2022 Rhif 188 (Cy. 62)

Llywodraeth Leol, Cymru

Rheoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Swyddogaethau Trafnidiaeth) (Addasiadau Canlyniadol a Darpariaethau Trosiannol) (Cymru) 2022

Gwnaed

Yn dod i rym

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 173 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 20211, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.

Mae drafft o’r Rheoliadau hyn wedi ei gymeradwyo drwy benderfyniad gan Senedd Cymru yn unol ag adran 174(4) a (5)(t) o’r Ddeddf honno.

Enwi a chychwyn1

1

Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Swyddogaethau Trafnidiaeth) (Addasiadau Canlyniadol a Darpariaethau Trosiannol) (Cymru) 2022.

2

Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 28 Chwefror 2022.

Dehongli2

1

Yn y Rheoliadau hyn—

  • ystyr “awdurdod trafnidiaeth lleol” (“local transport authority”) yw cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol;

  • ystyr “cyd-bwyllgor corfforedig” (“corporate joint committee”) yw cyd-bwyllgor corfforedig a sefydlir gan Reoliadau o dan Ran 5 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021;

  • ystyr “cyngor cyfansoddol” (“constituent council”) yw cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol yng Nghymru, y mae Gweinidogion Cymru wedi sefydlu cyd-bwyllgor corfforedig mewn cysylltiad â’i ardal;

  • ystyr “Deddf 2000” (“the 2000 Act”) yw Deddf Trafnidiaeth 20002.

2

At ddibenion y Rheoliadau hyn, mae unrhyw gyfeiriad at ddarpariaeth “addasedig” o Ddeddf 2000 yn gyfeiriad at y ddarpariaeth honno fel y’i haddaswyd gan yr Atodlen i Reoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Swyddogaethau Trafnidiaeth) (Cymru) 20213.

Addasiadau i ddeddfwriaeth3

Pan fo’r swyddogaeth o ddatblygu polisïau o dan adran 108(1)(a) a (2A)(a) o Ran 2 o Ddeddf 2000 mewn cysylltiad ag ardal awdurdod trafnidiaeth lleol wedi ei rhoi i gyd-bwyllgor corfforedig, mae’r ddeddfwriaeth y cyfeirir ati yn yr Atodlen yn gymwys yn ddarostyngedig i’r addasiadau a nodir yn yr Atodlen.

Darpariaeth drosiannol4

1

Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo’r swyddogaeth o ddatblygu polisïau o dan adran 108(1)(a) a (2A)(a) o Ran 2 o Ddeddf 2000 mewn cysylltiad ag ardal awdurdod trafnidiaeth lleol wedi ei rhoi i gyd-bwyllgor corfforedig.

2

Mae unrhyw bolisïau a ddatblygir gan gyngor cyfansoddol o dan adran 108(1)(a) o Ddeddf 2000 i’w trin fel pe baent yn bolisïau wedi eu datblygu gan y cyd-bwyllgor corfforedig o dan adran 108(1) addasedig o Ddeddf 2000 mewn cysylltiad â’r rhan honno o ardal y cyd-bwyllgor corfforedig sydd wedi ei chyfansoddi o ardal y cyngor cyfansoddol.

3

Mae paragraff (2) yn peidio â bod yn gymwys pan fo’r cyd-bwyllgor corfforedig yn datblygu polisïau mewn cysylltiad â’r rhan honno o’i ardal o dan adran 108(1) addasedig o Ddeddf 2000.

4

Mae unrhyw bolisïau a ddatblygir gan gyngor cyfansoddol o dan adran 108(2A) o Ddeddf 2000 i’w trin fel pe baent yn bolisïau wedi eu datblygu gan y cyd-bwyllgor corfforedig o dan adran 108(2A) addasedig mewn cysylltiad â’r rhan honno o ardal y cyd-bwyllgor corfforedig sydd wedi ei chyfansoddi o ardal y cyngor cyfansoddol.

5

Mae paragraff (4) yn peidio â bod yn gymwys pan fo’r cyd-bwyllgor corfforedig yn datblygu polisïau mewn cysylltiad â’r rhan honno o’i ardal o dan adran 108(2A) addasedig.

6

Mae cynllun trafnidiaeth lleol a gyflwynir gan gyngor cyfansoddol ac a gymeradwyir gan Weinidogion Cymru o dan adran 109A o Ddeddf 2000 i’w drin fel pe bai’n gynllun trafnidiaeth rhanbarthol wedi ei gyflwyno gan gyd-bwyllgor corfforedig a’i gymeradwyo gan Weinidogion Cymru o dan adran 109A addasedig mewn cysylltiad â’r rhan honno o ardal y cyd-bwyllgor corfforedig sydd wedi ei chyfansoddi o ardal y cyngor cyfansoddol.

7

Mae paragraff (6) yn peidio â bod yn gymwys pan fo Gweinidogion Cymru yn cymeradwyo cynllun trafnidiaeth rhanbarthol y cyd-bwyllgor corfforedig o dan adran 109A addasedig.

Dirymu Gorchymyn Cynllunio Trafnidiaeth Rhanbarthol (Cymru) 20145

Mae Gorchymyn Cynllunio Trafnidiaeth Rhanbarthol (Cymru) 20144 wedi ei ddirymu.

Lee WatersY Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd, o dan awdurdod y Gweinidog Newid Hinsawdd, un o Weinidogion Cymru

YR ATODLENAddasiadau i ddeddfwriaeth

Rheoliad 3

Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Cynlluniau Datblygu Lleol) (Cymru) 20051

Mae rheoliad 13 o Reoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Cynlluniau Datblygu Lleol) (Cymru) 20055 i’w ddarllen fel pe bai—

a

ym mharagraff (1), y canlynol wedi ei roi yn lle is-baragraffau (a) a (b)—

a

unrhyw gynllun trafnidiaeth rhanbarthol a baratowyd o dan adran 108(3A) o Ddeddf Trafnidiaeth 2000 (fel y’i haddaswyd gan Reoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Swyddogaethau Trafnidiaeth) (Cymru) 2021), y mae ei bolisïau’n effeithio ar unrhyw ran o ardal yr ACLl;

b

unrhyw bolisïau eraill a baratowyd o dan adran 108(1) a (2A) o Ddeddf Trafnidiaeth 2000 (fel y’i haddaswyd gan Reoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Swyddogaethau Trafnidiaeth) (Cymru) 2021) sy’n effeithio ar unrhyw ran o ardal yr ACLl;

b

paragraff (3) wedi ei hepgor.

Deddf Trafnidiaeth (Cymru) 20062

Mae Deddf Trafnidiaeth (Cymru) 20066 i’w darllen fel pe bai—

a

yn adran 2 (Strategaeth Drafnidiaeth Cymru), yn is-adran (5), y canlynol wedi ei fewnosod ar ôl paragraff (a)—

aa

each corporate joint committee upon whom the function of developing policies under section 108(1)(a) and (2A)(a) of Part 2 of the Transport Act 2000 has been conferred;

b

yn adran 14 (dehongli), y canlynol wedi ei fewnosod ar ôl is-adran (3)—

4

Corporate joint committee” means a corporate joint committee established by Regulations under Part 5 of the Local Government and Elections (Wales) Act 2021.

Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Trefniadau Gweithrediaeth) (Swyddogaethau a Chyfrifoldebau) (Cymru) 20073

Mae Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Trefniadau Gweithrediaeth) (Swyddogaethau a Chyfrifoldebau) (Cymru) 20077 i’w darllen fel pe bai, yn y tabl yn Atodlen 3, y cofnod sy’n ymwneud â Chynllun Trafnidiaeth Lleol wedi ei hepgor.

Deddf Teithio Llesol (Cymru) 20134

Mae Deddf Teithio Llesol (Cymru) 20138 i’w darllen fel pe bai—

a

y canlynol wedi ei roi yn lle adran 6 (datblygu polisïau trafnidiaeth gan roi sylw i fap rhwydwaith integredig)—

6Datblygu polisïau trafnidiaeth gan roi sylw i fap rhwydwaith integredig

Rhaid i bob cyd-bwyllgor corfforedig y mae’r swyddogaeth o ddatblygu polisïau o dan adran 108(1)(a) a (2A)(a) o Ddeddf Trafnidiaeth 2000 (polisïau sy’n sail i gynlluniau trafnidiaeth rhanbarthol) wedi ei rhoi iddo, wrth ddatblygu’r polisïau hynny, roi sylw i’r map rhwydwaith integredig ar gyfer ei ardal.

b

yn adran 13, y canlynol wedi ei fewnosod yn y lle priodol—

  • ystyr “cyd-bwyllgor corfforedig” (“corporate joint committee”) yw cyd-bwyllgor corfforedig a sefydlir gan Reoliadau a wnaed o dan Ran 5 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021;

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae Rhan 5 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (dsc 1) yn rhoi pŵer i Weinidogion Cymru i sefydlu cyd-bwyllgorau corfforedig. Mae cyd-bwyllgorau corfforedig yn gyrff corfforedig sy’n cynnwys y cynghorau sir a’r cynghorau bwrdeistref sirol hynny yng Nghymru a bennir yn y Rheoliadau sy’n eu sefydlu. Caniateir iddynt arfer y swyddogaethau a bennir yn y Rheoliadau hynny, gan gynnwys (ymhlith pethau eraill) swyddogaethau penodedig cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol o ran trafnidiaeth.

Mae swyddogaethau o dan adran 108 o Ddeddf Trafnidiaeth 2000 wedi eu rhoi i bedwar cyd-bwyllgor corfforedig ar wahân o dan y Rheoliadau a ganlyn a wnaed o dan adrannau 74, 83 a 174 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021—

a

Rheoliadau Cyd-bwyllgor Corfforedig De-ddwyrain (Cymru) 2021 (O.S. 2021/343) (Cy. 97);

b

Rheoliadau Cyd-bwyllgor Corfforedig y De-orllewin (Cymru) 2021 (O.S. 2021/352) (Cy. 104);

c

Rheoliadau Cyd-bwyllgor Corfforedig y Canolbarth (Cymru) 2021 (O.S. 2021/342) (Cy. 96);

d

Rheoliadau Cyd-bwyllgor Corfforedig y Gogledd (Cymru) 2021 (O.S. 2021/339) (Cy. 93).

Mae Rheoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Swyddogaethau Trafnidiaeth) (Cymru) 2021 (“Rheoliadau 2021”), sy’n dod i rym ar yr un diwrnod â’r Rheoliadau hyn, yn addasu Deddf Trafnidiaeth 2000 mewn achosion pan fo cyd-bwyllgor corfforedig wedi ei sefydlu drwy Reoliadau a’r swyddogaeth o ddatblygu polisïau o dan adran 108 o Ddeddf 2000 wedi ei rhoi i’r cyd-bwyllgor corfforedig. Mae’r addasiadau’n ei gwneud yn ofynnol i’r cyd-bwyllgor corfforedig ddatblygu polisïau trafnidiaeth a sefydlu cynllun trafnidiaeth rhanbarthol ar gyfer ei ardal.

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn o dan adran 173 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021. Maent yn diwygio deddfwriaeth sylfaenol ac is-ddeddfwriaeth o ganlyniad i’r addasiadau i Ddeddf Trafnidiaeth 2000 a wneir gan Reoliadau 2021.

Mae rheoliad 4 yn gwneud darpariaeth i gadw polisïau trafnidiaeth presennol a luniwyd gan gynghorau sir a chynghorau bwrdeistref sirol hyd nes y bydd cynlluniau trafnidiaeth rhanbarthol mewn grym mewn perthynas â’u hardaloedd.

Mae rheoliad 5 yn dirymu Gorchymyn Cynllunio Trafnidiaeth Rhanbarthol (Cymru) 2014.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.