Hysbysiad terfynu o dan gymal terfynu’r landlord: contract safonol cyfnod penodol gyda chyfnod hysbysu byrraf a ganiateir o ddau fisI128
Mae ffurf ragnodedig hysbysiad—
a
o dan gyfnod contract o’r math a grybwyllir yn adran 194(1) o’r Ddeddf (cymal terfynu’r landlord), a
b
pan na chaiff y dyddiad a bennir yn yr hysbysiad fod yn llai na dau fis ar ôl y diwrnod y rhoddir yr hysbysiad i ddeiliad y contract o ganlyniad i—
i
adran 195A(1) o’r Ddeddf10, neu
ii
cymhwyso paragraff 25D(2) o Atodlen 12 i adrannau 194 a 195 o’r Ddeddf11,
fel y mae wedi ei nodi yn Ffurflen RHW25 yn yr Atodlen.