Enwi a chychwyn1

1

Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Etholiadau Lleol (Diwygiadau Amrywiol a Chanlyniadol) (Cymru) 2022.

2

Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 10 Mawrth 2022.

Diwygio Rheolau 2021: dilysrwydd papurau enwebu2

1

Mae Rheolau Etholiadau Lleol (Prif Ardaloedd) (Cymru) 20217 wedi eu diwygio yn unol â pharagraffau (2) a (3).

2

Yn Atodlen 1, yn rheol 10(3) (penderfyniadau ynglŷn â dilysrwydd papurau enwebu), ar ôl is-baragraff (a) mewnosoder—

aa

nad yw’r papur enwebu’n cynnwys y datganiadau sy’n ofynnol gan reol 5(3)(d), wedi eu llofnodi gan yr ymgeisydd;

3

Yn Atodlen 2, yn rheol 10(3) (penderfyniadau ynglŷn â dilysrwydd papurau enwebu), ar ôl is-baragraff (a) mewnosoder—

aa

nad yw’r papur enwebu’n cynnwys y datganiadau sy’n ofynnol gan reol 5(3)(d), wedi eu llofnodi gan yr ymgeisydd;

4

Mae Rheolau Etholiadau Lleol (Cymunedau) (Cymru) 20218 wedi eu diwygio yn unol â pharagraffau (5) a (6).

5

Yn Atodlen 1, yn rheol 10(3) (penderfyniadau ynglŷn â dilysrwydd papurau enwebu), ar ôl is-baragraff (a) mewnosoder—

aa

nad yw’r papur enwebu’n cynnwys y datganiadau sy’n ofynnol gan reol 5(3)(d), wedi eu llofnodi gan yr ymgeisydd;

6

Yn Atodlen 2, yn rheol 10(3) (penderfyniadau ynglŷn â dilysrwydd papurau enwebu), ar ôl is-baragraff (a) mewnosoder—

aa

nad yw’r papur enwebu’n cynnwys y datganiadau sy’n ofynnol gan reol 5(3)(d), wedi eu llofnodi gan yr ymgeisydd;

Diwygio Rheolau 2021: y weithdrefn wrth gau’r bleidlais3

1

Mae Rheolau Etholiadau Lleol (Prif Ardaloedd) (Cymru) 2021 wedi eu diwygio yn unol â pharagraffau (2) a (3).

2

Yn Atodlen 1—

a

yn rheol 30 (penodi swyddogion llywyddu a chlercod), ym mharagraff (5), hepgorer “mewn gorsaf bleidleisio”;

b

yn rheol 51 (y weithdrefn wrth gau’r bleidlais)—

i

ym mharagraff (3), hepgorer y geiriau o “Ym mhresenoldeb” hyd at “yn yr orsaf bleidleisio,”;

ii

ar ôl paragraff (3) mewnosoder—

3A

Rhaid i’r swyddog llywyddu wneud unrhyw beth sy’n ofynnol gan baragraff (3)(a), (b), (e) neu (f) yn yr orsaf bleidleisio, ym mhresenoldeb unrhyw asiantau pleidleisio sydd yno.

3B

Caiff y swyddog llywyddu wneud unrhyw beth sy’n ofynnol gan baragraff (3)(c) neu (d)—

a

yn yr orsaf bleidleisio, ym mhresenoldeb unrhyw asiantau pleidleisio sydd yno, neu

b

os yw’r swyddog llywyddu wedi hysbysu’r asiantau pleidleisio ac wedi rhoi cyfle iddynt i fod yn bresennol, yn unrhyw le arall y mae’r swyddog llywyddu yn ystyried ei fod yn briodol, ym mhresenoldeb unrhyw asiantau pleidleisio sydd yno.

3

Yn Atodlen 2—

Rhaid i’r swyddog llywyddu wneud unrhyw beth sy’n ofynnol gan baragraff (3)(a), (b), (e) neu (f) yn yr orsaf bleidleisio, ym mhresenoldeb unrhyw asiantau pleidleisio a benodwyd at ddibenion yr etholiad prif ardal neu etholiad perthnasol sydd yno.

