RHAN 2DARPARIAETHAU ATODOL SY’N GYMWYS I BOB CONTRACT MEDDIANNAETH HEBLAW CONTRACTAU SAFONOL Â CHYMORTH

3.  Mae rheoliadau 4 i 9 yn nodi’r darpariaethau atodol sydd, yn ddarostyngedig i adrannau 21, 24(1) a (2) a 25 o’r Ddeddf, wedi eu hymgorffori ym mhob contract meddiannaeth heblaw contractau safonol â chymorth fel telerau atodol.

Defnydd o’r annedd

4.  Ni chaniateir i ddeiliad y contract gynnal neu ganiatáu unrhyw fasnach neu fusnes yn yr annedd heb gydsyniad y landlord.

Meddianwyr a ganiateir nad ydynt yn lletywyr neu’n isddeiliaid

5.  Caiff deiliad y contract ganiatáu i bobl nad ydynt yn lletywyr neu’n isddeiliaid fyw yn yr annedd fel cartref.

Newidiadau i’r ddarpariaeth o gyfleustodau i’r annedd

6.—(1Caiff deiliad y contract newid unrhyw un neu ragor o’r cyflenwyr i’r annedd o—

(a)gwasanaethau trydan, nwy neu danwydd arall, neu wasanaethau dŵr (gan gynnwys carthffosiaeth);

(b)gwasanaethau ffôn, rhyngrwyd, teledu cebl neu deledu lloeren.

(2Rhaid i ddeiliad y contract hysbysu’r landlord cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol am unrhyw newidiadau a wnaed yn unol â pharagraff (1).

(3Oni bai bod y landlord yn cydsynio, ni chaniateir i ddeiliad y contract—

(a)gadael yr annedd, ar ddiwedd y contract meddiannaeth, heb gyflenwr trydan, nwy neu danwydd arall (os yw hynny’n gymwys) neu wasanaethau dŵr (gan gynnwys carthffosiaeth), oni bai nad oedd y cyfleustodau hyn yn bresennol yn yr annedd ar y dyddiad meddiannu;

(b)gosod neu dynnu, neu drefnu i osod neu dynnu, unrhyw osodiadau gwasanaeth penodedig yn yr annedd.

(4At ddibenion paragraff (3)(b), ystyr “gosodiadau gwasanaeth penodedig” yw gosodiad ar gyfer cyflenwi dŵr, nwy neu drydan neu danwydd arall (os yw hynny’n gymwys) ar gyfer glanweithdra, gwresogi lle neu wresogi dŵr.

Diogelwch yr annedd

7.  Os yw deiliad y contract yn dod yn ymwybodol bod yr annedd, neu y bydd yr annedd, yn wag am 28 neu fwy o ddiwrnodau yn olynol, rhaid i ddeiliad y contract hysbysu’r landlord cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol.

Rhwymedigaethau deiliad y contract pan fydd contract meddiannaeth yn dod i ben

8.  Pan fydd deiliad y contract yn gadael yr annedd pan ddaw’r contract meddiannaeth i ben, rhaid i ddeiliad y contract—

(a)symud o’r annedd yr holl eiddo sy’n berchen i—

(i)deiliad y contract, neu

(ii)unrhyw feddiannydd a ganiateir nad oes ganddo’r hawl i barhau i feddiannu’r annedd,

(b)dychwelyd unrhyw eiddo sy’n berchen i’r landlord i’r safle lle yr oedd ar y dyddiad meddiannu, ac

(c)dychwelyd i’r landlord yr holl allweddi sy’n galluogi mynediad i’r annedd a ddaliwyd yn ystod cyfnod y contract gan ddeiliad y contract neu unrhyw feddiannydd a ganiateir nad oes ganddo’r hawl i barhau i feddiannu’r annedd.

Ad-dalu rhent neu gydnabyddiaeth arall sy’n ymwneud ag unrhyw gyfnod ar ôl i’r contract ddod i ben

9.  Rhaid i’r landlord ad-dalu, o fewn cyfnod rhesymol o amser ar ôl i’r contract meddiannaeth ddod i ben, i ddeiliad y contract unrhyw rent a dalwyd ymlaen llaw neu gydnabyddiaeth arall sy’n ymwneud ag unrhyw gyfnod ar ôl y dyddiad y daw’r contract i ben.