2022 Rhif 263 (Cy. 79)

Llywodraeth Leol, Cymru
Cynrychiolaeth Y Bobl, Cymru

Rheoliadau Etholiadau Lleol (Diwygiadau Amrywiol a Chanlyniadol) (Cymru) 2022

Gwnaed

Yn dod i rym

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 36A(1) i (6) o Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 19831, gan baragraffau 4(2)(c) a 6(7) ac (8) o Atodlen 4 i Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 20002 a chan adran 173(1) a (2) o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 20213, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.

Yn unol ag adran 7(1) a (2)(e) o Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 20004, mae Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori â’r Comisiwn Etholiadol. Yn unol ag adran 36A(7) o Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983, mae Gweinidogion Cymru hefyd wedi ymgynghori â’r personau eraill hynny yr oeddent yn ystyried eu bod yn briodol.

Yn unol ag adrannau 36A(10) a 201(2) o Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 19835, gosodwyd drafft o’r offeryn hwn gerbron Senedd Cymru ac fe’i cymeradwywyd ganddi drwy benderfyniad6.