1.—(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Sir Fynwy (Cymunedau) 2022.
(2) At unrhyw ddiben a nodir yn rheoliad 4(1) o’r Rheoliadau, daw’r Gorchymyn hwn i rym ar 15 Mawrth 2022.
(3) At bob diben arall, daw’r Gorchymyn hwn i rym yn union ar ôl 23:59 o’r gloch ar y diwrnod cyn diwrnod arferol ethol cynghorwyr yn 2022(1).
Gwybodaeth Cychwyn
I1Ergl. 1 mewn grym ar 15.3.2022 at ddibenion penodedig, gweler ergl. 1(2)
I2Ergl. 1 mewn grym ar 4.5.2022 yn union ar ôl 23.59, gweler ergl. 1(3)
Mae Gorchymyn Awdurdodau Lleol (Newid Blynyddoedd Etholiadau Cyffredin) (Cymru) 2019 (O.S. 2019/1269 (Cy. 220)) yn diwygio adran 26(1) o Ddeddf 1972 i ddarparu y bydd etholiadau cyffredin cynghorwyr awdurdodau lleol yn cael eu cynnal yn y flwyddyn 2022 yn hytrach na 2021.