NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau hyn)

Mae rheoliad 1 yn darparu ar gyfer enwi a chychwyn y Rheoliadau hyn.

Mae rheoliad 2 yn diwygio Rheolau Etholiadau Lleol (Prif Ardaloedd) (Cymru) 2021 (O.S. 2021/1459 (Cy. 374)) a Rheolau Etholiadau Lleol (Cymunedau) (Cymru) 2021 (O.S. 2021/1460 (Cy. 375)) o dan y pwerau a roddir gan adran 36A(1) i (4) o Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 (p. 2) (“Deddf 1983”). Mae’r diwygiadau’n ychwanegu, at y rhestr o seiliau y caiff y swyddog canlyniadau ddyfarnu bod papur enwebu’n annilys arnynt, nad yw’r papur enwebu’n cynnwys y datganiadau y mae’n ofynnol i’r ymgeisydd eu cynnwys yn ei bapur enwebu, wedi eu llofnodi gan yr ymgeisydd.

Mae rheoliad 3 yn gwneud diwygiadau pellach i Reolau Etholiadau Lleol (Prif Ardaloedd) (Cymru) 2021 a Rheolau Etholiadau Lleol (Cymunedau) (Cymru) 2021 o dan y pwerau a roddir gan adran 36A(1) i (4) o Ddeddf 1983. Mae’r prif ddiwygiadau i’r rheolau sy’n llywodraethu’r weithdrefn wrth gau’r bleidlais (rheol 51 ym mhob un o’r Atodlenni i’r ddwy set o Reolau). Mae’r diwygiadau hyn yn galluogi’r copïau a farciwyd o’r cofnodion cofrestru a’r rhestr dirprwyon a’r rhestr rhifau cyfatebol a farciwyd i gael eu rhoi mewn pecynnau a’u selio mewn man heblaw’r orsaf bleidleisio. O ganlyniad i hyn, mae rheol 30 o bob un o’r Atodlenni hefyd wedi ei diwygio fel y caiff y swyddog llywyddu awdurdodi’r clercod a benodwyd gan y swyddog canlyniadau i weithredu yn unrhyw fan lle y mae’r swyddog llywyddu yn cyflawni swyddogaethau.

Mae rheoliad 4 yn diwygio rheol 31 o Atodlen 2 i Reolau Etholiadau Lleol (Cymunedau) (Cymru) 2021 o dan y pwerau a roddir gan adran 36A(1), (3) a (4) o Ddeddf 1983. Mae Atodlen 2 yn nodi’r rheolau sy’n gymwys pan fo’r bleidlais mewn etholiad cymuned yn cael ei chyfuno â’r bleidlais mewn etholiadau penodol eraill. Mae’r diwygiadau’n darparu y bydd cardiau pleidleisio swyddogol yn yr etholiad cymuned yn cael eu dyroddi ar gais y cyngor, ac eithrio cardiau pleidleisio a ddyroddir i etholwyr sydd â chofnodion dienw y mae rhaid iddynt gael eu dyroddi pa un a oes cais ai peidio. Mae’r diwygiadau’n cywiro amryfusedd yn y Rheolau hynny ac yn golygu mai’r un yw’r sefyllfa o ran dyroddi cardiau pleidleisio mewn etholiadau cymuned pa un a yw’r bleidlais yn cael ei chyfuno ai peidio.