3B

Caiff y swyddog llywyddu wneud unrhyw beth sy’n ofynnol gan baragraff (3)(c) neu (d)—

a

yn yr orsaf bleidleisio, ym mhresenoldeb unrhyw asiantau pleidleisio a benodwyd at ddibenion yr etholiad prif ardal neu etholiad perthnasol sydd yno, neu

b

os yw’r swyddog llywyddu wedi hysbysu’r asiantau pleidleisio a benodwyd at ddibenion yr etholiad prif ardal neu etholiad perthnasol ac wedi rhoi cyfle iddynt i fod yn bresennol, yn unrhyw le arall y mae’r swyddog llywyddu yn ystyried ei fod yn briodol, ym mhresenoldeb unrhyw un neu ragor o’r asiantau pleidleisio hynny sydd yno.

4

Mae Rheolau Etholiadau Lleol (Cymunedau) (Cymru) 2021 wedi eu diwygio yn unol â pharagraffau (5) a (6).

5

Yn Atodlen 1—

a

yn rheol 30 (penodi swyddogion llywyddu a chlercod), ym mharagraff (5), hepgorer “mewn gorsaf bleidleisio”;

b

yn rheol 51 (y weithdrefn wrth gau’r bleidlais)—

i

ym mharagraff (3), hepgorer y geiriau o “Ym mhresenoldeb” hyd at “yn yr orsaf bleidleisio,”;

ii

ar ôl paragraff (3) mewnosoder—

3A

Rhaid i’r swyddog llywyddu wneud unrhyw beth sy’n ofynnol gan baragraff (3)(a), (b), (e) neu (f) yn yr orsaf bleidleisio, ym mhresenoldeb unrhyw asiantau pleidleisio sydd yno.

3B

Caiff y swyddog llywyddu wneud unrhyw beth sy’n ofynnol gan baragraff (3)(c) neu (d)—

a

yn yr orsaf bleidleisio, ym mhresenoldeb unrhyw asiantau pleidleisio sydd yno, neu

b

os yw’r swyddog llywyddu wedi hysbysu’r asiantau pleidleisio ac wedi rhoi cyfle iddynt i fod yn bresennol, yn unrhyw le arall y mae’r swyddog llywyddu yn ystyried ei fod yn briodol, ym mhresenoldeb unrhyw asiantau pleidleisio sydd yno.

6

Yn Atodlen 2—

a

yn rheol 30 (penodi swyddogion llywyddu a chlercod), ym mharagraff (5), hepgorer “mewn gorsaf bleidleisio”;

b

yn rheol 51 (y weithdrefn wrth gau’r bleidlais)—

i

ym mharagraff (3), hepgorer y geiriau o “Ym mhresenoldeb” hyd at “yn yr orsaf bleidleisio,”;

ii

ar ôl paragraff (3) mewnosoder—

3A

Rhaid i’r swyddog llywyddu wneud unrhyw beth sy’n ofynnol gan baragraff (3)(a), (b), (e) neu (f) yn yr orsaf bleidleisio, ym mhresenoldeb unrhyw asiantau pleidleisio a benodwyd at ddibenion yr etholiad cymuned neu etholiad perthnasol sydd yno.

3B

Caiff y swyddog llywyddu wneud unrhyw beth sy’n ofynnol gan baragraff (3)(c) neu (d)—

a

yn yr orsaf bleidleisio, ym mhresenoldeb unrhyw asiantau pleidleisio a benodwyd at ddibenion yr etholiad cymuned neu etholiad perthnasol sydd yno, neu

b

os yw’r swyddog llywyddu wedi hysbysu’r asiantau pleidleisio a benodwyd at ddibenion yr etholiad cymuned neu etholiad perthnasol ac wedi rhoi cyfle iddynt i fod yn bresennol, yn unrhyw le arall y mae’r swyddog llywyddu yn ystyried ei fod yn briodol, ym mhresenoldeb unrhyw un neu ragor o’r asiantau pleidleisio hynny sydd yno.

Diwygio Rheolau 2021: etholiadau cymuned: dyroddi cardiau pleidleisio swyddogol4

1

Yn Rheolau Etholiadau Lleol (Cymunedau) (Cymru) 2021, yn Atodlen 2, mae rheol 31 (dyroddi cardiau pleidleisio swyddogol) wedi ei diwygio fel a ganlyn.

2

Ar y dechrau mewnosoder—

A1

Caiff y cyngor cymuned, heb fod yn hwyrach na 4 p.m. ar y pedwerydd diwrnod ar bymtheg cyn diwrnod yr etholiad, ofyn i’r swyddog canlyniadau ddyroddi cardiau pleidleisio ar gyfer yr etholiad.

