2022 Rhif 244 (Cy. 72)
Rheoliadau Rhentu Cartrefi (Ffurfiau Rhagnodedig) (Cymru) 2022
Gwnaed
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru
Yn dod i rym yn unol â rheoliad 1
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 236(3) a 256(1) o Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 20161.
Enwi a chychwyn1
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Rhentu Cartrefi (Ffurfiau Rhagnodedig) (Cymru) 2022 a deuant i rym ar y diwrnod y daw adran 239 o’r Ddeddf2 i rym.
Dehongli2
Yn y Rheoliadau hyn—
mae i “contract safonol” (“standard contract”) yr ystyr a roddir gan adran 8 o’r Ddeddf;
mae i “contract safonol rhagarweiniol” (“introductory standard contract”) yr ystyr a roddir gan adran 16(4) o’r Ddeddf;
mae i “contract safonol ymddygiad gwaharddedig” (“prohibited conduct standard contract”) yr ystyr a roddir gan adran 116(6) o’r Ddeddf;
ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016.
Ffurf ragnodedig3
1
Mae ffurf ragnodedig hysbysiad neu ddogfen arall y mae’n ofynnol neu yr awdurdodir ei roi neu ei wneud, neu ei rhoi neu ei gwneud, gan y Ddeddf neu o’i herwydd fel y mae wedi ei nodi yn y rheoliadau a ganlyn a’r Atodlen.
2
Mae hysbysiad neu ddogfen arall sydd ar ffurf sydd ag effaith sylweddol debyg i’r ffurf ragnodedig yn ddilys.
Hysbysiad o gontract safonol4
Mae ffurf ragnodedig hysbysiad o dan adran 13 o’r Ddeddf fel y mae wedi ei nodi yn Ffurflen RHW1 yn yr Atodlen.
Hysbysiad o gyfeiriad y landlord5
Mae ffurf ragnodedig hysbysiad o dan adran 39(1) o’r Ddeddf fel y mae wedi ei nodi yn Ffurflen RHW2 yn yr Atodlen.
Hysbysiad bod y landlord wedi newid a hysbysiad o gyfeiriad y landlord newydd6
Mae ffurf ragnodedig hysbysiad o dan adran 39(2) o’r Ddeddf fel y mae wedi ei nodi yn Ffurflen RHW3 yn yr Atodlen.
Hysbysiad o newid cyfeiriad y landlord7
Mae ffurf ragnodedig hysbysiad o dan adran 39(3) o’r Ddeddf fel y mae wedi ei nodi yn Ffurflen RHW4 yn yr Atodlen.
Hysbysiad o’r amodau a osodir gan y prif landlord wrth gydsynio i gontract isfeddiannaeth8
Mae ffurf ragnodedig hysbysiad o dan adran 61(2) o’r Ddeddf fel y mae wedi ei nodi yn Ffurflen RHW5 yn yr Atodlen.
Hysbysiad o benderfyniad y prif landlord i drin contract isfeddiannaeth fel contract safonol cyfnodol9
Mae ffurf ragnodedig hysbysiad o dan adran 61(7) o’r Ddeddf fel y mae wedi ei nodi yn Ffurflen RHW6 yn yr Atodlen.
Hysbysiad i’r isddeiliad o hawliad meddiant yn erbyn deiliad y contract10
Mae ffurf ragnodedig hysbysiad o dan adran 64(2) o’r Ddeddf fel y mae wedi ei nodi yn Ffurflen RHW7 yn yr Atodlen.
Hysbysiad o hawliad adennill meddiant estynedig yn erbyn yr isddeiliad11
Mae ffurf ragnodedig hysbysiad o dan adran 65(3)(b) o’r Ddeddf fel y mae wedi ei nodi yn Ffurflen RHW8 yn yr Atodlen.
Hysbysiad o waharddiad posibl deiliad y contract ar ôl cefnu ar y prif gontract a’r contract isfeddiannaeth12
Mae ffurf ragnodedig hysbysiad o dan adran 66(3) o’r Ddeddf fel y mae wedi ei nodi yn Ffurflen RHW9 yn yr Atodlen.
Ffurf trosglwyddiad: trosglwyddiad contract meddiannaeth gan ddeiliad contract13
Mae ffurf ragnodedig trosglwyddiad o dan adran 69(1)(a) o’r Ddeddf fel y mae wedi ei nodi yn Ffurflen RHW10 yn yr Atodlen.
