheoliad 5B,”;
(g)hepgorer y diffiniad o “hysbysu am drefniadau profion ar ôl cyrraedd”;
(h)hepgorer y diffiniad o “teithiwr rheoliad 2A”;
(i)hepgorer y diffiniad o “teithiwr perthnasol”;
(j)hepgorer y diffiniad o “hysbysiad gofynnol”;
(k)yn y diffiniad o “y gofyniad i feddu ar hysbysiad o ganlyniad prawf negyddol”, yn lle “6A(1)” rhodder “7(3)”;
(l)hepgorer y diffiniad o “unigolyn cyfrifol”;
(m)hepgorer y diffiniad o “teithiwr Atodlen 3A”.