3

Ym mharagraff (1), yn lle “ar ôl cyhoeddi hysbysiad o’r etholiad” rhodder “ar ôl cael y cais”.

4

Ar ôl paragraff (1) mewnosoder—

1A

Yn achos etholwr sydd â chofnod dienw, rhaid i’r swyddog canlyniadau ddyroddi’r cerdyn pleidleisio priodol pa un a yw’r cyngor wedi gofyn i gardiau pleidleisio gael eu dyroddi o dan baragraff (A1) ai peidio.

Diwygiadau sy’n ymwneud â’r amserlen ar gyfer etholiadau5

1

Yn adran 40(1) o Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 (amseriad etholiadau lleol yng Nghymru a Lloegr)9, ar ôl “section 37” mewnosoder “, section 37ZA”.

2

Yn rheol 3(1) o Reolau Etholiadau Lleol (Prif Ardaloedd) (Cymru) 2021 (dehongli), yn y diffiniad o “diwrnod eithriedig”, ar ôl paragraff (f) mewnosoder—

g

yn ddiwrnod a bennir ar gyfer diolchgarwch neu alaru cyhoeddus;

3

Yn rheol 3(1) o Reolau Etholiadau Lleol (Cymunedau) (Cymru) 2021 (dehongli), yn y diffiniad o “diwrnod eithriedig”, ar ôl paragraff (f) mewnosoder—

g

yn ddiwrnod a bennir ar gyfer diolchgarwch neu alaru cyhoeddus;

Diwygio adrannau 67, 69 a 70 o Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 19836

1

Mae Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

2

Yn adran 67 (penodi asiant etholiadol)10, ar ôl is-adran (6) mewnosoder—

6A

Where a candidate at an election of councillors to a county or county borough council in Wales has named themself as election agent and the home address form accompanying the candidate’s nomination paper contains a statement under rule 9(6) of Schedule 1 or 2 to the Local Elections (Principal Areas) (Wales) Rules 2021 that the candidate’s home address must not be made public—

a

the candidate’s home address must not be included in the public notice under subsection (6), and

b

the information given in the candidate’s home address form under rule 9(7) of Schedule 1 or 2 to the Local Elections (Principal Areas) (Wales) Rules 2021 must be included in the public notice instead.

3

Yn adran 69 (swyddfa asiant ac is-asiant etholiadol)11, ar ôl is-adran (1) mewnosoder—

1A

Subsection (1B) applies where—

a

a candidate at an election of councillors to a county or county borough council in Wales has named themself as election agent,

b

the home address form accompanying the candidate’s nomination paper contains a statement under rule 9(6) of Schedule 1 or 2 to the Local Elections (Principal Areas) (Wales) Rules 2021 that the candidate’s home address must not be made public, and

c

the office address that is required to be declared under subsection (1) is also the candidate’s home address.

1B

If the candidate (in their capacity as election agent) does not want the office address to be included in the public notice under section 67(6), the candidate must, in addition to declaring the office address, provide the appropriate officer with another address in England or Wales to be used for correspondence (“a correspondence address”).

1C

Where the candidate (in their capacity as election agent) provides a correspondence address under subsection (1B)—

a

the office address must not be included in the public notice under section 67(6), and

b

the correspondence address must be included instead.

4

Yn yr adran honno, yn is-adran (3)—

a

ar ôl “or sub-agent”, yn y lle cyntaf y mae’n digwydd, mewnosoder “, or delivered to a correspondence address provided under subsection (1C),”;

b

yn lle “addressed to him” rhodder “addressed to the agent”.

5

Yn adran 70 (effaith methu â phenodi asiant etholiadol)12, ar ôl is-adran (4) mewnosoder—

4A

In relation to a candidate who is deemed by virtue of this section to be their own election agent at an election of councillors to a county or county borough in Wales, subsection (4) does not apply and the candidate’s office is instead deemed to be—

a

in a case where the candidate’s home address given under rule 9(2)(b) of Schedule 1 or 2 to the Local Elections (Principal Areas) (Wales) Rules 2021 is in England or Wales, at that address, and

b

otherwise, at the candidate’s qualifying address as stated under rule 9(2)(c) of Schedule 1 or 2 to those Rules or, where more than one qualifying address is stated, at the first of those addresses.

6

Yn yr adran honno, ar ôl is-adran (7) mewnosoder—

8

In relation to a candidate who is deemed by virtue of this section to be their own election agent at an election of councillors to a county or county borough in Wales, subsection (6) does not apply and instead sections 67 and 69 apply with the following modifications.