Mae rheoliad 5 yn gwneud diwygiadau sy’n ymwneud â’r amserlen ar gyfer etholiadau. Mae paragraffau (2) a (3) yn diwygio Rheolau Etholiadau Lleol (Prif Ardaloedd) (Cymru) 2021 a Rheolau Etholiadau Lleol (Cymunedau) (Cymru) 2021 er mwyn ychwanegu, at y rhestr o ddiwrnodau sydd i’w diystyru wrth gyfrifo cyfnodau o amser yn amserlen yr etholiad, ddiwrnodau a bennwyd ar gyfer diolchgarwch neu alaru cyhoeddus. Mae’r diwygiadau’n cywiro hepgoriad yn y Rheolau hynny ac fe’u gwneir o dan y pwerau a roddir gan adran 36A(1) i (4) o Ddeddf 1983. Mae paragraff (1) yn gwneud diwygiad cysylltiedig i adran 40(1) o Ddeddf 1983 ac yn yr un modd yn cywiro hepgoriad yn yr adran honno. Effaith y diwygiad yw, pan fyddai’r bleidlais mewn etholiad llywodraeth leol cyffredin yng Nghymru yn digwydd ar ddydd Sadwrn, dydd Sul, Noswyl Nadolig, Dydd Nadolig, Dydd Gwener y Groglith, gŵyl banc neu ddiwrnod a bennwyd ar gyfer diolchgarwch neu alaru cyhoeddus, fod yr etholiad wedi ei ohirio tan y diwrnod cyntaf wedi hynny nad yw’n un o’r diwrnodau hynny. Gwneir y diwygiad hwn o dan y pwerau a roddir gan adran 36A(5) a (6) o Ddeddf 1983.

Mae rheoliad 6 yn diwygio adrannau 67, 69 a 70 o Ddeddf 1983 o dan y pwerau a roddir gan adran 36A(5) a (6) o’r Ddeddf honno. O dan reol 9(6) o bob un o Atodlenni 1 a 2 i Reolau Etholiadau Lleol (Prif Ardaloedd) (Cymru) 2021, mae’n bosibl i ymgeisydd mewn etholiad ar gyfer cynghorwyr i gyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol yng Nghymru gynnwys datganiad yn ei ffurflen cyfeiriad cartref na chaniateir cyhoeddi ei gyfeiriad cartref. Pan fo’r ymgeisydd yn gwneud hyn, ni chynhwysir ei gyfeiriad cartref yn y datganiad o’r personau a enwebwyd nac ar y papur pleidleisio. Fodd bynnag, mae rhai ymgeiswyr hefyd yn gweithredu fel eu hasiant etholiadol eu hunain, sy’n golygu y byddai eu cyfeiriad cartref i’w gyhoeddi o dan adran 67(6) o Ddeddf 1983. Gan fod hyn yn anghyson â’r polisi o ganiatáu i ymgeiswyr gadw eu cyfeiriad cartref yn breifat, mae rheoliad 6(2) yn diwygio adran 67 er mwyn sicrhau, pan fo ymgeisydd sy’n gweithredu fel ei asiant etholiadol ei hun wedi datgan yn ei ffurflen cyfeiriad cartref na chaniateir cyhoeddi ei gyfeiriad cartref, na chyhoeddir y cyfeiriad cartref o dan adran 67(6). Yn hytrach, gwybodaeth sylfaenol yn unig, sef yn gyffredinol enw’r ardal llywodraeth leol y mae’r ymgeisydd yn byw ynddi, a gyhoeddir.

Mae rheoliad 6(3) a (4) yn gwneud diwygiadau cysylltiedig i adran 69 o Ddeddf 1983 er mwyn ymdrin â’r sefyllfa pan fo’r ymgeisydd yn defnyddio ei gartref fel ei swyddfa, ac o ganlyniad y byddai ei gyfeiriad cartref i’w ddatgan fel ei gyfeiriad swyddfa a’i gynnwys o’r herwydd yn yr hysbysiad cyhoeddus o dan adran 67(6). Mae’r diwygiadau’n caniatáu i’r ymgeisydd yn y sefyllfa hon ddarparu cyfeiriad yng Nghymru neu yn Lloegr heblaw ei gyfeiriad cartref (“cyfeiriad gohebu”), y caiff gweinyddwyr etholiadol ac eraill ei ddefnyddio wedyn i gyflwyno hysbysiadau etc. sy’n ymwneud â’r etholiad. Pan fo’r ymgeisydd yn gwneud hyn, cyhoeddir y cyfeiriad gohebu yn yr hysbysiad o dan adran 67(6) (yn hytrach na’r cyfeiriad swyddfa) a bernir bod hysbysiadau etc. sydd wedi eu danfon i’r cyfeiriad gohebu wedi eu cyflwyno yn yr un modd ag y byddent wedi eu cyflwyno pe baent wedi eu danfon i’r cyfeiriad swyddfa.