Ffurf trosglwyddiad: trosglwyddiad o hawliau a rhwymedigaethau o dan gontract meddiannaeth gan gyd-ddeiliad contract14
Mae ffurf ragnodedig trosglwyddiad o dan adran 69(1)(b) o’r Ddeddf fel y mae wedi ei nodi yn Ffurflen RHW11 yn yr Atodlen.
Hysbysiad o amrywio’r rhent15
Mae ffurf ragnodedig hysbysiad o dan adran 104(1) neu 123(1) o’r Ddeddf fel y mae wedi ei nodi yn Ffurflen RHW12 yn yr Atodlen.
Hysbysiad o drosglwyddiad o hawliau a rhwymedigaethau o dan gontract safonol cyfnod penodol gan gyd-ddeiliad contract16
Mae ffurf ragnodedig hysbysiad o dan gyfnod contract o’r math a grybwyllir yn adran 141(2) o’r Ddeddf fel y mae wedi ei nodi yn Ffurflen RHW13 yn yr Atodlen.
Hysbysiad o drosglwyddiad o hawliau a rhwymedigaethau o dan gontract safonol cyfnod penodol ar farwolaeth cyd-ddeiliad contract17
Mae ffurf ragnodedig hysbysiad o dan gyfnod contract o’r math a grybwyllir yn adran 142(2) o’r Ddeddf fel y mae wedi ei nodi yn Ffurflen RHW14 yn yr Atodlen.
Hysbysiad o wahardd dros dro: contract safonol â chymorth18
Mae ffurf ragnodedig hysbysiad o dan adran 145(4) o’r Ddeddf fel y mae wedi ei nodi yn Ffurflen RHW15 yn yr Atodlen.
Hysbysiad y landlord o derfynu: contract safonol cyfnodol gyda chyfnod hysbysu byrraf a ganiateir o chwe mis (heblaw contract safonol rhagarweiniol neu gontract safonol ymddygiad gwaharddedig)19
Mae ffurf ragnodedig hysbysiad o dan adran 173(1) o’r Ddeddf fel y mae wedi ei nodi yn Ffurflen RHW16 yn yr Atodlen—
a
pan na chaiff y dyddiad a bennir yn yr hysbysiad fod yn llai na chwe mis ar ôl y diwrnod y rhoddir yr hysbysiad i ddeiliad y contract o ganlyniad i adran 174(1) o’r Ddeddf3, a
b
pan fo’r hysbysiad yn ymwneud â chontract safonol cyfnodol heblaw contract safonol rhagarweiniol neu gontract safonol ymddygiad gwaharddedig.
Hysbysiad y landlord o derfynu: contract safonol cyfnodol gyda chyfnod hysbysu byrraf a ganiateir o ddau fis (heblaw contract safonol rhagarweiniol neu gontract safonol ymddygiad gwaharddedig)20
Mae ffurf ragnodedig hysbysiad o dan adran 173(1) o’r Ddeddf fel y mae wedi ei nodi yn Ffurflen RHW17 yn yr Atodlen—
a
pan na chaiff y dyddiad a bennir yn yr hysbysiad fod yn llai na dau fis ar ôl y diwrnod y rhoddir yr hysbysiad i ddeiliad y contract o ganlyniad i—
i
adran 174A(1) o’r Ddeddf4, neu
ii
cymhwyso paragraff 25A(2)5 o Atodlen 12 i adran 174(1) o’r Ddeddf, a
b
pan fo’r hysbysiad yn ymwneud â chontract safonol cyfnodol heblaw contract safonol rhagarweiniol neu gontract safonol ymddygiad gwaharddedig.
Hysbysiad y landlord o derfynu: contract safonol rhagarweiniol neu gontract safonol ymddygiad gwaharddedig21
Mae ffurf ragnodedig hysbysiad o dan adran 173(1) o’r Ddeddf, mewn cysylltiad â chontract safonol rhagarweiniol neu gontract safonol ymddygiad gwaharddedig, fel y mae wedi ei nodi yn Ffurflen RHW18 yn yr Atodlen.
Hysbysiad o dynnu yn ôl hysbysiad y landlord o derfynu: contract safonol cyfnodol22
Mae ffurf ragnodedig hysbysiad o dan adran 180(3) o’r Ddeddf6 fel y mae wedi ei nodi yn Ffurflen RHW19 yn yr Atodlen.