9

Section 67 applies as if the name and address of the candidate had been declared in writing to the appropriate officer under subsection (1) of that section.

10

Section 69 applies as if—

a

the address at which the candidate’s office is deemed to be had been declared to the appropriate officer under subsection (1)(a) of that section, and

b

subsections (1A) to (1C) and (2) of that section were omitted.

Diwygio Rheolau 2006 etc.7

1

Mae Atodlen 1 yn gwneud diwygiadau i Reolau Etholiadau Lleol (Prif Ardaloedd) (Cymru a Lloegr) 200613.

2

Mae Atodlen 2 yn gwneud diwygiadau i Reolau Etholiadau Lleol (Plwyfi a Chymunedau) (Cymru a Lloegr) 200614.

Dirymu Gorchmynion Ffurflenni Cymraeg8

1

Mae Gorchymyn Etholiadau Lleol (Prif Ardaloedd) (Ffurflenni Cymraeg) 200715 wedi ei ddirymu.

2

Mae Gorchymyn Etholiadau Lleol (Cymunedau) (Ffurflenni Cymraeg) 200716 wedi ei ddirymu.

3

O ganlyniad i’r dirymiadau a wneir gan baragraffau (1) a (2), mae’r Gorchmynion a ganlyn hefyd wedi eu dirymu—

a

Gorchymyn Etholiadau Lleol (Prif Ardaloedd) (Ffurflenni Cymraeg) (Diwygio) 201417;

b

Gorchymyn Etholiadau Lleol (Cymunedau) (Ffurflenni Cymraeg) (Diwygio) 201418;

c

Gorchymyn Etholiadau Lleol (Prif Ardaloedd) (Ffurflenni Cymraeg) (Diwygio) 201719;

d

Gorchymyn Etholiadau Lleol (Cymunedau) (Ffurflenni Cymraeg) (Diwygio) 201720.

Diwygio Atodlen 4 i Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 20079

Mae Atodlen 3 yn gwneud diwygiadau i Atodlen 4 i Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2007 (“Gorchymyn 2007”)21.

Diwygio Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Cymru a Lloegr) 200110

1

Mae rheoliad 56 o Reoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Cymru a Lloegr) 200122 (dyddiad cau ar gyfer ceisiadau) wedi ei ddiwygio yn unol â pharagraffau (2) a (3).

2

Ym mharagraff (3B), yn lle “relevant Welsh by-election” rhodder “relevant Welsh local government election”.

3

Yn lle paragraff (3C) rhodder—

3C

In paragraph (3B), “relevant Welsh local government election” means a local government election in Wales the poll for which takes place before 31 May 2023.

4

O ganlyniad i’r diwygiadau a wneir gan baragraffau (2) a (3)—

a

yn Rheoliadau Llywodraeth Leol (Coronafeirws) (Gohirio Etholiadau) (Cymru) (Rhif 2) 202023, hepgorer rheoliad 8(4);

b

yn Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Diwygio) (Cymru) (Coronafeirws) 202124, hepgorer rheoliad 2(4);

c

mae Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Diwygio) (Cymru) (Coronafeirws) (Rhif 2) 202125 wedi eu dirymu.

Diwygiadau canlyniadol eraill11

Mae Atodlen 4 yn gwneud diwygiadau pellach o ganlyniad i Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021, Rheolau Etholiadau Lleol (Prif Ardaloedd) (Cymru) 2021 a Rheolau Etholiadau Lleol (Cymunedau) (Cymru) 2021.

Darpariaeth drosiannol12

Nid yw’r dirymiadau a’r diwygiadau eraill a wneir gan y darpariaethau a ganlyn o’r Rheoliadau hyn yn effeithio ar gynnal etholiad ar gyfer cynghorwyr i gyngor sir, cyngor bwrdeistref sirol neu gyngor cymuned yng Nghymru pe bai’r bleidlais yn digwydd, pe ymleddid yr etholiad, cyn 5 Mai 2022—

a

rheoliadau 2 i 4;

b

rheoliad 5(2) a (3);

c

rheoliad 6;

d

Atodlenni 1 a 2;

e

rheoliad 8;

f

yn Atodlen 3, Rhannau 2 a 3;

g

yn Atodlen 4, paragraffau 1 a 3.

Rebecca EvansY Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru