Golwg cyfnod mewn amser fel yr oedd ar 06/12/2023.
Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Rheoliadau Rhentu Cartrefi (Gwybodaeth Esboniadol ar gyfer Datganiadau Ysgrifenedig o Gontractau Meddiannaeth) (Cymru) 2022, Adran 3.
Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Ar hyn o bryd mae unrhyw newidiadau neu effeithiau hysbys a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol wedi'u gwneud i destun y ddeddfwriaeth yr ydych yn edrych arni gan y tîm golygyddol. Gweler 'Cwestiynau Cyffredin' am fanylion ynglŷn â'r amserlenni ar gyfer nodi a chofnodi effeithiau newydd ar y safle hwn.
3. Rhaid i ddatganiad ysgrifenedig o gontract meddiannaeth gynnwys gwybodaeth esboniadol ynghylch y materion a ganlyn—
(a)statws y ddogfen (h.y., ei bod yn ddatganiad ysgrifenedig o’r contract meddiannaeth),
(b)enw byr y Ddeddf y gwneir y contract meddiannaeth oddi tani,
(c)ystyr—
(i)“dyddiad meddiannu”, a
(ii)“materion allweddol”,
(d)prif nodweddion y canlynol—
(i)“telerau sylfaenol”, h.y.—
(aa)bod y rhain yn ddarpariaethau o’r Ddeddf neu unrhyw ddeddfiad arall y mae Gweinidogion Cymru yn pennu eu bod yn delerau sylfaenol sydd wedi eu hymgorffori yn awtomatig fel telerau’r contract meddiannaeth;
(bb)na ellir hepgor neu addasu rhai o’r darpariaethau sylfaenol a rhaid iddynt adlewyrchu geiriad y Ddeddf heblaw am newidiadau golygyddol(1) ac y gellir hepgor neu addasu eraill, yn ddarostyngedig i gytundeb y landlord a deiliad y contract, ond dim ond os yw gwneud hynny yn gwella sefyllfa deiliad y contract;
(cc)pan fo’r contract yn gontract wedi ei drosi(2), unwaith i’r landlord roi i ddeiliad y contract ddatganiad ysgrifenedig o gontract meddiannaeth y gellir hepgor neu addasu telerau sylfaenol penodol fel y disgrifir ym mharagraff (bb);
(ii)“telerau atodol”, h.y.—
(aa)bod y rhain yn ddarpariaethau a nodir mewn rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru, sydd hefyd wedi eu hymgorffori yn awtomatig, heblaw pan fo’r contract yn gontract wedi ei drosi, fel telerau’r contract meddiannaeth oni bai eu bod wedi eu hepgor neu eu haddasu fel y disgrifir ym mharagraff (cc) neu (dd);
(bb)pan fo’r contract yn gontract wedi ei drosi, na chaiff y telerau atodol hynny sy’n anghydnaws â thelerau’r contract cyn ei drosi yn gontract meddiannaeth eu hymgorffori yn y contract meddiannaeth;
(cc)y gellir hepgor neu addasu’r telerau atodol, yn ddarostyngedig i gytundeb y landlord a deiliad y contract, naill ai i wella sefyllfa’r landlord neu ddeiliad y contract, ar yr amod na fyddai’r hepgor neu addasu yn gwneud teler atodol yn anghydnaws â theler sylfaenol;
(dd)pan fo’r contract yn gontract wedi ei drosi, unwaith i’r landlord roi i ddeiliad y contract ddatganiad ysgrifenedig o gontract meddiannaeth y gellir hepgor neu addasu’r telerau atodol fel y disgrifir ym mharagraff (cc);
(iii)“telerau ychwanegol”, os cynhwysir y rhain yn y contract meddiannaeth, h.y.—
(aa)y gall y rhain ymdrin ag unrhyw fater arall, ar yr amod nad ydynt yn gwrthdaro â mater allweddol, teler sylfaenol neu deler atodol;
(bb)y cytunir ar y rhain gan y landlord a deiliad y contract;
