2022 Rhif 256 (Cy. 78)

Tai, Cymru

Rheoliadau Rhentu Cartrefi (Diogelu Eiddo mewn Anheddau y Cefnwyd Arnynt) (Cymru) 2022

Gwnaed

Gosodwyd gerbron Senedd Cymru

Yn dod i rym yn unol â rheoliad 1

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adrannau 221(1) a 256(1) o Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 20161.

Enwi a chychwyn1

Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Rhentu Cartrefi (Diogelu Eiddo mewn Anheddau y Cefnwyd Arnynt) (Cymru) 2022 a deuant i rym ar y diwrnod y mae adran 239 o Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 20162 yn dod i rym.

Dehongli2

1

Yn y Rheoliadau hyn—

  • y “cyfnod rhagnodedig” (“prescribed period”) yw pedair wythnos o’r diwrnod y daw’r contract meddiannaeth i ben o dan adran 220 o’r Ddeddf;

  • ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016;

  • ystyr “eiddo” (“property”) yw eiddo (heblaw eiddo’r landlord) sydd yn yr annedd pan ddaw’r contract meddiannaeth i ben o dan adran 220 o’r Ddeddf;

  • mae “gwaredu” (“disposal”) yn cynnwys gwerthu eiddo, ond nid yw’n gyfyngedig i hynny.

2

Mae i’r geiriau a’r ymadroddion a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn yr un ystyr ag sydd iddynt yn y Ddeddf.

Diogelu a gwaredu eiddo3

1

Rhaid ymdrin ag eiddo sydd mewn annedd pan ddaw’r contract meddiannaeth i ben o dan adran 220 o’r Ddeddf yn unol â’r Rheoliadau hyn.

2

Yn ddarostyngedig i baragraff (4), rhaid i’r landlord ddiogelu’r eiddo am y cyfnod rhagnodedig.

3

Ar ôl i’r cyfnod rhagnodedig ddod i ben, caiff y landlord waredu unrhyw eiddo sy’n weddill.

4

Nid yw paragraffau (2) a (3) yn gymwys i eiddo—

a

sy’n ddarfodus,

b

y byddai ei ddiogelu yn ddigonol yn golygu costau neu anhwylustod afresymol, neu

c

na fyddai ei werth, ym marn y landlord, yn fwy na’r swm y caiff y landlord ei ddidynnu o dan reoliad 5(1) o’r enillion o werthu’r eiddo hwnnw,

ac yn yr achosion hynny caiff y landlord waredu’r eiddo hwnnw ar unrhyw adeg ac mewn unrhyw fodd y mae’n meddwl eu bod yn briodol.

Traddodi eiddo i berchennog4

1

Ar unrhyw adeg cyn gwaredu unrhyw eiddo o dan baragraff (3) neu (4) o reoliad 3, caiff deiliad y contract, neu unrhyw berson yr ymddengys i’r landlord fod ganddo hawl perchnogaeth neu feddiant yn yr eiddo, drefnu i draddodi’r eiddo hwnnw i ddeiliad y contract neu’r person arall hwnnw.

2

Yn ddarostyngedig i baragraff (3), pan drefnir traddodi o dan baragraff (1), rhaid i’r landlord ildio gofal o’r eiddo hwnnw.

3

Caiff y landlord ei gwneud yn ofynnol i unrhyw swm, fel y gwêl y landlord yn addas, sy’n gyfwerth â, neu’n llai na, swm unrhyw dreuliau yr aeth y landlord iddynt wrth gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn, gael ei dalu iddo cyn ildio gofal o eiddo o dan y rheoliad hwn.

Treuliau’r landlord a symiau sy’n ddyledus o dan y contract meddiannaeth5

1

Caiff y landlord ddefnyddio unrhyw enillion o waredu eiddo o dan baragraff (3) neu (4) o reoliad 3 i dalu treuliau yr aeth y landlord iddynt wrth gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.

2

Os oes unrhyw swm yn weddill, yn dilyn defnyddio’r enillion o dan baragraff (1), caiff y landlord, ar ôl i’r cyfnod rhagnodedig ddod i ben, ei ddefnyddio ar gyfer unrhyw ôl-ddyledion rhent sy’n ddyledus o dan y contract meddiannaeth.

Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 19826

Nid yw adran 41 o Ddeddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 19823 yn gymwys i eiddo sydd mewn annedd y mae awdurdod lleol yn berchen arni neu’n ei rheoli pan fydd contract meddiannaeth mewn perthynas â’r annedd honno yn dod i ben o dan adran 220 o’r Ddeddf.

Julie JamesY Gweinidog Newid Hinsawdd, un o Weinidogion Cymru
NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth ynghylch y gofyniad i’r landlord ddiogelu eiddo mewn annedd pan fydd contract meddiannaeth yn dod i ben o dan adran 220 (meddiannu anheddau y cefnwyd arnynt) o Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (dccc 1) (“y Ddeddf”).

Mae rheoliad 3(1) a (2) yn darparu, pan fo contract meddiannaeth yn dod i ben yn unol ag adran 220 o’r Ddeddf, fod rhaid i’r landlord ddiogelu eiddo a adawyd yn yr annedd am bedair wythnos o’r diwrnod y mae’r contract yn dod i ben. Mae paragraff (3) yn darparu, oni bai bod deiliad y contract (neu berchennog arall yr eiddo) yn trefnu i draddodi’r eiddo hwnnw i’r person perthnasol (o dan reoliad 4), ar ôl y pedair wythnos ragnodedig, y caiff y landlord waredu unrhyw eiddo sy’n parhau i fod o dan ei ofal. Mae paragraff (4) yn pennu amgylchiadau pan na fo’r ddyletswydd i ddiogelu eiddo y cefnwyd arno yn gymwys, ac yn yr achosion hynny caiff y landlord waredu’r eiddo hwnnw ar unrhyw adeg ar ôl i’r contract ddod i ben.

Mae rheoliad 4(1) a (2) yn darparu, pan fo deiliad y contract neu berchennog yr eiddo yn trefnu i draddodi’r eiddo i’r person hwnnw, fod rhaid i’r landlord ildio gofal o’r eiddo. Mae paragraff (3) yn galluogi’r landlord i’w gwneud yn ofynnol talu’r treuliau yr aeth y landlord iddynt wrth gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn cyn bod y landlord yn ildio gofal o’r eiddo.

Mae rheoliad 5 yn caniatáu i’r landlord ddidynnu ei dreuliau ac unrhyw ôl-ddyledion rhent sy’n ddyledus o dan y contract meddiannaeth o’r enillion o unrhyw werthiant eiddo o dan y Rheoliadau hyn.

Mae rheoliad 6 yn darparu yr ymdrinnir ag eiddo sydd mewn annedd y cefnwyd arni y mae awdurdod lleol yn berchen arni neu’n ei rheoli yn unol â’r Rheoliadau hyn pan fo’r contract meddiannaeth yn cael ei derfynu o dan adran 220 o’r Ddeddf.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Yr Adran Dai, Llywodraeth Cymru, Parc Busnes Rhyd-y-car, Merthyr Tudful, CF48 1UZ.