Mae rheoliad 6(5) a (6) yn diwygio adran 70 o Ddeddf 1983 sy’n ymdrin â sefyllfa ymgeisydd sy’n dod yn asiant etholiadol iddo ef ei hun oherwydd methiant, fel arfer am nad yw wedi penodi unrhyw un yn asiant etholiadol iddo. Mae’r diwygiadau’n darparu ar gyfer barnu bod gan yr ymgeisydd swyddfa yn y cyfeiriad cartref a roddir yn ei ffurflen cyfeiriad cartref os yw’r cyfeiriad hwnnw yng Nghymru neu yn Lloegr, ac fel arall yn y cyfeiriad y cadarnhaodd ei gymhwyster i fod yn ymgeisydd yn ei rinwedd (“y cyfeiriad cymwys”). Mae’r diwygiadau hefyd yn ymdrin â chymhwyso adrannau 67 a 69 yn y sefyllfa hon. Mae adran 67 yn gymwys yn y ffordd arferol. Fodd bynnag, ni fydd unrhyw gyfle i’r ymgeisydd ddarparu cyfeiriad gohebu arall o dan adran 69. O ganlyniad, bydd cyfeiriad swyddfa tybiedig yr ymgeisydd bob amser yn cael ei gynnwys yn yr hysbysiad cyhoeddus a roddir.

Gwneir rheoliad 7 o dan y pwerau a roddir gan adran 36A(5) a (6) o Ddeddf 1983. Mae rheoliad 7(1) yn cyflwyno Atodlen 1 sy’n diwygio Rheolau Etholiadau Lleol (Prif Ardaloedd) (Cymru a Lloegr) 2006 (O.S. 2006/3304) fel nad ydynt yn gymwys ond o ran Lloegr. Gwneir darpariaeth ar gyfer cynnal etholiadau lleol ar gyfer prif ardaloedd yng Nghymru bellach gan Reolau Etholiadau Lleol (Prif Ardaloedd) (Cymru) 2021. Mae rheoliad 7(2) yn cyflwyno Atodlen 2 sy’n diwygio Rheolau Etholiadau Lleol (Plwyfi a Chymunedau) (Cymru a Lloegr) 2006 (O.S. 2006/3305) fel nad ydynt yn gymwys ond o ran plwyfi yn Lloegr. Gwneir darpariaeth ar gyfer cynnal etholiadau lleol ar gyfer cymunedau yng Nghymru bellach gan Reolau Etholiadau Lleol (Cymunedau) (Cymru) 2021.

Gwneir rheoliad 8 o dan y pwerau a roddir gan adran 36A(5) a (6) o Ddeddf 1983. Mae’n dirymu Gorchymyn Etholiadau Lleol (Prif Ardaloedd) (Ffurflenni Cymraeg) 2007 (O.S. 2007/1015), Gorchymyn Etholiadau Lleol (Cymunedau) (Ffurflenni Cymraeg) 2007 (O.S. 2007/1013) ac offerynnau sy’n diwygio’r Gorchmynion hynny. Mae’r Gorchmynion bellach wedi eu disbyddu o ganlyniad i’r ddarpariaeth a wneir gan Reolau Etholiadau Lleol (Prif Ardaloedd) (Cymru) 2021 a Rheolau Etholiadau Lleol (Cymunedau) (Cymru) 2021.

Mae rheoliad 9 yn cyflwyno Atodlen 3 sy’n diwygio Atodlen 4 i Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2007 (O.S. 2007/236) (“Gorchymyn 2007”). Mae Atodlen 4 i Orchymyn 2007 yn gwneud darpariaeth ynghylch yr hyn sy’n digwydd pan fo’r bleidlais mewn etholiad Senedd Cymru yn cael ei chyfuno â phleidlais mewn etholiad llywodraeth leol yng Nghymru.