(cc)pan fo’r contract yn gontract wedi ei drosi, fod y rhain yn delerau presennol y contract, y cytunwyd arnynt gan ddeiliad y contract a’r landlord ac a oedd wedi eu cynnwys yn y contract cyn ei drosi yn gontract meddiannaeth, a fyddai’n parhau i gael effaith heblaw pan fônt yn anghymwys â darpariaeth sylfaenol a ymgorfforwyd fel un o delerau’r contract meddiannaeth,
(e)os nad yw unrhyw ddarpariaethau sylfaenol neu atodol wedi eu hymgorffori fel telerau’r contract meddiannaeth, drwy ba ddull y nodir y rhain yn y datganiad ysgrifenedig(3),
(f)[F1o ran y datganiad ysgrifenedig o’r contract meddiannaeth] —
(i)[F2caniateir ei roi i ddeiliad y contract cyn y dyddiad meddiannu ac, os nad ydyw, rhaid ei roi i ddeiliad y contract] o fewn 14 o ddiwrnodau i’r dyddiad meddiannu(4);
(ii)pan fo’r contract yn gontract wedi ei drosi, [F3rhaid ei roi i ddeiliad y contract] o fewn chwe mis i’r dyddiad y troswyd y contract yn gontract meddiannaeth(5),
(g)[F4os yw’r landlord yn methu â rhoi’r datganiad ysgrifenedig o’r contract meddiannaeth i ddeiliad y contract o fewn 14 o ddiwrnodau i’r dyddiad meddiannu, caiff y landlord fod yn atebol i dalu digollediad i ddeiliad y contract sy’n cyfateb i ddiwrnod o rent am bob diwrnod na ddarperir y datganiad ysgrifenedig, gan ddechrau â’r dyddiad meddiannu, hyd at uchafswm o ddau fis o rent (oni bai bod methiant y landlord i ddarparu’r datganiad ysgrifenedig yn fwriadol, ac os felly, caiff y llys benderfynu bod swm cynyddol yn daladwy fesul diwrnod)],
(h)y gellir darparu’r datganiad ysgrifenedig o’r contract meddiannaeth yn electronig os yw deiliad y contract wedi cytuno i gael y datganiad ysgrifenedig ar ffurf electronig(6),
(i)bod y datganiad ysgrifenedig o’r contract meddiannaeth yn nodi hawliau a chyfrifoldebau deiliad y contract a’r landlord,
(j)y dylai deiliad y contract ddarllen telerau’r datganiad ysgrifenedig o’r contract meddiannaeth er mwyn sicrhau ei fod yn eu deall yn llawn, a’i fod yn fodlon eu bod yn adlewyrchu’r addasiadau i delerau neu delerau ychwanegol y cytunwyd arnynt rhwng deiliad y contract a’r landlord,
(k)y dylai deiliad y contract gadw’r datganiad ysgrifenedig o’r contract meddiannaeth yn ddiogel gan y gallai fod arno angen cyfeirio ato yn y dyfodol,
(l)y gellir cael rhagor o wybodaeth ynghylch contractau meddiannaeth, gan gynnwys gwybodaeth ynghylch datrys anghydfodau—
(i)ar y wefan a ddarperir gan Lywodraeth Cymru,
(ii)gan asiantaethau cynghori megis y Ganolfan Cyngor ar Bopeth neu Shelter Cymru, neu
(iii)gan gynghorwyr cyfreithiol annibynnol,
(m)y gallai anghydfodau ynghylch telerau’r contract meddiannaeth gael eu penderfynu yn y llys sirol,
(n)os oes gan ddeiliad contract broblem yn ymwneud â’r annedd, y dylai gysylltu â’i landlord yn gyntaf er mwyn ceisio ei datrys ond os nad yw hyn yn llwyddiannus yna o bosibl gall asiantaethau cynghori megis y Ganolfan Cyngor ar Bopeth neu Shelter Cymru neu gynghorwyr cyfreithiol annibynnol ei gynorthwyo,
(o)nad yw unrhyw deler ychwanegol, neu unrhyw addasiad i deler atodol, a ymgorfforir yn y contract meddiannaeth yn rhwymo deiliad y contract os yw’n deler annheg o dan adran 62 (gofyniad i delerau a hysbysiadau contract i fod yn deg) o Ddeddf Hawliau Defnyddwyr 2015(7),
