Rheoliadau Rhentu Cartrefi (Gwybodaeth Esboniadol ar gyfer Datganiadau Ysgrifenedig o Gontractau Meddiannaeth) (Cymru) 2022

Contract safonol â chymorthLL+C

7.  Mewn perthynas â chontract safonol â chymorth, yn ogystal â’r materion a ragnodir yn rheoliadau 3 a 5, rhaid i ddatganiad ysgrifenedig o’r contract meddiannaeth gynnwys gwybodaeth esboniadol ynghylch y mater a ganlyn: sef y gellir gwahardd deiliad y contract dros dro o’r annedd os yw ef—

(a)yn defnyddio trais yn erbyn person arall yn yr annedd,

(b)yn gwneud rhywbeth yn yr annedd sy’n peri risg o niwed sylweddol i unrhyw berson, neu

(c)yn ymddwyn mewn ffordd sy’n amharu’n ddifrifol ar allu preswylydd arall mewn llety â chymorth i fanteisio ar y cymorth a ddarperir mewn cysylltiad â’r llety hwnnw.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Rhl. 7 mewn grym ar 1.12.2022 , gweler rhl. 1 (fel y'i diwygiwyd gan Gorchymyn Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Cychwyn Rhif 2 a Diwygiadau Canlyniadol) 2022 (O.S. 2022/906), ergl. 4), gweler Rheoliadau