RHAN 3DARPARIAETHAU ATODOL SY’N GYMWYS I BOB CONTRACT MEDDIANNAETH HEBLAW CONTRACTAU SAFONOL CYFNOD PENODOL O SAITH MLYNEDD NEU RAGOR A CHONTRACTAU SAFONOL Â CHYMORTH

10

Mae rheoliadau 11 i 16 yn nodi’r darpariaethau atodol sydd, yn ddarostyngedig i adrannau 21, 24(1) a (2) a 25 o’r Ddeddf, wedi eu hymgorffori ym mhob contract meddiannaeth heblaw contractau safonol cyfnod penodol a wneir am gyfnod o saith mlynedd neu ragor a chontractau safonol â chymorth.

Cyfnodau pan nad yw’r annedd yn ffit i bobl fyw ynddi11

Nid yw’n ofynnol i ddeiliad y contract dalu rhent mewn cysylltiad ag unrhyw ddiwrnod neu ran o ddiwrnod pan na fo’r annedd yn ffit i bobl fyw ynddi3.

Derbynneb am rent neu gydnabyddiaeth arall12

O fewn 14 o ddiwrnodau i gais gan ddeiliad y contract, rhaid i’r landlord ddarparu i ddeiliad y contract dderbynneb ysgrifenedig am unrhyw rent neu gydnabyddiaeth arall a dalwyd o dan y contract meddiannaeth.

Gofalu am yr annedd13

Nid yw deiliad y contract yn atebol am draul resymol i’r annedd na gosodiadau a ffitiadau yn yr annedd ond—

a

rhaid iddo gymryd gofal priodol o’r annedd, y gosodiadau a’r ffitiadau yn yr annedd, neu unrhyw eitemau a restrir mewn unrhyw restr eiddo,

b

ni chaniateir iddo symud o’r annedd unrhyw osodiadau a ffitiadau nac unrhyw eitemau a restrir mewn unrhyw restr eiddo heb gydsyniad y landlord,

c

rhaid iddo gadw’r annedd wedi ei haddurno mewn cyflwr rhesymol, a

d

ni chaniateir iddo gadw unrhyw beth yn yr annedd a fyddai’n peri risg iechyd a diogelwch i ddeiliad y contract, unrhyw feddiannydd a ganiateir, unrhyw bersonau sy’n ymweld â’r annedd neu unrhyw bersonau sy’n preswylio yng nghyffiniau’r annedd.

Atgyweiriadau

14

1

Rhaid i ddeiliad y contract hysbysu’r landlord cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol am unrhyw nam, diffyg, difrod neu adfeiliad y mae deiliad y contract yn credu’n rhesymol fod y landlord yn gyfrifol amdano.

2

Pan fo deiliad y contract yn credu’n rhesymol nad yw’r landlord yn gyfrifol am unrhyw nam, diffyg, difrod neu adfeiliad i’r gosodiadau a’r ffitiadau neu eitemau a restrir mewn unrhyw restr eiddo, rhaid i ddeiliad y contract, o fewn cyfnod rhesymol o amser, wneud atgyweiriadau i’r gosodiadau hynny a’r ffitiadau hynny neu’r eitemau eraill hynny a restrir mewn unrhyw restr eiddo, neu eu hamnewid.

3

Mae’r amgylchiadau y mae paragraff (2) yn gymwys oddi tanynt yn cynnwys pan fo’r nam, y diffyg, y difrod neu’r adfeiliad wedi digwydd yn gyfan gwbl neu yn bennaf oherwydd gweithred neu anweithred sy’n gyfystyr â diffyg gofal4 gan ddeiliad y contract, unrhyw feddiannydd a ganiateir neu unrhyw berson sy’n ymweld â’r annedd.

15

1

O dan amgylchiadau pan na fo deiliad y contract wedi gwneud yr atgyweiriadau hynny y mae ef yn gyfrifol amdanynt yn unol â rheoliad 14(2) a (3), caiff y landlord fynd i’r annedd ar unrhyw adeg resymol at ddiben gwneud atgyweiriadau i’r gosodiadau a’r ffitiadau neu eitemau eraill a restrir mewn unrhyw restr eiddo, neu eu hamnewid.

2

Ond rhaid i’r landlord roi i ddeiliad y contract rybudd o 24 awr o leiaf cyn mynd i’r annedd.

Argyfyngau: hawl y landlord i fynd i’r annedd16

1

Os bydd argyfwng y bydd angen i’r landlord fynd i’r annedd heb rybudd o ganlyniad iddo, rhaid i ddeiliad y contract roi i’r landlord fynediad i’r annedd yn syth.

2

Os nad yw deiliad y contract yn rhoi mynediad yn syth, caiff y landlord fynd i’r annedd heb ganiatâd deiliad y contract.

3

Os bydd y landlord yn mynd i’r annedd yn unol â pharagraff (2), rhaid i’r landlord wneud pob ymdrech resymol i hysbysu deiliad y contract ei fod wedi mynd i’r annedd, cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl hynny.

4

At ddiben paragraff (1), mae argyfwng yn cynnwys—

a

rhywbeth y mae angen gwneud gwaith brys o’i herwydd i atal yr annedd neu anheddau yn y cyffiniau rhag cael eu difrodi yn ddifrifol, eu difrodi ymhellach neu eu dinistrio, a

b

rhywbeth a fyddai, pe nai bai’r landlord yn ymdrin ag ef yn syth, yn peri risg ar fin digwydd i iechyd a diogelwch deiliad y contract, unrhyw feddiannydd a ganiateir o’r annedd, neu bersonau eraill yng nghyffiniau’r annedd.