2022 Rhif 209 (Cy. 67)

Bwyd, Cymru

Rheoliadau Wyau (Cymru) 2022

Gwnaed

Yn dod i rym

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 50(3) o Ddeddf Amaethyddiaeth 20201 a pharagraff 16(1) o Atodlen 5 iddi.

Fel sy’n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a’r Cyngor sy’n gosod egwyddorion cyffredinol a gofynion cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd2, ymgynghorwyd yn agored ac yn dryloyw â’r cyhoedd wrth lunio’r Rheoliadau hyn.

Yn unol ag adran 50(6)(c) o Ddeddf Amaethyddiaeth 2020 a pharagraff 16(5) o Atodlen 5 iddi, gosodwyd drafft o’r offeryn hwn gerbron Senedd Cymru ac fe’i cymeradwywyd ganddi drwy benderfyniad.

Enwi, cychwyn a chymhwyso1

1

Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Wyau (Cymru) 2022 a deuant i rym ar 4 Mawrth 2022.

2

Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Diwygio Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 589/20082

1

Mae Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 589/2008 sy’n gosod rheolau manwl ar gyfer gweithredu Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1234/2007 o ran safonau marchnata ar gyfer wyau3 wedi ei ddiwygio yn unol â pharagraff (2).

2

Yn Erthygl 24(3), yn yr is-baragraff cyntaf, yn lle’r geiriau o “at the time” hyd at “free circulation” rhodder “before being offered for sale to the final consumer or to mass caterers”.

Lesley Griffithsy Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd, un o Weinidogion Cymru
NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio’r gyfraith UE a ddargedwir sy’n sefydlu safonau marchnata ar gyfer wyau. Maent yn gymwys o ran Cymru.

Maent yn diwygio Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 589/2008 (EUR 2008/589) a ddargedwir ar safonau marchnata ar gyfer wyau, drwy ganiatáu i wiriadau safonau marchnata ar wyau Dosbarth A ddigwydd mewn lleoliadau megis canolfannau pecynnu a mangreoedd cyfanwerthwyr, ond cyn gwerthu i’r defnyddiwr terfynol neu i arlwywyr mawr, yn hytrach na’i gwneud yn ofynnol i’r gwiriadau gael eu cynnal cyn cliriad tollau.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.