xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Hysbysiad y landlord o derfynu: contract safonol cyfnodol gyda chyfnod hysbysu byrraf a ganiateir o chwe mis (heblaw contract safonol rhagarweiniol neu gontract safonol ymddygiad gwaharddedig)LL+C

19.  Mae ffurf ragnodedig hysbysiad o dan adran 173(1) o’r Ddeddf fel y mae wedi ei nodi yn Ffurflen RHW16 yn yr Atodlen—

(a)pan na chaiff y dyddiad a bennir yn yr hysbysiad fod yn llai na chwe mis ar ôl y diwrnod y rhoddir yr hysbysiad i ddeiliad y contract o ganlyniad i adran 174(1) o’r Ddeddf(1), a

(b)pan fo’r hysbysiad yn ymwneud â chontract safonol cyfnodol heblaw contract safonol rhagarweiniol neu gontract safonol ymddygiad gwaharddedig.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Rhl. 19 mewn grym ar 1.12.2022 , gweler rhl. 1 (fel y'i diwygiwyd gan Gorchymyn Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Cychwyn Rhif 2 a Diwygiadau Canlyniadol) 2022 (O.S. 2022/906), ergl. 9)

(1)

Diwygiwyd adran 174(1) gan adran 1(2)(a) o Ddeddf Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru) 2021 (dsc 3) (“Deddf 2021”).