RHAN 6DARPARIAETHAU ATODOL NAD YDYNT YN GYMWYS OND I GONTRACTAU SAFONOL OND NID I GONTRACTAU SAFONOL RHAGARWEINIOL, CONTRACTAU SAFONOL YMDDYGIAD GWAHARDDEDIG A CHONTRACTAU SAFONOL Â CHYMORTH
I126
Mae rheoliadau 27 i 31 yn nodi darpariaethau atodol sydd, yn ddarostyngedig i adrannau 21, 24(1) a (2) a 25 o’r Ddeddf, wedi eu hymgorffori mewn contractau safonol heblaw contractau safonol rhagarweiniol, contractau safonol ymddygiad gwaharddedig a chontractau safonol â chymorth.
Rhestr eiddoI227
1
Rhaid i’r landlord ddarparu i ddeiliad y contract restr eiddo mewn perthynas â’r annedd yn ddim hwyrach na’r dyddiad erbyn pryd y mae’n rhaid i’r landlord ddarparu’r datganiad ysgrifenedig o’r contract meddiannaeth i ddeiliad y contract yn unol ag adran 31 (datganiad ysgrifenedig) o’r Ddeddf.
2
Rhaid i’r rhestr eiddo nodi cynnwys yr annedd, gan gynnwys yr holl osodiadau a ffitiadau, a rhaid iddi ddisgrifio eu cyflwr fel yr oedd ar y dyddiad meddiannu.
3
Os bydd deiliad y contract yn anghytuno â’r wybodaeth yn y rhestr eiddo, caiff deiliad y contract ddarparu sylwadau i’r landlord.
4
Pan na fo’r landlord yn cael sylwadau o fewn 14 o ddiwrnodau, bernir bod y rhestr eiddo yn gywir.
5
Pan fo’r landlord yn cael sylwadau o fewn 14 o ddiwrnodau, rhaid i’r landlord naill ai—
a
diwygio’r rhestr eiddo yn unol â’r sylwadau hynny ac anfon y rhestr eiddo ddiwygiedig at ddeiliad y contract, neu
b
hysbysu deiliad y contract na chytunir â’r sylwadau, ac ailanfon y rhestr eiddo wreiddiol at ddeiliad y contract, gyda’r sylwadau wedi eu hatodi, neu
c
diwygio’r rhestr eiddo yn unol â rhai o’r sylwadau hynny ac anfon y rhestr eiddo ddiwygiedig at ddeiliad y contract, ynghyd â chofnod o’r sylwadau nas cytunwyd.
Rhoi hysbysiadau etc. i’r landlordI328
Rhaid i ddeiliad y contract—
a
cadw’n ddiogel unrhyw hysbysiadau, gorchmynion neu ddogfennau eraill sy’n cael eu danfon i’r annedd wedi eu cyfeirio at y landlord yn benodol neu’r perchennog yn gyffredinol, a
b
cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol, roi’r copïau gwreiddiol o unrhyw hysbysiadau, gorchmynion neu ddogfennau eraill o’r fath i’r landlord.
Newidiadau i’r anneddI429
1
Ni chaniateir i ddeiliad y contract wneud unrhyw addasiad i’r annedd heb gydsyniad y landlord.
2
At ddibenion paragraff (1), mae ystyr “addasiad” yn cynnwys—
a
unrhyw ychwanegiad at y gosodiadau a’r ffitiadau yn yr annedd, neu unrhyw addasiadau iddynt,
b
gosod erial neu ddysgl lloeren,
c
gosod, tynnu neu wneud addasiadau strwythurol i siediau, garejys neu unrhyw strwythurau eraill yn yr annedd, a
d
gwneud gwaith i addurno’r annedd yn allanol.
Diogelwch yr anneddI530
1
Rhaid i ddeiliad y contract gymryd camau rhesymol i sicrhau bod yr annedd yn ddiogel.
2
Caiff deiliad y contract newid unrhyw glo ar ddrysau allanol neu ddrysau mewnol yr annedd ar yr amod nad yw unrhyw newidiadau o’r fath yn darparu llai o ddiogelwch nag oedd yn ei le yn flaenorol.
3
Os bydd angen allwedd newydd i gael mynediad i’r annedd neu unrhyw ran ohoni o ganlyniad i unrhyw newid a wneir o dan baragraff (2), rhaid i ddeiliad y contract hysbysu’r landlord cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol a sicrhau bod copi sy’n gweithio o’r allwedd newydd ar gael i’r landlord.
LletywyrI631
Ni chaniateir i ddeiliad y contract ganiatáu i bersonau fyw yn yr annedd fel lletywyr heb gydsyniad y landlord.