(p)na ellir troi deiliad y contract allan heb orchymyn llys, oni bai ei fod yn cefnu ar yr annedd,
(q)bod gan ddeiliad y contract hawliau pwysig yn ymwneud â sut y gall ddefnyddio’r annedd, er bod rhai o’r hawliau hynny yn ddarostyngedig i gael cydsyniad y landlord,
(r)y gellir dal deiliad y contract yn gyfrifol am unrhyw ymddygiad gwrthgymdeithasol neu ymddygiad gwaharddedig arall(8) gan unrhyw un sy’n byw yn yr annedd neu’n ymweld â hi,
(s)gall ymddygiad gwrthgymdeithasol neu ymddygiad gwaharddedig arall gynnwys—
(i)gormod o sŵn,
(ii)cam-drin geiriol,
(iii)ymosod corfforol, a
(iv)cam-drin domestig (gan gynnwys cam-drin corfforol, rhywiol, seicolegol, emosiynol neu ariannol),
(t)y gallai hawl i olynu fod yn gymwys i rywun sy’n byw yn yr annedd gyda deiliad y contract,
(u)na chaiff deiliad y contract ganiatáu i’r annedd fynd yn orlawn drwy ganiatáu i fwy o bersonau na’r uchafswm a ganiateir fyw yn yr annedd, a
(v)bod Rhan 10 o Ddeddf Tai 1985 (gorlenwi)(9) yn darparu’r sail ar gyfer penderfynu ar yr uchafswm o bobl y caniateir iddynt fyw yn yr annedd.
Diwygiadau Testunol
F1Geiriau yn rhl. 3(f) wedi eu hepgor (6.12.2023) yn rhinwedd Rheoliadau Rhentu Cartrefi (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2023 (O.S. 2023/1199), rhlau. 1(2), 2(2)(a)(i)
F2Geiriau yn rhl. 3(f)(i) wedi eu mewnosod (6.12.2023) gan Rheoliadau Rhentu Cartrefi (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2023 (O.S. 2023/1199), rhlau. 1(2), 2(2)(a)(ii)
F3Geiriau yn rhl. 3(f)(ii) wedi eu mewnosod (6.12.2023) gan Rheoliadau Rhentu Cartrefi (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2023 (O.S. 2023/1199), rhlau. 1(2), 2(2)(a)(iii)
F4Rhl. 3(g) wedi ei amnewid (6.12.2023) gan Rheoliadau Rhentu Cartrefi (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2023 (O.S. 2023/1199), rhlau. 1(2), 2(2)(b)
Gwybodaeth Cychwyn
I1Rhl. 3 mewn grym ar 1.12.2022 , gweler rhl. 1 (fel y'i diwygiwyd gan Gorchymyn Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Cychwyn Rhif 2 a Diwygiadau Canlyniadol) 2022 (O.S. 2022/906), ergl. 4), gweler Rheoliadau
Gweler adran 33 o’r Ddeddf.
Gweler paragraff 1(1) o Atodlen 12 i’r Ddeddf am y diffiniad o “contract wedi ei drosi”.
Gweler hefyd adran 32(3) o’r Ddeddf.
Gweler adran 31 o’r Ddeddf.
Gweler paragraff 11(1) o Atodlen 12 – sy’n ymdrin â throsi tenantiaethau a thrwyddedau a oedd yn bodoli cyn i Bennod 3 o Ran 10 o’r Ddeddf ddod i rym.
Gweler adrannau 236 a 237 o’r Ddeddf.
Adran 55 (ymddygiad gwrthgymdeithasol ac ymddygiad gwaharddedig arall) o’r Ddeddf.
1985 p. 68, diwygiwyd adran 325 gan O.S 2019/1458; mae offerynnau diwygio eraill ond nid yw unrhyw un ohonynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Point in Time: This becomes available after navigating to view revised legislation as it stood at a certain point in time via Advanced Features > Show Timeline of Changes or via a point in time advanced search. A point in time version is only available in English.
Geographical Extent: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.
Show Timeline of Changes: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: