xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2022 Rhif 263 (Cy. 79)

Llywodraeth Leol, Cymru

Cynrychiolaeth Y Bobl, Cymru

Rheoliadau Etholiadau Lleol (Diwygiadau Amrywiol a Chanlyniadol) (Cymru) 2022

Gwnaed

9 Mawrth 2022

Yn dod i rym

10 Mawrth 2022

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 36A(1) i (6) o Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983(1), gan baragraffau 4(2)(c) a 6(7) ac (8) o Atodlen 4 i Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 2000(2) a chan adran 173(1) a (2) o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021(3), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.

Yn unol ag adran 7(1) a (2)(e) o Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000(4), mae Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori â’r Comisiwn Etholiadol. Yn unol ag adran 36A(7) o Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983, mae Gweinidogion Cymru hefyd wedi ymgynghori â’r personau eraill hynny yr oeddent yn ystyried eu bod yn briodol.

Yn unol ag adrannau 36A(10) a 201(2) o Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983(5), gosodwyd drafft o’r offeryn hwn gerbron Senedd Cymru ac fe’i cymeradwywyd ganddi drwy benderfyniad(6).

(1)

1983 p. 2. Mewnosodwyd adran 36A gan adran 13(3) o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (dsc 1). Caniateir arfer y pŵer i wneud rheolau o dan adran 36A i wneud rheoliadau yn rhinwedd adran 39(1) o Ddeddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019 (dccc 4).

(2)

2000 p. 2. Trosglwyddwyd swyddogaethau’r Ysgrifennydd Gwladol o dan y Ddeddf honno, i’r graddau yr oeddent yn arferadwy o fewn cymhwysedd datganoledig, i Weinidogion Cymru gan O.S. 2018/644. Diwygiwyd paragraff 4 o Atodlen 4 gan adran 14 o Ddeddf Gweinyddu Etholiadol 2006 (p. 22). Am y diffiniad o “prescribed” yn Atodlen 4, gweler paragraff 1(2) o’r Atodlen honno ac adran 202(1) o Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983.

(5)

Mae paragraff 1(2) o Atodlen 4 i Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 2000 yn darparu bod Atodlen 4 yn cael effaith fel pe bai wedi ei chynnwys yn Rhan 1 o Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983.

(6)

Gweler hefyd adran 40 o Ddeddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019 am ddarpariaeth ynghylch y weithdrefn sy’n gymwys i’r offeryn hwn.