xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2022 Rhif 208 (Cy. 66) (C. 9)

Y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, Cymru

Gofal Cymdeithasol, Cymru

Gorchymyn Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru) 2020 (Cychwyn Rhif 1) 2022

Gwnaed

27 Chwefror 2022

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adran 29(2) a (3) o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru) 2020(1), yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:

Enwi a dehongli

1.—(1Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru) 2020 (Cychwyn Rhif 1) 2022.

(2Yn y Gorchymyn hwn, ystyr “y Ddeddf” yw Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru) 2020.

Y darpariaethau sy’n dod i rym ar 8 Mawrth 2022

2.  Daw’r darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf i rym ar 8 Mawrth 2022—

(a)adran 24 (is-gadeiryddion byrddau cyfarwyddwyr ymddiriedolaethau’r GIG), a

(b)adran 26 (dehongli).

Y darpariaethau sy’n dod i rym ar 1 Ebrill 2022

3.  Daw’r darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf i rym ar 1 Ebrill 2022—

(a)adran 12 (sefydlu Corff Llais y Dinesydd);

(b)adran 19(1), (2) a (5) (cod ymarfer ar fynediad i fangreoedd);

(c)adran 21 (ystyr “gwasanaethau iechyd” a “gwasanaethau cymdeithasol”);

(d)adran 22 (ystyr termau eraill);

(e)Atodlen 1 (Corff Llais y Dinesydd ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Cymru), ac eithrio paragraffau 6, 7, 8 a 22 o’r Atodlen honno.

Eluned Morgan

Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru

27 Chwefror 2022

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Mae’r Gorchymyn hwn a wneir gan Weinidogion Cymru yn dwyn i rym ddarpariaethau penodol yn Neddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru) 2020 (“y Ddeddf”).

Mae erthygl 2 o’r Gorchymyn hwn yn dwyn i rym adrannau 24 a 26 o’r Ddeddf ar 8 Mawrth 2022. Mae adran 24 o’r Ddeddf yn diwygio Rhan 1 o Atodlen 3 i Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 (“Deddf 2006”) i alluogi Gweinidogion Cymru, os ydynt yn ystyried ei bod yn briodol, i benodi is-gadeirydd i fwrdd ymddiriedolaeth GIG. Mae adran 24 o’r Ddeddf hefyd yn gwneud diwygiadau canlyniadol i Ran 1 o Atodlen 3 i Ddeddf 2006 mewn cysylltiad â hyn, gan gynnwys er mwyn caniatáu i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau ynghylch cymwysterau a deiliadaeth swydd is-gadeirydd (gan gynnwys yr amgylchiadau y mae’n peidio â dal swydd neu y caniateir iddo gael ei ddiswyddo neu ei atal dros dro odanynt).

Mae adran 26 o’r Ddeddf yn diffinio termau allweddol a ddefnyddir yn y Ddeddf gan gynnwys “Deddf 2006”.

Daw’r darpariaethau a restrir yn erthygl 3 o’r Gorchymyn hwn i rym ar 1 Ebrill 2022. Mae erthygl 3 yn dwyn i rym adran 12 o’r Ddeddf. Mae adran 12(1) yn sefydlu Corff Llais y Dinesydd ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Cymru (“y Corff”) fel corff corfforedig ac yn caniatáu ar gyfer gwneud gwaith paratoi i alluogi’r Corff i gyflawni ei swyddogaethau pan fydd gweddill y darpariaethau yn Rhan 4 o’r Ddeddf wedi eu cychwyn. Mae adran 12(2) o’r Ddeddf yn cyflwyno Atodlen 1 i’r Ddeddf. Mae Atodlen 1 yn gwneud darpariaeth ynghylch cyfansoddiad y Corff a materion perthynol. Mae Atodlen 1 i’r Ddeddf wedi ei chychwyn, ac eithrio paragraffau 6 (penodi’r aelod cyswllt), 7 (telerau aelodaeth gyswllt etc.), 8 (anghymhwyso rhag penodiad fel aelod anweithredol) a 22 (cynllun blynyddol) o’r Atodlen honno.

Mae erthygl 3 hefyd yn dwyn i rym adrannau 19(1), 19(2), 19(5), 21 a 22 o’r Ddeddf i alluogi Gweinidogion Cymru i lunio cod ymarfer ynghylch ceisiadau a wneir gan y Corff i gael mynediad i fangreoedd at ddiben ceisio barn unigolion mewn cysylltiad â gwasanaethau iechyd neu wasanaethau cymdeithasol, a phan fo mynediad i’r mangreoedd hynny wedi ei gytuno, ymgysylltu ag unigolion yn y mangreoedd hynny at y diben hwnnw. Er y bydd yn ofynnol i Weinidogion Cymru ymgynghori â’r Corff, byrddau iechyd lleol, ymddiriedolaethau GIG, awdurdodau iechyd arbennig ac awdurdodau lleol wrth lunio’r cod, ni fydd dyletswydd ar y cyrff hyn i roi sylw i’r cod hyd nes y bydd adran 19(3) a (4) wedi ei chychwyn.