- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Rheoliad 3
1. Mae rheoliad 13 o Reoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Cynlluniau Datblygu Lleol) (Cymru) 2005(1) i’w ddarllen fel pe bai—
(a)ym mharagraff (1), y canlynol wedi ei roi yn lle is-baragraffau (a) a (b)—
“(a)unrhyw gynllun trafnidiaeth rhanbarthol a baratowyd o dan adran 108(3A) o Ddeddf Trafnidiaeth 2000 (fel y’i haddaswyd gan Reoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Swyddogaethau Trafnidiaeth) (Cymru) 2021), y mae ei bolisïau’n effeithio ar unrhyw ran o ardal yr ACLl;
(b)unrhyw bolisïau eraill a baratowyd o dan adran 108(1) a (2A) o Ddeddf Trafnidiaeth 2000 (fel y’i haddaswyd gan Reoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Swyddogaethau Trafnidiaeth) (Cymru) 2021) sy’n effeithio ar unrhyw ran o ardal yr ACLl;”;
(b)paragraff (3) wedi ei hepgor.
2. Mae Deddf Trafnidiaeth (Cymru) 2006(2) i’w darllen fel pe bai—
(a)yn adran 2 (Strategaeth Drafnidiaeth Cymru), yn is-adran (5), y canlynol wedi ei fewnosod ar ôl paragraff (a)—
“(aa)each corporate joint committee upon whom the function of developing policies under section 108(1)(a) and (2A)(a) of Part 2 of the Transport Act 2000 has been conferred;”;
(b)yn adran 14 (dehongli), y canlynol wedi ei fewnosod ar ôl is-adran (3)—
“(4) “Corporate joint committee” means a corporate joint committee established by Regulations under Part 5 of the Local Government and Elections (Wales) Act 2021.”
3. Mae Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Trefniadau Gweithrediaeth) (Swyddogaethau a Chyfrifoldebau) (Cymru) 2007(3) i’w darllen fel pe bai, yn y tabl yn Atodlen 3, y cofnod sy’n ymwneud â Chynllun Trafnidiaeth Lleol wedi ei hepgor.
4. Mae Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013(4) i’w darllen fel pe bai—
(a)y canlynol wedi ei roi yn lle adran 6 (datblygu polisïau trafnidiaeth gan roi sylw i fap rhwydwaith integredig)—
Rhaid i bob cyd-bwyllgor corfforedig y mae’r swyddogaeth o ddatblygu polisïau o dan adran 108(1)(a) a (2A)(a) o Ddeddf Trafnidiaeth 2000 (polisïau sy’n sail i gynlluniau trafnidiaeth rhanbarthol) wedi ei rhoi iddo, wrth ddatblygu’r polisïau hynny, roi sylw i’r map rhwydwaith integredig ar gyfer ei ardal.”;
(b)yn adran 13, y canlynol wedi ei fewnosod yn y lle priodol—
“ystyr “cyd-bwyllgor corfforedig” (“corporate joint committee”) yw cyd-bwyllgor corfforedig a sefydlir gan Reoliadau a wnaed o dan Ran 5 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021;”.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: