xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2022 Rhif 279 (Cy. 80)

Llywodraeth Leol, Cymru

Gorchymyn Sir Fynwy (Cymunedau) 2022

Gwnaed

11 Mawrth 2022

Yn dod i rym yn unol ag erthygl 1(2) a (3)

Mae Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru(1), yn unol ag adrannau 54(1) a 58(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972(2) (“Deddf 1972”), wedi cyflwyno i Weinidogion Cymru(3) adroddiad dyddiedig Ionawr 2019 yn cynnwys ei argymhellion ar gyfer newid a manylion adolygiad o’r trefniadau cymunedol yn Sir Fynwy a gynhaliwyd gan Gyngor Sir Fynwy.

Mae Gweinidogion Cymru wedi penderfynu rhoi effaith i argymhellion y Comisiwn heb addasiad.

Yn unol ag adran 58(2) o Ddeddf 1972, mae mwy na 6 wythnos wedi mynd heibio ers i’r argymhellion hynny gael eu cyflwyno i Weinidogion Cymru.

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd i’r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 58(2) o Ddeddf 1972, ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy, i’r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru.

Enwi a chychwyn

1.—(1Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Sir Fynwy (Cymunedau) 2022.

(2At unrhyw ddiben a nodir yn rheoliad 4(1) o’r Rheoliadau, daw’r Gorchymyn hwn i rym ar 15 Mawrth 2022.

(3At bob diben arall, daw’r Gorchymyn hwn i rym yn union ar ôl 23:59 o’r gloch ar y diwrnod cyn diwrnod arferol ethol cynghorwyr yn 2022(4).

Dehongli

2.—(1Yn y Gorchymyn hwn—

ystyr “map” (“map”) yw’r map a farciwyd “Map ar gyfer Gorchymyn Sir Fynwy (Cymunedau) 2022” a adneuwyd yn unol â rheoliad 5 o’r Rheoliadau;

ystyr “y Rheoliadau” (“the Regulations”) yw Rheoliadau Newidiadau i Ardaloedd Llywodraeth Leol 1976(5);

ystyr “ward etholiadol” (“electoral ward”) yw unrhyw ardal yr etholir cynghorwyr drosti i Gyngor Sir Fynwy;

pan ddangosir bod ffin ar y map yn rhedeg ar hyd ffordd, rheilffordd, troetffordd, cwrs dŵr neu nodwedd ddaearyddol debyg, mae i’w thrin fel un sy’n rhedeg ar hyd llinell ganol y nodwedd.

(2Mae’r darpariaethau yn y Gorchymyn hwn yn cymryd blaenoriaeth dros unrhyw ddarpariaeth wrthdrawiadol mewn unrhyw orchymyn blaenorol a wnaed o dan adran 58(2) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 neu orchymyn a wnaed o dan adran 38(1) neu 39(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013(6).

Cymuned Caldicot — newidiadau i ffiniau wardiau cymunedol a newidiadau canlyniadol i wardiau etholiadol

3.  Mae’r ardal a ddangosir â llinellau ar y map—

(a)wedi ei throsglwyddo o ward The Village o gymuned Caldicot i ward Caldicot Cross o gymuned Caldicot;

(b)yn ffurfio rhan o ward etholiadol Croes Cil-y-coed.

Rebecca Evans

Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru

11 Mawrth 2022

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Rhoddodd Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru (“y Comisiwn”) adroddiad ym mis Ionawr 2019 ar adolygiad o drefniadau cymunedol yn Sir Fynwy a gynhaliwyd gan Gyngor Sir Fynwy. Roedd Adroddiad y Comisiwn yn argymell newidiadau i ffiniau presennol cymunedau yn ardal Cyngor Sir Fynwy a newidiadau canlyniadol i drefniadau etholiadol.

Mae Gweinidogion Cymru wedi gweithredu cynigion y Comisiwn i raddau helaeth yng Ngorchymyn Sir Fynwy (Cymunedau) 2021 (“Gorchymyn 2021”).

Mae erthygl 3 o’r Gorchymyn hwn yn cymryd blaenoriaeth dros erthygl 42 o Orchymyn 2021 (i’r graddau y mae’r erthygl honno’n ymwneud â throsglwyddo ardal o ward Green Lane o gymuned Caldicot i ward The Village o gymuned Caldicot), er mwyn rhoi effaith lawn i gynigion y Comisiwn.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Gorchymyn hwn.

Mae printiau o’r map y mae’r Gorchymyn hwn yn ymwneud ag ef wedi eu hadneuo yn swyddfeydd Llywodraeth Cymru ym Mharc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ (yr Is-adran Democratiaeth Llywodraeth Leol), a chyda Chyngor Sir Fynwy. Mae’r printiau sydd wedi eu hadneuo gyda Chyngor Sir Fynwy yn agored i gael eu harchwilio gan unrhyw un y bydd darpariaethau’r Gorchymyn hwn yn effeithio arnynt.

(1)

Sefydlwyd y Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol i Gymru gan adran 53 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (p. 70) (“Deddf 1972”) ac Atodlen 8 iddi. Diddymwyd adran 53 ac Atodlen 8 gan adran 73(2) o Ddeddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013 (dccc 4) (“Deddf 2013”) ac Atodlen 2 iddi. Mae Deddf 2013 yn ailenwi’r Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol i Gymru yn Gomisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru (gweler adran 2).

(2)

1972 p. 70. Diddymwyd adrannau 54 a 58 o Ddeddf 1972 gan adran 73 o Ddeddf 2013, ac Atodlen 2 iddi, ond fe’u harbedwyd gan adran 74 o Ddeddf 2013 mewn perthynas ag adolygiad a oedd yn cael ei gynnal o dan Ddeddf 1972 pan ddaeth Deddf 2013 i rym.

(3)

Trosglwyddwyd pwerau’r Ysgrifennydd Gwladol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac maent wedi eu breinio bellach yng Ngweinidogion Cymru yn rhinwedd paragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32).

(4)

Mae Gorchymyn Awdurdodau Lleol (Newid Blynyddoedd Etholiadau Cyffredin) (Cymru) 2019 (O.S. 2019/1269 (Cy. 220)) yn diwygio adran 26(1) o Ddeddf 1972 i ddarparu y bydd etholiadau cyffredin cynghorwyr awdurdodau lleol yn cael eu cynnal yn y flwyddyn 2022 yn hytrach na 2021.

(5)

O.S. 1976/246, y mae iddo ddiwygiadau nad ydynt yn berthnasol i’r Gorchymyn hwn.