Hysbysiad o hawliad meddiant ar sail ôl-ddyledion rhent difrifol: contract safonol (heblaw contract safonol rhagarweiniol neu gontract safonol ymddygiad gwaharddedig)23
Mae ffurf ragnodedig hysbysiad o dan—
a
adran 182(1) o’r Ddeddf, mewn cysylltiad â chontract safonol heblaw contract safonol rhagarweiniol neu gontract safonol ymddygiad gwaharddedig, neu
b
adran 188(1) o’r Ddeddf,
fel y mae wedi ei nodi yn Ffurflen RHW20 yn yr Atodlen.
Hysbysiad o hawliad meddiant ar sail ôl-ddyledion rhent difrifol: contract safonol rhagarweiniol neu gontract safonol ymddygiad gwaharddedig24
Mae ffurf ragnodedig hysbysiad o dan adran 182(1) o’r Ddeddf, mewn cysylltiad â chontract safonol rhagarweiniol neu gontract safonol ymddygiad gwaharddedig, fel y mae wedi ei nodi yn Ffurflen RHW21 yn yr Atodlen.
Hysbysiad y landlord o derfynu: contract safonol cyfnod penodol o fewn Atodlen 9B i’r Ddeddf25
Mae ffurf ragnodedig hysbysiad o dan adran 186(1) o’r Ddeddf7 fel y mae wedi ei nodi yn Ffurflen RHW22 yn yr Atodlen.
Hysbysiad cyn gwneud hawliad meddiant26
Mae ffurf ragnodedig hysbysiad o dan adran 159(1), 161(1), 166(1), 171(1) neu 192(1) o’r Ddeddf fel y mae wedi ei nodi yn Ffurflen RHW23 yn yr Atodlen.
Hysbysiad terfynu o dan gymal terfynu’r landlord: contract safonol cyfnod penodol gyda chyfnod hysbysu byrraf a ganiateir o chwe mis27
Mae ffurf ragnodedig hysbysiad—
a
o dan gyfnod contract o’r math a grybwyllir yn adran 194(1)8 o’r Ddeddf (cymal terfynu’r landlord), a
b
pan na chaiff y dyddiad a bennir yn yr hysbysiad fod yn llai na chwe mis ar ôl y diwrnod y rhoddir yr hysbysiad i ddeiliad y contract o ganlyniad i adran 195(1) o’r Ddeddf9,
fel y mae wedi ei nodi yn Ffurflen RHW24 yn yr Atodlen.
Hysbysiad terfynu o dan gymal terfynu’r landlord: contract safonol cyfnod penodol gyda chyfnod hysbysu byrraf a ganiateir o ddau fis28
Mae ffurf ragnodedig hysbysiad—
a
o dan gyfnod contract o’r math a grybwyllir yn adran 194(1) o’r Ddeddf (cymal terfynu’r landlord), a
b
pan na chaiff y dyddiad a bennir yn yr hysbysiad fod yn llai na dau fis ar ôl y diwrnod y rhoddir yr hysbysiad i ddeiliad y contract o ganlyniad i—
i
adran 195A(1) o’r Ddeddf10, neu
ii
cymhwyso paragraff 25D(2) o Atodlen 12 i adrannau 194 a 195 o’r Ddeddf11,
fel y mae wedi ei nodi yn Ffurflen RHW25 yn yr Atodlen.
Hysbysiad o dynnu yn ôl hysbysiad terfynu o dan gymal terfynu’r landlord: contract safonol cyfnod penodol29
Mae ffurf ragnodedig hysbysiad o dan adran 201(3) o’r Ddeddf12 fel y mae wedi ei nodi yn Ffurflen RHW26 yn yr Atodlen.
Hysbysiad o fwriad landlord i derfynu contract meddiannaeth oherwydd cefnu ar yr annedd30
Mae ffurf ragnodedig hysbysiad o dan adran 220(3) o’r Ddeddf fel y mae wedi ei nodi yn Ffurflen RHW27 yn yr Atodlen.
Hysbysiad o derfynu contract meddiannaeth oherwydd cefnu ar yr annedd31
Mae ffurf ragnodedig hysbysiad o dan adran 220(5) o’r Ddeddf fel y mae wedi ei nodi yn Ffurflen RHW28 yn yr Atodlen.
Hysbysiad o fwriad landlord i derfynu hawliau a rhwymedigaethau cyd-ddeiliad contract oherwydd anfeddiannaeth32
Mae ffurf ragnodedig hysbysiad o dan adran 225(3) o’r Ddeddf fel y mae wedi ei nodi yn Ffurflen RHW29 yn yr Atodlen.
Hysbysiad o derfynu hawliau a rhwymedigaethau cyd-ddeiliad contract oherwydd anfeddiannaeth33
Mae ffurf ragnodedig hysbysiad o dan adran 225(6) o’r Ddeddf fel y mae wedi ei nodi yn Ffurflen RHW30 yn yr Atodlen.
Hysbysiad o fwriad cyd-ddeiliad contract i wneud cais am orchymyn sy’n terfynu hawliau a rhwymedigaethau cyd-ddeiliad contract arall oherwydd anfeddiannaeth34
Mae ffurf ragnodedig hysbysiad o dan adran 227(3) o’r Ddeddf fel y mae wedi ei nodi yn Ffurflen RHW31 yn yr Atodlen.
Hysbysiad o fwriad landlord i wneud cais am orchymyn sy’n terfynu hawliau a rhwymedigaethau cyd-ddeiliad contract oherwydd ymddygiad gwaharddedig35
Mae ffurf ragnodedig hysbysiad o dan adran 230(2) o’r Ddeddf fel y mae wedi ei nodi yn Ffurflen RHW32 yn yr Atodlen.
Hysbysiad i gyd-ddeiliaid contract eraill o fwriad landlord i wneud cais am orchymyn sy’n terfynu hawliau a rhwymedigaethau cyd-ddeiliad contract oherwydd ymddygiad gwaharddedig36
Mae ffurf ragnodedig hysbysiad o dan adran 230(3) o’r Ddeddf fel y mae wedi ei nodi yn Ffurflen RHW33 yn yr Atodlen.
Hysbysiad o estyn y cyfnod rhagarweiniol37
Mae ffurf ragnodedig hysbysiad o dan baragraff 3 o Atodlen 4 i’r Ddeddf fel y mae wedi ei nodi yn Ffurflen RHW34 yn yr Atodlen.
Hysbysiad o fwriad i wneud cais am orchymyn sy’n arddodi contract safonol ymddygiad gwaharddedig38
Mae ffurf ragnodedig hysbysiad o dan baragraff 1(1) o Atodlen 7 i’r Ddeddf fel y mae wedi ei nodi yn Ffurflen RHW35 yn yr Atodlen.
Hysbysiad o ddiwedd cyfnod prawf: contract safonol ymddygiad gwaharddedig39
Mae ffurf ragnodedig hysbysiad o dan baragraff 3(2) o Atodlen 7 i’r Ddeddf fel y mae wedi ei nodi yn Ffurflen RHW36 yn yr Atodlen.
Hysbysiad o estyn cyfnod prawf: contract safonol ymddygiad gwaharddedig40
Mae ffurf ragnodedig hysbysiad o dan baragraff 4(1) o Atodlen 7 i’r Ddeddf fel y mae wedi ei nodi yn Ffurflen RHW37 yn yr Atodlen.
Hysbysiad y landlord o derfynu: contract safonol cyfnod penodol (contract wedi ei drosi)41
Mae ffurf ragnodedig hysbysiad o dan baragraff 25B(2) o Atodlen 12 i’r Ddeddf13 fel y mae wedi ei nodi yn Ffurflen RHW38 yn yr Atodlen.
YR ATODLENFfurfiau Rhagnodedig
FFURFLEN RHWI
FFURFLEN RHW2
FFURFLEN RHW3
FFURFLEN RHW4
FFURFLEN RHW5
FFURFLEN RHW6
FFURFLEN RHW7
FFURFLEN RHW8
FFURFLEN RHW9
FFURFLEN RHW10
FFURFLEN RHW11
FFURFLEN RHW12
FFURFLEN RHW13
FFURFLEN RHW14
FFURFLEN RHW15
FFURFLEN RHW16
FFURFLEN RHW17
FFURFLEN RHW18
FFURFLEN RHW19
FFURFLEN RHW20
FFURFLEN RHW21
FFURFLEN RHW22
FFURFLEN RHW23
FFURFLEN RHW24
FFURFLEN RHW25
FFURFLEN RHW26
FFURFLEN RHW27
FFURFLEN RHW28
FFURFLEN RHW29
FFURFLEN RHW30
FFURFLEN RHW31
FFURFLEN RHW32
FFURFLEN RHW33
FFURFLEN RHW34
FFURFLEN RHW35
FFURFLEN RHW36
FFURFLEN RHW37
FFURFLEN RHW38
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)