Rheoliadau Etholiadau Lleol (Diwygiadau Amrywiol a Chanlyniadol) (Cymru) 2022

Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Cyfuno Cynnal Pleidleisiau) (Cymru a Lloegr) 2004

2.  Yn rheoliad 6 (addasu darpariaethau ynghylch treuliau yn Neddf 1983) o Reoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Cyfuno Cynnal Pleidleisiau) (Cymru a Lloegr) 2004(1), ym mharagraff (4), yn lle “subsections (4), (4B), (5) and (5A) respectively of section 36” rhodder “section 36(4), (4B) or (5) or section 36C(1) or (2)”.

(1)

O.S. 2004/294. Diwygiwyd rheoliad 6 gan baragraff 17 o Atodlen 2 i Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 a chan O.S. 2012/1917.