Dehongli

2.—(1Yn y Gorchymyn hwn—

ystyr “map” (“map”) yw’r map a farciwyd “Map ar gyfer Gorchymyn Sir Fynwy (Cymunedau) 2022” a adneuwyd yn unol â rheoliad 5 o’r Rheoliadau;

ystyr “y Rheoliadau” (“the Regulations”) yw Rheoliadau Newidiadau i Ardaloedd Llywodraeth Leol 1976(1);

ystyr “ward etholiadol” (“electoral ward”) yw unrhyw ardal yr etholir cynghorwyr drosti i Gyngor Sir Fynwy;

pan ddangosir bod ffin ar y map yn rhedeg ar hyd ffordd, rheilffordd, troetffordd, cwrs dŵr neu nodwedd ddaearyddol debyg, mae i’w thrin fel un sy’n rhedeg ar hyd llinell ganol y nodwedd.

(2Mae’r darpariaethau yn y Gorchymyn hwn yn cymryd blaenoriaeth dros unrhyw ddarpariaeth wrthdrawiadol mewn unrhyw orchymyn blaenorol a wnaed o dan adran 58(2) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 neu orchymyn a wnaed o dan adran 38(1) neu 39(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013(2).

(1)

O.S. 1976/246, y mae iddo ddiwygiadau nad ydynt yn berthnasol i’r Gorchymyn hwn.