Mae Rhan 1 o Atodlen 3 yn diwygio Rhan 1 o Atodlen 4 i Orchymyn 2007 o ganlyniad i ddarpariaethau yn Neddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (dsc 1) (“Deddf 2021”). Er enghraifft, mae paragraff 2 o’r Atodlen yn newid cyfeiriad at adran 36 o Ddeddf 1983 yn gyfeiriad at adran 36A o’r Ddeddf honno, newid sy’n angenrheidiol oherwydd mai effaith diwygiadau a wneir gan adran 13 o Ddeddf 2021 yw fod y pŵer i wneud rheolau sy’n llywodraethu cynnal etholiadau yng Nghymru bellach yn cael ei roi gan adran 36A yn hytrach nag adran 36. Gwneir y diwygiadau yn Rhan 1 o dan y pwerau a roddir gan adran 173(1) a (2) o Ddeddf 2021.

Mae Rhan 2 o Atodlen 3 yn rhoi Rhan 3 newydd yn lle’r Rhan 3 bresennol o Atodlen 4 i Orchymyn 2007, sy’n nodi’r modd y cymhwysir gydag addasiadau ddarpariaethau Rheolau Etholiadau Lleol (Prif Ardaloedd) (Cymru) 2021 pan fo’r bleidlais mewn etholiad prif ardal yn cael ei chyfuno â’r bleidlais mewn etholiad Senedd Cymru. Mae hyn yn angenrheidiol oherwydd nad yw Rheolau Etholiadau Lleol (Prif Ardaloedd) (Cymru a Lloegr) 2006 yn gymwys mwyach o ran Cymru. Gwneir y diwygiadau yn Rhan 2 o dan y pwerau a roddir gan adran 36A(5) a (6) o Ddeddf 1983.

Mae Rhan 3 o Atodlen 3 yn rhoi Rhan 4 newydd yn lle’r Rhan 4 bresennol o Atodlen 4 i Orchymyn 2007, sy’n nodi’r modd y cymhwysir gydag addasiadau ddarpariaethau Rheolau Etholiadau Lleol (Cymunedau) (Cymru) 2021 pan fo’r bleidlais mewn etholiad cymuned yn cael ei chyfuno â’r bleidlais mewn etholiad Senedd Cymru. Mae hyn yn angenrheidiol oherwydd nad yw Rheolau Etholiadau Lleol (Plwyfi a Chymunedau) (Cymru a Lloegr) 2006 yn gymwys mwyach o ran Cymru. Gwneir y diwygiadau yn Rhan 3 o dan y pwerau a roddir gan adran 36A(5) a (6) o Ddeddf 1983.

Mae rheoliad 10 yn diwygio rheoliad 56(3B) a (3C) o Reoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Cymru a Lloegr) 2001 (O.S. 2001/341) ac fe’i gwneir o dan y pwerau a roddir gan baragraffau 4(2)(c) a 6(7) ac (8) o Atodlen 4 i Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 2000 (p. 2). Mewnosodwyd rheoliad 56(3B) a (3C) gan reoliad 8 o Reoliadau Llywodraeth Leol (Coronafeirws) (Gohirio Etholiadau) (Cymru) (Rhif 2) 2020 (O.S. 2020/1399 (Cy. 310)) ac, o dan reoliad 8(4), byddai’r rheoliad yn dod i ben ar ddiwedd 3 Rhagfyr 2022. Roedd rheoliad 56(3B) a (3C) yn galluogi ceisiadau penodol yn ymwneud â phleidleisio drwy ddirprwy i gael eu gwneud hyd 5 p.m. ar ddiwrnod y bleidlais mewn is-etholiad llywodraeth leol yng Nghymru ar seiliau sy’n ymwneud â phandemig Covid-19. Diwygiwyd y rheoliad wedi hynny gan Reoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Diwygio) (Cymru) (Coronafeirws) 2021 (O.S. 2021/193 (Cy. 375)) a Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Diwygio) (Cymru) (Coronafeirws) (Rhif 2) 2021 (O.S. 2021/1247 (Cy. 319)), ac roedd y Rheoliadau olaf hyn yn estyn cymhwysiad y diwygiadau i is-etholiadau y mae’r bleidlais ar eu cyfer yn digwydd cyn 28 Mawrth 2022. Mae rheoliad 10(2) a (3) yn gwneud diwygiadau pellach er mwyn estyn cymhwysiad y diwygiadau i bob etholiad llywodraeth leol yng Nghymru y mae’r bleidlais ar ei gyfer yn digwydd cyn 31 Mai 2023. Mae rheoliad 10(4) yn gwneud diwygiadau canlyniadol, gan gynnwys hepgor rheoliad 8(4) o Reoliadau Llywodraeth Leol (Coronafeirws) (Gohirio Etholiadau) (Cymru) (Rhif 2) 2020.

