Contract safonol cyfnod penodolLL+C

8.  Mewn perthynas â chontract safonol cyfnod penodol, yn ogystal â’r materion a ragnodir yn rheoliad 3, rhaid i ddatganiad ysgrifenedig o’r contract meddiannaeth gynnwys gwybodaeth esboniadol ynghylch y materion a ganlyn—

(a)bod contract deiliad y contract ar gyfer contract safonol cyfnod penodol, a’i fod y para am gyfnod penodedig o amser y cytunir arno rhwng deiliad y contract a’r landlord;

(b)cyn y gall llys wneud gorchymyn adennill meddiant, bod rhaid i’r landlord ddangos bod y gweithdrefnau cywir wedi eu dilyn a bod o leiaf un o’r canlynol wedi ei fodloni—

(i)bod deiliad y contract wedi torri un neu ragor o delerau’r contract (sy’n cynnwys methu â thalu rhent, ymgymryd ag ymddygiad gwrthgymdeithasol neu ymddygiad gwaharddedig arall neu fygwth ymgymryd ag ymddygiad o’r fath, neu fethu â gofalu’n briodol am yr annedd) a’i bod yn rhesymol ei droi allan;

(ii)bod gan ddeiliad y contract ôl-ddyledion rhent difrifol (er enghraifft pan fo’r cyfnod rhentu yn fis, os oes o leiaf ddau fis o rent heb ei dalu);

(iii)bod angen i’r landlord symud deiliad y contract, a bod un o’r seiliau rheoli ystad o dan adran 160 o’r Ddeddf yn gymwys, bod llety arall addas ar gael, neu y bydd ar gael, pan fydd y gorchymyn yn cael effaith a’i bod yn rhesymol ei droi allan;

(iv)pan fo’r contract o fewn Atodlen 9B(1) i’r Ddeddf, y rhoddwyd o leiaf ddau fis o hysbysiad i ddeiliad y contract bod rhaid iddo ildio meddiant o dan adran 186 (hysbysiad y landlord mewn cysylltiad â diwedd cyfnod contract sydd o fewn Atodlen 9B) o’r Ddeddf;

(v)pan fo’r contract meddiannaeth yn ymgorffori adran 194 (cymal terfynu’r landlord) o’r Ddeddf fel teler o’r contract meddiannaeth, bod y landlord wedi rhoi hysbysiad i ddeiliad y contract o dan adran 194 o’r Ddeddf bod rhaid iddo ildio meddiant ar ddyddiad a bennir yn yr hysbysiad hwnnw, a bod hefyd rhaid i’r landlord ddangos—

(aa)nad yw unrhyw gyfyngiadau ar roi hysbysiad o dan adran 194 o’r Ddeddf yn gymwys;

(bb)y rhoddwyd o leiaf chwe mis o hysbysiad i ddeiliad y contract bod rhaid iddo ildio meddiant, y rhoddwyd yr hysbysiad o leiaf 18 mis ar ôl y dyddiad meddiannu, a bod cyfnod penodol y contract ar gyfer o leiaf ddwy flynedd, heblaw pan fo’r contract meddiannaeth yn gontract safonol o fewn Atodlen 8A, Atodlen 9 neu Atodlen 9C(2) i’r Ddeddf;

(cc)pan fo’r contract meddiannaeth o fewn Atodlen 8A i’r Ddeddf, y rhoddwyd o leiaf ddau fis o hysbysiad i ddeiliad y contract bod rhaid iddo ildio meddiant;

(dd)pan fo’r contract meddiannaeth o fewn naill ai Atodlen 8A, Atodlen 9 neu Atodlen 9C neu unrhyw gyfuniad o’r Atodlenni hynny i’r Ddeddf, y rhoddwyd yr hysbysiad perthnasol i ddeiliad y contract bod rhaid iddo ildio meddiant; ac at ddibenion y paragraff hwn, yr “hysbysiad perthnasol” yw’r hysbysiad sy’n gymwys i’r math o gontract meddiannaeth gan roi sylw i unrhyw gyfyngiadau sy’n gymwys i’r math penodol hwnnw o gontract meddiannaeth;

(c)pe bai deiliad y contract yn parhau i feddiannu’r annedd ar ôl diwedd y cyfnod, bod y landlord a deiliad y contract i’w trin fel pe baent wedi gwneud contract safonol cyfnodol newydd mewn perthynas â’r annedd.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Rhl. 8 mewn grym ar 1.12.2022 , gweler rhl. 1 (fel y'i diwygiwyd gan Gorchymyn Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Cychwyn Rhif 2 a Diwygiadau Canlyniadol) 2022 (O.S. 2022/906), ergl. 4), gweler Rheoliadau

(1)

Mae Atodlen 9B yn nodi’r contractau tymor penodol y gellir eu terfynu o dan adran 186 (hysbysiad y landlord mewn cysylltiad â diwedd cyfnod contract o fewn Atodlen 9B). Mewnosodwyd Atodlen 9B gan adran 10 o Ddeddf Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru) 2021, ac Atodlen 3 iddi.

(2)

Mae Atodlen 9C yn nodi’r contractau cyfnod penodol y caniateir eu terfynu o dan adran 194 (cymal terfynu’r landlord) hyd yn oed os yw’r contract meddiannaeth wedi ei wneud ar gyfer cyfnod o lai na dwy flynedd. Mewnosodwyd Atodlen 9C gan adran 11 o Ddeddf Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru) 2021, ac Atodlen 4 iddi.