Mae rheoliad 11 yn cyflwyno Atodlen 4 sy’n gwneud diwygiadau canlyniadol pellach.

  • Mae paragraff 1 yn hepgor darpariaethau yn Neddf 2021 sydd bellach wedi eu disbyddu. Gwneir y diwygiadau hyn o dan y pwerau a roddir gan adran 36A(5) a (6) o Ddeddf 1983.

  • Mae paragraff 2 o’r Atodlen honno’n diwygio rheoliad 6 o Reoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Cyfuno Cynnal Pleidleisiau) (Cymru a Lloegr) 2004 (O.S. 2004/294). Mae hyn yn angenrheidiol gan fod darpariaeth ynghylch treuliau swyddogion canlyniadau mewn etholiadau lleol yng Nghymru bellach yn cael ei gwneud gan adran 36C o Ddeddf 1983 (fel y’i mewnosodwyd gan baragraff 2(5) o Atodlen 2 i Ddeddf 2021). Gwneir y diwygiadau hyn o dan y pwerau a roddir gan adran 173(1) a (2) o Ddeddf 2021.

  • Mae paragraff 3 o’r Atodlen honno’n diwygio rheoliad 4 o Reoliadau Etholiadau Comisiynwyr Heddlu a Throseddu (Swyddogaethau Swyddogion Canlyniadau) 2012 (O.S. 2012/1918) er mwyn ychwanegu cyfeiriadau at reol 55 o Reolau Etholiadau Lleol (Prif Ardaloedd) (Cymru) 2021 ac o Reolau Etholiadau Lleol (Cymunedau) (Cymru) 2021 (ymdrin â gwahanu papurau pleidleisio mewn pleidleisiau wedi eu cyfuno). Mae hyn yn angenrheidiol oherwydd na fydd y cyfeiriadau presennol at ddarpariaethau Rheolau Etholiadau Lleol (Prif Ardaloedd) (Cymru a Lloegr) 2006 a Rheolau Etholiadau Lleol (Plwyfi a Chymunedau) (Cymru a Lloegr) 2006 yn gymwys mwyach o ran Cymru. Gwneir y diwygiadau hyn o dan y pwerau a roddir gan adran 36A(5) a (6) o Ddeddf 1983.

Mae rheoliad 12 yn gwneud darpariaeth drosiannol fel nad yw dirymiadau perthnasol a diwygiadau eraill a wneir gan y Rheoliadau yn effeithio ar gynnal etholiad ar gyfer cynghorwyr i gyngor sir, cyngor bwrdeistref sirol neu gyngor cymuned yng Nghymru pan fo’r bleidlais yn yr etholiad yn digwydd cyn 5 Mai 2022. Gwneir y rheoliad hwn o dan y pwerau a roddir gan adran 36A(5) o Ddeddf 1983.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Yr Is-adran Democratiaeth Llywodraeth Leol, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ ac ar wefan Llywodraeth Cymru ar www.llyw.cymru.